1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2021.
2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd trafnidiaeth ledled Cymru? OQ56609
Llywydd, mae ein strategaeth ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth ledled Cymru wedi ei chyflwyno nodi yn strategaeth drafnidiaeth Cymru, 'Llwybr Newydd'. Ar gyfer y de-ddwyrain, er enghraifft, mae hon yn manteisio ar argymhellion comisiwn Burns a'i 58 o argymhellion, yn amrywio o welliannau ar brif reilffordd de Cymru i fesurau lleol.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ddoe, cefais gyfarfod â chynrychiolwyr Paragon ID, prif ddarparwyr cardiau clyfar ar gyfer trafnidiaeth a dinasoedd deallus. Maen nhw'n gyfrifol am ddarparu cardiau clyfar ar gyfer dros 150 o ddinasoedd ledled y byd a nhw oedd yn gyfrifol am y cerdyn Oyster, fel y'i gwelir yma, yn Llundain. Prif Weinidog, mae gweld cerdyn teithio i Gymru gyfan yn rhywbeth yr wyf i'n angerddol amdano. Rwy'n gobeithio cael cerdyn yn union fel hyn a fydd yn caniatáu i bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol a grŵp oedran ddefnyddio'r cerdyn hwn. Er enghraifft, gallai person fynd ar fws o'i gartref yng Nghasnewydd i'r orsaf reilffordd ac yna defnyddio'r un cerdyn ar y trên i Abertawe a dal y bws o orsaf Abertawe, er enghraifft, i Brifysgol Abertawe. Yn ystod ein trafodaeth, daeth yn amlwg bod llawer o'r dechnoleg ar gyfer cerdyn teithio i Gymru gyfan eisoes ar waith, a'r cyfan sydd ei angen i wireddu hyn yw i Lywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid a darparu'r buddsoddiad. Bydd sefydlu tocyn teithio i Gymru i'w ddefnyddio ar rwydweithiau lleol neu isranbarthol ar draws yr holl weithredwyr yn sicrhau teithiau mwy di-dor i drigolion, twristiaid, cymudwyr a myfyrwyr ledled Cymru gyfan, ac yn y pen draw yn annog twristiaeth, gan gynorthwyo ymwelwyr i deithio'n rhwydd ac yn gyfleus o'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin. A wnewch chi, Prif Weinidog, ymrwymo i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cerdyn teithio i Gymru gyfan, yn debyg i'r cerdyn Oyster yma, yng Nghymru? Ac rwy'n addo peidio â gwneud i chi ei alw'n gerdyn teithio Natasha Asghar os gwnewch chi.
Wel, Llywydd, hoffwn longyfarch yr Aelod ar ei phenodiad fel llefarydd trafnidiaeth yr wrthblaid, a diolch iddi am y syniadau y mae hi wedi sôn amdanynt y prynhawn yma. Tra'r oedd hi'n cyfarfod â'i grŵp ddoe, roeddwn i'n cyfarfod â grŵp o entrepreneuriaid o Gaerdydd a oedd yn hyrwyddo'r syniad o gerdyn i Gymru i mi y maen nhw wedi bod yn ei ddatblygu, a fyddai â rhai o'r un nodweddion â'r cerdyn y mae hi newydd ei amlinellu. Felly, mewn egwyddor, credaf fod llawer iawn sy'n werth ei archwilio yn y syniadau y mae'r Aelod wedi eu nodi. Nid wyf i'n credu y byddai'n iawn i mi ymrwymo i ateb penodol wedi'i hybu gan gwmni penodol neu grŵp o gwmnïau, ond mae hi'n gofyn i mi a wnaf i ymrwymo i archwilio'r posibilrwydd o gerdyn a fyddai'n gwella cysylltedd trafnidiaeth ledled Cymru, ac rwy'n hapus iawn i roi'r ymrwymiad hwnnw.
Os ydym ni am gael rhwydwaith trafnidiaeth sydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yna mae'n rhaid iddo wasanaethu'r cerbydau fydd yn teithio ar hyd y ffyrdd hynny. Hyd yma, nid yw'r rhwydwaith yn addas i'r pwrpas hwnnw. Nid oes yna ddigon o bwyntiau gwefru, heb sôn am orsafoedd hydrogen. Dwi'n nodi bod eich rhaglen ddeddfwriaethol, y byddwch chi'n cyfeirio ati yn nes ymlaen prynhawn yma, yn dweud y byddwch yn creu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, ond does yna ddim manylion yn hynny. A gawn ni sicrwydd y bydd ein rhwydwaith ffyrdd yn addas i bwrpas ar gyfer cerbydau newydd ac na fydd ardaloedd cefn gwlad yn colli allan? Ac a gawn ni hefyd amserlen ar gyfer datblygu'r pwyntiau gwefru a gorsafoedd hydrogen fydd eu hangen arnom ni? Diolch.
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn, ac, wrth gwrs, dwi'n cytuno â phwysigrwydd creu pethau yn eu lle ac yn y maes sy'n addas inni yn y dyfodol. Dwi ddim yn setio mas y rhaglen ddeddfwriaethol brynhawn yma; bydd hynny'n dod o flaen y Senedd cyn diwedd y tymor, ond roedd deddfu ym maes bysiau a thacsis yn enwedig yn rhywbeth a oedd yn ein rhaglen ni cyn yr etholiad, a dŷn ni'n awyddus i fwrw ymlaen i ddeddfu yn y maes yna i helpu creu system i'r dyfodol sydd yn addas. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n meddwl am gefn gwlad. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi fel Llywodraeth mewn charging points. Ym marn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae lan i'r farchnad i greu posibiliadau fel yna, ond rydym ni'n gwybod na fydd hynny'n digwydd dros Gymru gyfan os ydym ni jest yn dibynnu ar y farchnad breifat. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi fel Llywodraeth ac rydym ni'n buddsoddi yng nghefn gwlad hefyd.
Prif Weinidog, rwy'n credu bod croeso eang iawn i'r £70 miliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella rheilffordd cwm Ebwy dros y blynyddoedd nesaf, a thrwy wneud y buddsoddiad hwn, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi yn y materion hyn, ac rwy'n credu y byddai llawer ohonom ni'n dymuno i Lywodraeth y DU wario cymaint ar seilwaith Cymru ag y maen nhw ar eu swyddogion y wasg eu hunain; efallai y byddem ni mewn gwell sefyllfa. Prif Weinidog, a allech chi roi amlinelliad i ni y prynhawn yma o'r amserlen ar gyfer y gwelliannau yr ydym ni'n gobeithio eu gweld ar reilffordd cwm Ebwy? A allech chi hefyd roi addewid i mi y byddwch chi a'r Llywodraeth yn parhau i ymgyrchu dros ddatganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau y bydd yr arfau a'r arian gennym ni i wneud y gwaith ein hunain?
Diolchaf i Alun Davies am hynna, Llywydd. Roedd yn destun siom fawr i ni, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU o'r diwedd, ei hymateb a oedwyd am gyhyd i adolygiad Williams. Nid oedd yn sôn o gwbl yn yr ymateb hwnnw am y potensial ar gyfer datganoli cyfrifoldeb am seilwaith rheilffyrdd ymhellach yn y dyfodol, gan fod hynny yn rhan o'r cylch gorchwyl gwreiddiol a bennwyd gan Lywodraeth y DU ei hun ar gyfer adolygiad Williams.
Ond, yn y pen draw, dewisodd anwybyddu'r holl agwedd honno, er gwaethaf y ffaith bod adolygiad Hendy o gysylltedd yr undeb yn dweud yn benodol bod datganoli cyfrifoldebau trafnidiaeth ar draws y Deyrnas Unedig wedi bod yn llwyddiant. Mae adolygiad Hendy yn annog Llywodraeth y DU i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, ac edrychaf ymlaen at y prawf gwirioneddol hwnnw o Lywodraeth y DU pan fydd yn cyhoeddi ei hymateb terfynol i adolygiad Hendy yr haf hwn.
O ran rheilffordd cwm Ebwy, roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu darparu'r £70 miliwn hwnnw i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Bydd yn ein galluogi ni, Llywydd, i fwrw ymlaen â mwy o wasanaethau i'r rhan honno o Gymru. O fis Rhagfyr eleni, bydd gwasanaeth newydd bob awr yn cael ei gyflwyno ar reilffordd Glyn Ebwy o Crosskeys i Gasnewydd, a bydd y £70 miliwn yr ydym ni wedi ei ddarparu yn caniatáu i ddau drên yr awr weithredu ar y rheilffordd honno o Lynebwy ei hun o 2023 ymlaen.
Felly, mae'r cynlluniau ar waith i ddefnyddio'r arian hwnnw i wella gwasanaethau yn y ffordd y mae'r Aelod wedi ei awgrymu ac i ateb rhai o'r cwestiynau a godwyd eisoes y prynhawn yma, Llywydd, oherwydd nid yn unig y byddan nhw'n dod â gwell cyfleusterau trafnidiaeth i'r rhan honno o Gymru, ond byddan nhw hefyd yn caniatáu i bobl ddefnyddio system gludiant cyhoeddus effeithiol a chyfleus, gan adael y car gartref ac ychwanegu at y manteision hynny o aer glân a gwelliannau amgylcheddol eraill yr ydym ni eisoes wedi eu trafod heddiw.