Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Darren. Fe fyddwch yn ymwybodol nad ydym wedi gorfodi neb yn y wlad i gael y brechlyn, ac er hynny, rydym wedi gweld niferoedd anhygoel o bobl yn manteisio arno. Os gallwn, rydym yn sicr am gadw at y llwybr hwnnw drwy berswâd. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn hynod lwyddiannus, a hoffem barhau yn yr un modd, ac yn sicr, mewn perthynas â phlant, rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig iawn.
Rydym yn awyddus iawn, wrth gwrs, i weithio gyda'r awdurdodau addysg, gyda'r undebau addysg ynglŷn â'r sgwrs honno sy'n mynd rhagddi ar fasgiau mewn ysgolion, fel bod—. Gwn fod y Gweinidog addysg wedi bod mewn trafodaethau dwys ar hynny. Ein huchelgais drwy gydol yr argyfwng hwn fu ceisio cadw ysgolion ar agor, a rhaid inni gydbwyso'r cwestiwn o roi'r brechlyn i blant gyda'r angen i gadw ysgolion ar agor hefyd. Felly, dyna ffactor arall sydd angen inni ei ystyried pan fyddwn yn gwneud y penderfyniad eithriadol o anodd hwn. Ac wrth gwrs, dyna fydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ei ystyried hefyd.