Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 9 Mehefin 2021.
Rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi cyfeirio at yr angen am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar hyn, oherwydd, wrth gwrs, mae rhai rhieni'n pryderu y gallai ysgolion unigol ledled Cymru fynnu bod y defnydd o'r brechlyn yn ofynnol neu'n orfodol. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni na fydd plant yn cael eu brechu heb eu caniatâd? A pha drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod yn y Cabinet dros addysg ynglŷn â'r rôl y bydd brechu'n ei chwarae o ran gallu codi cyfyngiadau yn ein hysgolion, sydd wrth gwrs yn dal i fynnu bod llawer o blant—er eu bod yn annhebygol tu hwnt o fynd yn sâl, ac mae gennym ganran gynyddol o'r boblogaeth oedolion wedi'u brechu—i wisgo mygydau bob dydd yn yr ysgol?