Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 15 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth inni ddechrau canolbwyntio ar wahanol agweddau ar yr adferiad o bandemig y coronafeirws, rhaid inni beidio ag anghofio'r bobl y mae'r feirws wedi achosi niwed parhaol iddynt. I rai unigolion, er eu bod wedi cael profiad ysgafn iawn neu asymptomatig o'r feirws ei hun, rŷn ni'n ymwybodol bod nifer yn dioddef o un neu fwy o symptomau, gan gynnwys diffyg anadl, anallu i feddwl yn glir, blinder, poen yn y cymalau a nifer o symptomau eraill. Effeithiwyd hefyd ar iechyd a lles nifer sylweddol o bobl nad oeddent wedi dal y feirws eu hun. Mae'r NHS yng Nghymru yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod yr adferiad yn helpu'r boblogaeth gyfan yn deg.
Mae COVID hir yn ganlyniad i'r feirws dŷn ni dal ddim yn ei ddeall yn llwyr. Dŷn ni ddim yn gwybod eto pam fod rhai yn dioddef ac eraill ddim. Dŷn ni ddim yn gwybod eto am ba hyd y bydd COVID hir yn para, na pham fod yr ystod o symptomau mor eang. A does dim modd ar hyn o bryd cynnig moddion penodol chwaith i wella’r symptomau. Er ein bod yn cefnogi ac yn monitro'r ymchwil yn y meysydd hyn, mae'n rhaid inni helpu pobl i reoli symptomau'r cyflwr hwn a byw bywyd mor llawn ag y gallant. Dyna pam, heddiw, dwi'n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £5 miliwn i ddatblygu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol i gefnogi'r unigolion hyn ac eraill sydd ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i effeithiau'r pandemig. Bydd yr arian yn cefnogi rhaglen llwybr cleifion newydd o’r enw Adferiad, ac yn ehangu'r ddarpariaeth o ran rhoi diagnosis, triniaeth, adsefydlu a gofal i'r rhai sy'n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19, gan gynnwys COVID hir yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn o wneud y cyhoeddiad hwn ar y diwrnod rŷn ni'n cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu. Yn ystod y tymor yma, rŷn ni wedi ymrwymo i gefnogi ein NHS i ailadeiladu, gan gynnwys bwrw ymlaen â'n cynlluniau i ddod â gwasanaethau meddygon teulu ynghyd â fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, y gymuned a'r trydydd sector.
Bydd yr arian ar gyfer rhaglen Adferiad yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithwyr proffesiynol iechyd a staff i adsefydlu a chreu seilwaith sylfaenol a chymunedol ychwanegol, gan gynnwys cymorth ar gyfer datblygu systemau diagnostig cymunedol ym maes gofal sylfaenol. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant ac adnoddau digidol o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu pob gweithiwr iechyd proffesiynol i ddatblygu eu harbenigedd wrth wneud diagnosis ac ymchwilio a thrin COVID hir a helpu pobl i gael eu hadsefydlu. Bydd hefyd yn cefnogi buddsoddiad mewn offer digidol a fydd yn gwella gwaith modelu ‘galw a chapasiti’ ac yn sicrhau bod yr NHS yn helpu pobl i wneud y penderfyniadau cywir o ran eu gofal a’u triniaeth.