Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 15 Mehefin 2021.
Yng Nghymru, ein nod wrth gynllunio ein gwasanaethau yw cydweithio gyda'r rhai sy'n eu defnyddio a'u darparu. Ein gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl sy'n cael yr effeithiau tymor hwy hyn o COVID-19 yw'r rhai sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion pobl a pha ymyrraeth fydd yn diwallu'r anghenion hynny orau. Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ledled y byd i sicrhau bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn llywio ein penderfyniadau a'n hymatebion. Mae angen adnoddau a phwyslais ychwanegol ar hyn o bryd ym maes gofal sylfaenol a chymunedol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth a'r driniaeth gywir i sicrhau'r adferiad gorau posibl i bobl. Mae hyn hefyd yn cefnogi'r nod strategol yn 'Cymru Iachach' i ddarparu gofal priodol a darbodus mor agos i gartref â phosibl.
Rwyf wedi treulio amser yn siarad â'r rhai sy'n dioddef o COVID hir, ac un o'r darnau o adborth—. Ac roeddwn yn falch iawn o gwrdd â'r grŵp sydd newydd ei sefydlu amser cinio heddiw, y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir. A'r adborth yr wyf yn ei gael amlaf yw nad yw pobl yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth, neu, pan fyddan nhw'n gofyn, mae posibilrwydd nad yw'r unigolyn y maen nhw'n siarad ag ef yn gwybod pa gymorth a allai fod ar gael. Felly, mewn ymateb i'r pryderon hyn, ochr yn ochr â'r rhaglen Adferiad, byddwn yr wythnos hon yn lansio canllaw Cymru gyfan ar gyfer rheoli COVID hir. Mae'r canllaw pwysig hwn i weithwyr iechyd proffesiynol yn cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer rheoli COVID hir ar draws y GIG yng Nghymru, ac fe'i cefnogir gan becyn o adnoddau addysg cynhwysfawr. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar y broses atgyfeirio i ofal eilaidd lle bo angen a chanllawiau clir ynghylch pryd i drefnu diagnosteg i bobl sy'n byw gyda COVID hir. Bydd diweddariadau'n cael eu darparu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr y canllawiau, a phan ddaw tystiolaeth newydd a newidiadau i ganllawiau i'r amlwg, bydd ein canllawiau'n cael eu diweddaru. Yn bwysicaf oll, bydd yn golygu y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn gallu cael yr un wybodaeth a chyngor o ran triniaeth ar gyfer y cyflwr hwn a bydd ganddyn nhw hefyd ganllaw clir ynghylch pryd a sut i atgyfeirio ar gyfer triniaeth a chymorth. Pan gaiff pobl eu hatgyfeirio, bydd yn bwysig sicrhau, pan fo angen, bod ymateb cydgysylltiedig yn cael ei roi ar waith, gan roi cymorth wedi'i deilwra i'r unigolyn, gan sicrhau bod arbenigwyr amlddisgyblaethol yn cael eu paratoi i gefnogi'r unigolyn, fel yn y model ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.
I lawer o bobl sydd â COVID hir, gellir rheoli'r symptomau y maen nhw'n yn eu profi gartref, ac mae angen rhywfaint o gyngor ac arweiniad cefnogol i helpu unigolion i ddeall sut i helpu eu hunain a hefyd i roi cyngor ar sut i fonitro'r cynnydd y maen nhw'n ei wneud. Dyna pam y mae GIG Cymru wedi lansio ap adfer COVID, sydd wedi'i lawrlwytho tua 6,000 o weithiau'n barod, ac sy'n cefnogi pobl i reoli eu cyflwr a monitro eu cynnydd o ran adferiad.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth bod yn glir nad disodli cyngor proffesiynol yw hyn, ond yn hytrach ei ategu ar gyfer y rhai sydd angen cymorth gweithiwr proffesiynol, neu ganiatáu i bobl helpu eu hunain a rheoli eu gofal eu hunain pan fo eu symptomau'n ysgafn.
Rwyf eisiau sicrhau y rhai hynny sy'n profi symptomau parhaus a allai fod yn poeni am y dyfodol nad ydym wedi'u hanghofio nhw. Mae cyngor a chymorth proffesiynol ar gael ac yn parhau i fod ar gael. Wrth i ni ddechrau llacio ein cyfyngiadau, mae'n bwysig cofio y gall effeithiau haint COVID-19 bara'n hir, a dyna pam y mae'n parhau i fod yn bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ailedrych ar y rhaglen Adferiad bob chwe mis er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r dystiolaeth a'r wyddoniaeth ddiweddaraf. Diolch, Dirprwy Lywydd.