1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2021.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gallu i recriwtio staff iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol? OQ56607
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r pandemig wedi dangos yn eglur bwysigrwydd hanfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r ymwybyddiaeth gynyddol hon, newidiadau cadarnhaol mewn arferion gwaith a datblygu modelau gofal newydd i gyd yn darparu'r sail ar gyfer recriwtio staff yn y dyfodol, gan ymuno â'r niferoedd uchaf erioed sydd eisoes yn cael eu cyflogi gan ein GIG yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, dywedodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd y DU, yn ei adroddiad damniol, bod staff y GIG a staff gofal mor flinedig fel bod dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn perygl. Er bod eu hadroddiad yn ymwneud â Lloegr yn unig, rwy'n siŵr nad yw pethau yn llawer gwell ar yr ochr hon i Glawdd Offa. Hyd yn oed cyn i'r pandemig daro'r glannau hyn, roedd ein staff iechyd a gofal wedi blino yn lân ac wedi eu gorymestyn; y cwbl y mae COVID-19 wedi ei wneud yw gwaethygu'r sefyllfa. Ar ôl gweithio yn y sector am dros ddegawd, gallaf ddweud wrthych chi yn bersonol bod llawer o staff yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r baich a roddir arnyn nhw oherwydd prinder staff. Siaradodd chwythwyr chwiban dros y penwythnos am y pwysau y mae rheolwyr yn ei roi ar staff i weithio oriau hwy. Oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd, bydd mwy a mwy o staff yn cael eu gorfodi i adael. Prif Weinidog, beth fydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod gennym ni ddigon o staff yn gweithio ym maes gofal iechyd er mwyn lleihau'r baich ar staff presennol a sicrhau diogelwch cleifion?
Llywydd, nid oes gennyf i amheuaeth o gwbl bod y pwysau a deimlir gan ein staff iechyd a gofal cymdeithasol ardderchog yn real iawn. Maen nhw wedi gweithio drwy un o'r cyfnodau anoddaf yn ein hoes ni, ac maen nhw bellach yn gweithio yr un mor galed i geisio gwneud iawn am yr holl bethau hynny nad ydyn nhw wedi bod yn bosibl wrth ymdrin â'r coronafeirws, ac maen nhw'n gwneud hynny nawr mewn amgylchedd o gynnydd yr amrywiolyn delta yma yng Nghymru, gyda'r posibilrwydd realistig y bydd yn anfon mwy o bobl yn ôl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Mr Davies wedi ei ddweud am y pwysau y mae pobl wedi gweithio oddi tano.
Beth ydym ni'n ei wneud i helpu i fynd i'r afael â hynny? Wel, rydym ni'n cyflogi mwy o staff. Ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd, roedd 74,000 o staff yn y GIG yng Nghymru; wrth i ni gychwyn y tymor hwn, mae dros 85,000 o aelodau staff. Mae'r rheini yn gyfwerth ag amser llawn: mewn cyfrif pen, mae ymhell dros 100,000, ac mae hynny dros 11,000 yn fwy o staff yn y GIG mewn un tymor, a hynny ar adeg pan yr oedd ei Lywodraeth ef yn San Steffan yn torri cyllidebau Llywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n ei weld yn ysgwyd ei ben, ond mae'n fater syml o ffaith, ffaith nad yw'n cael ei gwadu gan ei Lywodraeth ef yn Lloegr, a ddywedodd wrthym ni fod cyni cyllidol yn rhywbeth na ellid ei osgoi yn llwyr. Er gwaethaf hynny, aethom ati i gyflogi mwy o staff yn y GIG yma yng Nghymru. Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym ni wedi cynyddu'r lleoedd hyfforddi ar gyfer ffisiotherapyddion gan 44 y cant, ar gyfer lleoedd hyfforddi nyrsys gan 72 y cant, ar gyfer bydwreigiaeth gan 97 y cant. Bydd y bobl hynny yn dod allan o hyfforddiant, gan gynnwys yr ysgol feddygol newydd yr ydym ni wedi ymrwymo iddi yn y gogledd, i wneud yn siŵr bod pwyslais penodol ar staffio yn y gogledd—byddan nhw ar gael i weithio yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Byddan nhw'n ymuno â'r staff ychwanegol hynny sydd eisoes yno, a byddan nhw'n helpu—byddan nhw'n helpu. Ac nid yw'n ateb ar ei ben ei hun, rwy'n deall hynny, ond byddan nhw'n helpu i fynd i'r afael â'r effaith y mae'r 12 mis diwethaf wedi ei chael ar ein staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn helpu i godi'r baich hwnnw oddi arnyn nhw.
Mae recriwtio doctoriaid yn parhau i fod yn broblem yn ardal y gogledd, fel rydych chi'n gwybod, efo gormod o lawer o arian yn mynd ar gyflogi locyms a gormod o lawer o swyddi gwag mewn meddygfeydd. Dwi'n falch iawn eich bod chi yn cefnogi galwadau cyson Plaid Cymru am ysgol feddygol ym Mangor, ac rydych chi newydd gadarnhau hynny rŵan eto, a bod hyn yn cael ei weithredu arno fo erbyn hyn. Felly, wnewch chi gadarnhau y gallai'r ysgol feddygol agor yn y flwyddyn 2025, ymhen pedair blynedd, sef yr hyn mae'r bwrdd iechyd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar?
Wel, Llywydd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ceir grŵp sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Elizabeth Treasure, is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, hi ei hunan yn uwch glinigydd nodedig iawn yn GIG Cymru, i ddatblygu'r cynlluniau ar gyfer yr ysgol feddygol ym Mangor. Mae cam un eu gwaith wedi'i gwblhau; mae cam dau eu gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Mae'n cynnwys y bwrdd iechyd lleol, mae'n cynnwys cynrychiolwyr proffesiynol hefyd, mae'n cynnwys rhai lleisiau eraill a fydd yn cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o wneud yn siŵr bod y prosiect hwnnw yn cael ei gwblhau yn briodol ac yn gwneud y cyfraniad yr ydym ni i gyd eisiau ei weld i wneud yn siŵr bod meddygon ac aelodau eraill o'r tîm clinigol ar gael yn y gogledd. Mae'r tîm yn bwriadu cwblhau cam dau eu gwaith ym mis Gorffennaf, ac ar yr amod ei fod yn cyrraedd yn y ffordd honno, gwn y bydd y Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad i'r Aelodau yn y fan yma, gan fanteisio ar eu cyngor a gosod yr amserlen yn unol â'r hyn y mae Siân Gwenllian wedi cyfeirio ato y prynhawn yma.
Roedd yn—[Anghlywadwy.]—ymweld ag Ysbyty Tywysoges Cymru yn fy etholaeth i, Pen-y-bont ar Ogwr, yr wythnos diwethaf, a chyfarfod â'r staff anhygoel. Maen nhw wedi bod yn aruthrol drwy gydol y pandemig, a gwn fod pawb yn y fan yma heddiw yn eu cydnabod, yn eu gwerthfawrogi ac yn diolch iddyn nhw am eu dewrder, am yr aberthau y maen nhw wedi eu gwneud, ac am eu hymrwymiad cyson i ofal cleifion. Maen nhw a minnau yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael nawr â'r rhestr aros am lawdriniaethau, yn enwedig orthopedeg ac offthalmoleg, yn ogystal â'r £100 miliwn o gyllid i'n byrddau iechyd i ddechrau ar y gwaith hanfodol hwn. Fel y gwn fod ein Prif Weinidog yn ymwybodol, er mwyn clirio'r ôl-groniad o lawdriniaethau llawfeddygol, bydd angen i ni gael digon o staff theatr i gynorthwyo. Fodd bynnag, ceir prinder o ymarferwyr adrannau llawdriniaeth ar hyn o bryd, sy'n arwain at gyfyngiad ar nifer y llawdriniaethau y gellir eu cyflawni. A wnaiff ein Prif Weinidog ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod ni nid yn unig yn denu digon o ODPs i helpu i glirio'r ôl-groniad presennol ond hefyd i sicrhau bod gennym ni gyflenwad ohonyn nhw yn y dyfodol ar gyfer ein GIG yng Nghymru?
Wel, Llywydd, diolchaf i Sarah Murphy am y cwestiwn pwysig yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at swyddogaeth allweddol ymarferwyr adrannau llawdriniaeth o fewn y tîm llawfeddygol. Bydd hi'n gwybod o'i hymweliad ag Ysbyty Tywysoges Cymru nad staff yn unig yw'r her bresennol o ran theatrau llawdriniaeth, ond hefyd ymdrin â'r cyfyngiadau sy'n ofynnol yng nghyd-destun y coronafeirws ar gyfer sicrhau arfer diogel. Bydd hi wedi clywed, rwy'n siŵr, yn uniongyrchol gan staff am sut y mae'n rhaid glanhau theatrau yn drylwyr rhwng pob llawdriniaeth, o ran sut yr oedd rhai llawdriniaethau—lle'r oedd hi'n bosibl cael rhestr lawdriniaeth yn cynnwys wyth llawdriniaeth mewn diwrnod, dim ond tri mewn diwrnod y gallan nhw eu cyflawni ar hyn o bryd, hyd yn oed pan fyddan nhw wedi eu staffio yn llawn, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws. Serch hynny, mae yn llygad ei lle wrth nodi bod ymarferwyr adrannau llawdriniaeth yn allweddol.
Bydd hi'n gwybod ein bod ni eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £100 miliwn yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru i'w helpu gyda'r adferiad yn sgil y pandemig, ac mae hynny eisoes yn helpu i recriwtio staff theatr ychwanegol. Ond fe wnaeth yr Aelod bwynt pwysig arall: nid yw'n fater syml o recriwtio mwy o staff sydd eisoes wedi'u hyfforddi; mae angen gwneud yn siŵr hefyd bod y system hyfforddi yng Nghymru yn cynhyrchu'r staff y bydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Ac mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi nodi ei gynlluniau i wneud hynny. Mae ganddo gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y meddygon, ond hefyd yr holl bobl eraill hynny y mae'r gwasanaeth iechyd yn dibynnu arnyn nhw, ac mae ymarferwyr adrannau llawdriniaeth ymhlith y bobl hynny.