Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 9 Mehefin 2021.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod James am gyflwyno'r cynnig fel y gwnaeth a diolch i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr am y gefnogaeth heddiw? Fel y soniodd eraill, anghrediniaeth a dicter fu'r ymateb i'r parth perygl nitradau cyffredinol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd Ionawr 2021. Yn anffodus, mae ystyried ei bod yn system reoleiddio effeithiol sy'n cyflawni ar gyfer ein hamgylchedd ac economi Cymru yn gyfeiliornus, ac yn safbwynt sy'n dangos diffyg cysylltiad ar ran y Llywodraeth. Mae'n amlwg fod undebau'r ffermwyr, a miloedd o ffermwyr ledled Cymru yn wir, yn gweld y dull hwn yn yr un ffordd. Eu barn hwy a fy marn i yw y bydd y manteision a honnwyd i ansawdd dŵr o'r dull hwn o weithredu yn gymharol ddibwys ac yn sicr yn cael eu bwrw i'r cysgod gan yr effeithiau economaidd negyddol a fydd yn deillio o hynny.
Bob dydd, clywn am fusnesau ffermio'n ystyried rhoi'r ffidil yn y to oherwydd y buddsoddiadau ychwanegol sydd eu hangen i gydymffurfio a baich ychwanegol rheoliadau llawdrwm sydd i ddod. Mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried yn gam yn rhy bell ac yn y rhan fwyaf o feddyliau busnes, yn gwbl ddiangen. Ac nid rhethreg yn unig yw hynny; mae'n ffaith. Rwy'n siarad â ffermwyr yn rheolaidd ac mae hon yn ystyriaeth wirioneddol. Dyma'r adeg lle dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i geisio sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd a pheidio â tharo busnesau ffermio gyda'r ffon fawr drosiadol hon. Rhaid inni beidio ag anghofio mai ffermwyr yw gwarcheidwaid ein cefn gwlad bendigedig, a phrif gynheiliad ein heconomi leol. Hwy sy'n gwneud Cymru yr hyn ydyw. Dylai'r Llywodraeth weithio gyda hwy ac nid yn eu herbyn.
Roedd creu cyfraith o un o'r darnau mwyaf aneffeithiol o ddeddfwriaeth yr UE yn gamgymeriad enfawr. Gwyddom fod y grŵp arbenigol a gadeiriwyd gan CNC yn 2018 wedi cyflwyno 45 o argymhellion yn seiliedig ar gyngor ac arweiniad cadarn, gan ganolbwyntio ar ddulliau gwirfoddol, buddsoddiad, cymorth a rheoleiddio deallus, a'r cyfan gyda'r nod o wella ansawdd dŵr. Ond cafodd hyn ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru, er i CNC, rheoleiddiwr y Llywodraeth ei hun, ei gefnogi. Nid oes unrhyw un yn anghytuno â'r angen i reoleiddio, ond rhaid iddo fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r diwydiant yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â materion pan gânt eu nodi a bydd yn gweithredu'n wirfoddol i ymdrin â'r pethau hyn, ond nid parth perygl nitradau Cymru gyfan yw'r ffordd ymlaen gan nad yw'r canlyniadau ehangach yn ymwneud â'r economi a bwyd wedi'u hystyried yn briodol.
Aelodau, mae cyfle gwirioneddol gan y Senedd newydd hon i ailfeddwl, i ystyried. Nid oes raid iddi barhau â'r hyn a ddigwyddodd o'r blaen; Senedd newydd yw hi gyda phobl newydd, meddyliau newydd a dyheadau newydd. Rwyf innau hefyd yn cefnogi'r cynnig i alw am bwyllgor perthnasol i adolygu'r sefyllfa hon ar frys. Rwy'n gwybod y byddai cefnogaeth aruthrol gan y diwydiant, a phleidiau gwleidyddol eraill, fel y gwelsom yma heddiw, i ddod o hyd i ffordd well a mwy cynhyrchiol ymlaen sy'n canolbwyntio ar ddiogelu busnesau teuluol wrth fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ac ymdrechu i gael economi wledig gynaliadwy, wedi'i chadarnhau gan awydd i gynnal diogelwch cyflenwad bwyd a dŵr o ansawdd uchel. Rwy'n annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.