2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i roi'r brechlyn COVID-19 i blant? OQ56562
Ar 4 Mehefin, yn dilyn adolygiad trylwyr, cymeradwyodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y defnydd o'r brechlyn Pfizer-BioNTech yn ddiogel ac yn effeithlon mewn plant rhwng 12 a 15 oed. Cam cyntaf yn y broses yn unig yw hwn, ac fel gwledydd eraill y DU, rydym yn aros yn awr am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Diolch ichi am eich ateb. Rydym bellach wedi brechu cyfran fwy o'n poblogaeth nag unrhyw wlad arall sydd â mwy nag 1 filiwn o bobl, ac mae'r llwyddiant eithriadol hwn yn golygu y gallai Cymru ddechrau brechu plant, tra'n aros am y dystiolaeth a'r cyngor rydych newydd eu crybwyll. Ond mae arwain y byd yn golygu na allwn ddilyn drwy esiampl, a bydd cynnig y brechlyn i blant yn her newydd. Un o'r heriau hynny yw y bydd pobl eraill yn gwneud y penderfyniadau ar ran y plant hynny, ac mae hynny'n iawn wrth gwrs. Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn penderfynu a ydynt yn ei gael ai peidio. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer yr her newydd hon wrth inni ddechrau ar y cam hollbwysig nesaf o gyflwyno'r brechlyn?
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Fel y dywedwch, mae'n rhaid inni aros am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu cyn symud ymlaen ac mae llawer o faterion moesegol a moesol y mae angen inni weithio drwyddynt. Efallai ein bod am ystyried plant sy'n agored iawn i niwed yn glinigol neu blant sy'n byw gyda phobl sy'n agored iawn i niwed yn gyntaf; mae angen inni feddwl sut ac os ydym am wneud hyn. Oherwydd yr hyn a wyddom yw nad yw plant yn gyffredinol yn dioddef cymaint â hynny os ydynt yn dal COVID, ond fe allant ei drosglwyddo. Felly, byddwn yn aros am y cyngor hwnnw, ond yn y cyfamser rydym yn paratoi rhag ofn, i raddau. Yn sicr, credaf mai'r hyn y byddem am ei wneud, pe baem yn dewis y llwybr hwnnw, fyddai sicrhau ein bod yn mireinio ein cyfathrebiadau, i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor a'r wybodaeth i rieni, cymaint ag y gallwn, fel y gallant wneud dewis gwybodus ar ran eu plant. Ac yn ôl pob tebyg, os ydym yn sôn am y garfan hŷn o blant—pobl ifanc 16 i 18 oed—mae hwnnw'n grŵp ychydig yn wahanol eto, ac rwy'n meddwl, mae'n debyg, y byddem am iddynt ystyried gwneud eu penderfyniadau eu hunain yn hyn o beth, a byddai'n rhaid inni gyfathrebu â hwy mewn ffordd wahanol iawn, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn uniongyrchol efallai. Felly, mae llawer i ni ei ystyried o hyd yn y maes hwn. Rydym eisoes wedi dechrau trafod y materion hyn ymysg ein gilydd wrth gwrs, ond ni allwn wneud dim hyd nes ein bod wedi cael cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi cyfeirio at yr angen am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar hyn, oherwydd, wrth gwrs, mae rhai rhieni'n pryderu y gallai ysgolion unigol ledled Cymru fynnu bod y defnydd o'r brechlyn yn ofynnol neu'n orfodol. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni na fydd plant yn cael eu brechu heb eu caniatâd? A pha drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod yn y Cabinet dros addysg ynglŷn â'r rôl y bydd brechu'n ei chwarae o ran gallu codi cyfyngiadau yn ein hysgolion, sydd wrth gwrs yn dal i fynnu bod llawer o blant—er eu bod yn annhebygol tu hwnt o fynd yn sâl, ac mae gennym ganran gynyddol o'r boblogaeth oedolion wedi'u brechu—i wisgo mygydau bob dydd yn yr ysgol?
Diolch yn fawr iawn, Darren. Fe fyddwch yn ymwybodol nad ydym wedi gorfodi neb yn y wlad i gael y brechlyn, ac er hynny, rydym wedi gweld niferoedd anhygoel o bobl yn manteisio arno. Os gallwn, rydym yn sicr am gadw at y llwybr hwnnw drwy berswâd. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn hynod lwyddiannus, a hoffem barhau yn yr un modd, ac yn sicr, mewn perthynas â phlant, rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig iawn.
Rydym yn awyddus iawn, wrth gwrs, i weithio gyda'r awdurdodau addysg, gyda'r undebau addysg ynglŷn â'r sgwrs honno sy'n mynd rhagddi ar fasgiau mewn ysgolion, fel bod—. Gwn fod y Gweinidog addysg wedi bod mewn trafodaethau dwys ar hynny. Ein huchelgais drwy gydol yr argyfwng hwn fu ceisio cadw ysgolion ar agor, a rhaid inni gydbwyso'r cwestiwn o roi'r brechlyn i blant gyda'r angen i gadw ysgolion ar agor hefyd. Felly, dyna ffactor arall sydd angen inni ei ystyried pan fyddwn yn gwneud y penderfyniad eithriadol o anodd hwn. Ac wrth gwrs, dyna fydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ei ystyried hefyd.