– Senedd Cymru am 4:22 pm ar 15 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—gwasanaethau sy'n helpu pobl i wella o COVID-19. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth inni ddechrau canolbwyntio ar wahanol agweddau ar yr adferiad o bandemig y coronafeirws, rhaid inni beidio ag anghofio'r bobl y mae'r feirws wedi achosi niwed parhaol iddynt. I rai unigolion, er eu bod wedi cael profiad ysgafn iawn neu asymptomatig o'r feirws ei hun, rŷn ni'n ymwybodol bod nifer yn dioddef o un neu fwy o symptomau, gan gynnwys diffyg anadl, anallu i feddwl yn glir, blinder, poen yn y cymalau a nifer o symptomau eraill. Effeithiwyd hefyd ar iechyd a lles nifer sylweddol o bobl nad oeddent wedi dal y feirws eu hun. Mae'r NHS yng Nghymru yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod yr adferiad yn helpu'r boblogaeth gyfan yn deg.
Mae COVID hir yn ganlyniad i'r feirws dŷn ni dal ddim yn ei ddeall yn llwyr. Dŷn ni ddim yn gwybod eto pam fod rhai yn dioddef ac eraill ddim. Dŷn ni ddim yn gwybod eto am ba hyd y bydd COVID hir yn para, na pham fod yr ystod o symptomau mor eang. A does dim modd ar hyn o bryd cynnig moddion penodol chwaith i wella’r symptomau. Er ein bod yn cefnogi ac yn monitro'r ymchwil yn y meysydd hyn, mae'n rhaid inni helpu pobl i reoli symptomau'r cyflwr hwn a byw bywyd mor llawn ag y gallant. Dyna pam, heddiw, dwi'n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £5 miliwn i ddatblygu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol i gefnogi'r unigolion hyn ac eraill sydd ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i effeithiau'r pandemig. Bydd yr arian yn cefnogi rhaglen llwybr cleifion newydd o’r enw Adferiad, ac yn ehangu'r ddarpariaeth o ran rhoi diagnosis, triniaeth, adsefydlu a gofal i'r rhai sy'n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19, gan gynnwys COVID hir yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn o wneud y cyhoeddiad hwn ar y diwrnod rŷn ni'n cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu. Yn ystod y tymor yma, rŷn ni wedi ymrwymo i gefnogi ein NHS i ailadeiladu, gan gynnwys bwrw ymlaen â'n cynlluniau i ddod â gwasanaethau meddygon teulu ynghyd â fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, y gymuned a'r trydydd sector.
Bydd yr arian ar gyfer rhaglen Adferiad yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithwyr proffesiynol iechyd a staff i adsefydlu a chreu seilwaith sylfaenol a chymunedol ychwanegol, gan gynnwys cymorth ar gyfer datblygu systemau diagnostig cymunedol ym maes gofal sylfaenol. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant ac adnoddau digidol o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu pob gweithiwr iechyd proffesiynol i ddatblygu eu harbenigedd wrth wneud diagnosis ac ymchwilio a thrin COVID hir a helpu pobl i gael eu hadsefydlu. Bydd hefyd yn cefnogi buddsoddiad mewn offer digidol a fydd yn gwella gwaith modelu ‘galw a chapasiti’ ac yn sicrhau bod yr NHS yn helpu pobl i wneud y penderfyniadau cywir o ran eu gofal a’u triniaeth.
Yng Nghymru, ein nod wrth gynllunio ein gwasanaethau yw cydweithio gyda'r rhai sy'n eu defnyddio a'u darparu. Ein gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl sy'n cael yr effeithiau tymor hwy hyn o COVID-19 yw'r rhai sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion pobl a pha ymyrraeth fydd yn diwallu'r anghenion hynny orau. Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ledled y byd i sicrhau bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn llywio ein penderfyniadau a'n hymatebion. Mae angen adnoddau a phwyslais ychwanegol ar hyn o bryd ym maes gofal sylfaenol a chymunedol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth a'r driniaeth gywir i sicrhau'r adferiad gorau posibl i bobl. Mae hyn hefyd yn cefnogi'r nod strategol yn 'Cymru Iachach' i ddarparu gofal priodol a darbodus mor agos i gartref â phosibl.
Rwyf wedi treulio amser yn siarad â'r rhai sy'n dioddef o COVID hir, ac un o'r darnau o adborth—. Ac roeddwn yn falch iawn o gwrdd â'r grŵp sydd newydd ei sefydlu amser cinio heddiw, y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir. A'r adborth yr wyf yn ei gael amlaf yw nad yw pobl yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth, neu, pan fyddan nhw'n gofyn, mae posibilrwydd nad yw'r unigolyn y maen nhw'n siarad ag ef yn gwybod pa gymorth a allai fod ar gael. Felly, mewn ymateb i'r pryderon hyn, ochr yn ochr â'r rhaglen Adferiad, byddwn yr wythnos hon yn lansio canllaw Cymru gyfan ar gyfer rheoli COVID hir. Mae'r canllaw pwysig hwn i weithwyr iechyd proffesiynol yn cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer rheoli COVID hir ar draws y GIG yng Nghymru, ac fe'i cefnogir gan becyn o adnoddau addysg cynhwysfawr. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar y broses atgyfeirio i ofal eilaidd lle bo angen a chanllawiau clir ynghylch pryd i drefnu diagnosteg i bobl sy'n byw gyda COVID hir. Bydd diweddariadau'n cael eu darparu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr y canllawiau, a phan ddaw tystiolaeth newydd a newidiadau i ganllawiau i'r amlwg, bydd ein canllawiau'n cael eu diweddaru. Yn bwysicaf oll, bydd yn golygu y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn gallu cael yr un wybodaeth a chyngor o ran triniaeth ar gyfer y cyflwr hwn a bydd ganddyn nhw hefyd ganllaw clir ynghylch pryd a sut i atgyfeirio ar gyfer triniaeth a chymorth. Pan gaiff pobl eu hatgyfeirio, bydd yn bwysig sicrhau, pan fo angen, bod ymateb cydgysylltiedig yn cael ei roi ar waith, gan roi cymorth wedi'i deilwra i'r unigolyn, gan sicrhau bod arbenigwyr amlddisgyblaethol yn cael eu paratoi i gefnogi'r unigolyn, fel yn y model ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.
I lawer o bobl sydd â COVID hir, gellir rheoli'r symptomau y maen nhw'n yn eu profi gartref, ac mae angen rhywfaint o gyngor ac arweiniad cefnogol i helpu unigolion i ddeall sut i helpu eu hunain a hefyd i roi cyngor ar sut i fonitro'r cynnydd y maen nhw'n ei wneud. Dyna pam y mae GIG Cymru wedi lansio ap adfer COVID, sydd wedi'i lawrlwytho tua 6,000 o weithiau'n barod, ac sy'n cefnogi pobl i reoli eu cyflwr a monitro eu cynnydd o ran adferiad.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth bod yn glir nad disodli cyngor proffesiynol yw hyn, ond yn hytrach ei ategu ar gyfer y rhai sydd angen cymorth gweithiwr proffesiynol, neu ganiatáu i bobl helpu eu hunain a rheoli eu gofal eu hunain pan fo eu symptomau'n ysgafn.
Rwyf eisiau sicrhau y rhai hynny sy'n profi symptomau parhaus a allai fod yn poeni am y dyfodol nad ydym wedi'u hanghofio nhw. Mae cyngor a chymorth proffesiynol ar gael ac yn parhau i fod ar gael. Wrth i ni ddechrau llacio ein cyfyngiadau, mae'n bwysig cofio y gall effeithiau haint COVID-19 bara'n hir, a dyna pam y mae'n parhau i fod yn bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ailedrych ar y rhaglen Adferiad bob chwe mis er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r dystiolaeth a'r wyddoniaeth ddiweddaraf. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw? Rwy'n sicr yn croesawu'n fawr yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, o ran cyllid ar gyfer diagnosis a chymorth ar gyfer COVID hir. Rwy'n credu y byddwn i, fel llawer yn y Siambr hon, wedi fy syfrdanu gan ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a ddywedodd fod cynifer â 50,000 o bobl ledled Cymru wedi bod yn dioddef o COVID hir. Siaradais i, fy hun, ag etholwr yn weddol ddiweddar am ei brofiad—mynd i'r gwaith, teimlo'n flinedig, yn fyr o anadl—a'r effaith a gafodd ar ei fywyd gwaith a'i fywyd teuluol. Diolch byth, roedd gan yr unigolyn y siaradais ag ef yn ddiweddar, gyflogwr llawn cydymdeimlad, ond nid yw hynny'n wir bob amser, ac roedd yr effaith ar fywyd y teulu, magu plant ifanc, yn enfawr o ran sut yr effeithiodd arnyn nhw.
Mae tua phum mis wedi mynd heibio bellach ers i'ch rhagflaenydd gyhoeddi'r ap COVID hir, y cyfeirioch chi ato yn eich datganiad heddiw, ac mae'r ap hwnnw, wrth gwrs, yn darparu gwybodaeth am hunangymorth i bobl. Rwy'n falch eich bod wedi dweud yn eich datganiad nad yw hyn yn cymryd lle rhywbeth arall, mae'n wybodaeth ychwanegol. Ond a gaf i ofyn pa adborth yr ydych chi neu eich swyddogion wedi'i gael o ran a yw'r ap hwn wedi llwyddo i olrhain systemau a helpu pobl sydd â COVID hir i wella? Felly, a yw'r ap wedi bod yn llwyddiannus a sut y mae wedi bod yn llwyddiannus, mae'n debyg, yw'r cwestiwn.
Mae'n amlwg o'ch datganiad heddiw, Gweinidog, eich bod yn bwriadu ehangu diagnosis a thriniaeth i'r rhai sy'n dioddef o COVID hir, sydd wrth gwrs i'w groesawu'n fawr. Ac mae Covid Hir Cymru wedi bod, rwy'n gwybod, yn galw ers peth amser bellach am glinigau amlddisgyblaethol penodol i helpu gydag adsefydlu, gan ddweud bod—. Wel, yr hyn y gwnaethon nhw ei ddweud wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol yn ôl ym mis Mawrth oedd bod angen clinigau siop un stop, gan nad oes gan bobl yr egni na'r adnoddau i fynd yn ôl ac ymlaen at eu meddyg teulu a chael eu hatgyfeirio i wahanol leoedd; mae angen iddyn nhw fynd i gael triniaeth mewn un lle. Dyna y gwnaethon nhw ei ddweud wrth y pwyllgor blaenorol. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe baech yn cadarnhau sut yn union y bydd y £5 miliwn yn cael ei ddefnyddio a pha un a fydd clinigau COVID hir yn rhai rhithwir neu ffisegol gyda thimau amlddisgyblaethol, fel sydd wedi digwydd, fel y gwyddoch, yn GIG Lloegr dros y saith mis diwethaf. Rwy'n sicr yn credu y dylen nhw fod yn glinigau ffisegol, ac efallai fy mod braidd yn siomedig na soniwyd am hynny yn eich datganiad heddiw, ond efallai y gwnewch chi egluro. Os oes clinigau ffisegol, yna efallai y gallech chi nodi ble y bydd y lleoliadau hynny.
Rwy'n gweld eich bod wedi cyfeirio'n fyr at ymchwil ar COVID hir yn eich datganiad heddiw, a nodaf i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd gyhoeddi ym mis Chwefror ei fod yn buddsoddi £18 miliwn i ariannu pedair astudiaeth o COVID hir ac, ym mis Mawrth, lansiodd gylch arall o gyllid gwerth £20 miliwn. Mae Banc Bio'r DU hefyd yn bwriadu anfon pecynnau hunan-brofi at bob un o'i 500,000 o gleifion fel y gellir adnabod a gwahodd y rhai sydd â gwrthgyrff COVID i'w hastudio ymhellach. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, a gaf i ofyn pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gyfrannu at ymchwil ledled y DU ac yng Nghymru i effeithiau COVID hir a pha gymorth yr ydych yn ei roi i GIG Cymru yn hyn o beth, fel y gallwn ddefnyddio'r ymchwil hon, wrth gwrs, i ddiagnosio a thrin dioddefwyr COVID hir eraill a dioddefwyr yn y dyfodol yn effeithiol?
Ac yn olaf ac yn gyflym, rydych wedi rhoi rhywfaint o bwyslais ar wneud meddygon teulu yn rhan o'r llwybr diagnosis, a byddan nhw'n cael canllawiau newydd—gwnaethoch chi dynnu sylw at hynny yn eich datganiad heddiw—felly, hoffwn ofyn, a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda chynrychiolwyr meddygon teulu ar y canllawiau, a beth oedd y trafodaethau hynny, cyn gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw? Diolch Gweinidog.
Oedd, roedd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn wirioneddol fawr iawn, a dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd hyn o ddifrif. Rydym yn dal i ddysgu, fel y dywedais i, am y salwch gwanhaol iawn hwn. Un o'r pethau allweddol y mae pobl wedi'i ddweud wrthyf yw bod angen eu credu. Felly, mae cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru wedi cael COVID. Nawr, mae llawer ohonyn nhw yn gwella ac nid oes ganddyn nhw'r afiechydon hirdymor hyn, ond mae'n rhaid credu y rheini nad ydyn nhw'n gwella, a dyna un o'r pethau allweddol y maen nhw'n gofyn amdano: 'Mae angen dilysu hyn, dilysu yn union yr hyn yr ydym yn mynd drwyddo.' Dyna pam yr wyf yn credu ei bod mor bwysig i ni fel Llywodraeth Cymru sicrhau ein bod yn cefnogi'r bobl hyn, a thrwy lansio'r rhaglen Adferiad hon, rydym yn gwneud hynny'n union.
Mae tua 6,000 o bobl wedi lawrlwytho'r ap. Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw cael adborth i sicrhau ein bod yn diweddaru ac yn cael gwell gwybodaeth, fel bod effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ap hwnnw'n cael eu diweddaru'n gyson, a gobeithio y bydd hynny'n arwain at fodel gwell a mwy llwyddiannus, a gobeithio y bydd hyd yn oed y ddadl heddiw yn helpu pobl i sylweddoli bod yr ap hwnnw ar gael.
Rydym bob amser yng Nghymru wedi defnyddio'r feddygfa fel ein porth i ofal eilaidd. Dyna'r ffordd yr ydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael pobl i'r lle iawn ym maes gofal eilaidd. A rhan o'r broblem yr ydym yn ceisio'i hosgoi, yn enwedig pan fydd gan bobl ofal cymhleth arbennig, felly efallai y bydd ganddyn nhw broblem gyda'u hysgyfaint os ydyn nhw wedi bod ar beiriant anadlu, ond efallai fod ganddyn nhw broblem ar y galon hefyd, felly i ble ydych chi'n eu hanfon? A ydych chi'n eu hanfon at arbenigwr y galon neu arbenigwr yr ysgyfaint? Beth yw'r llwybr ar gyfer hynny? Felly, dyna pam ei bod yn eithaf anodd cael clinigau sy'n arbenigo mewn popeth. Felly, rwy'n credu bod y model sy'n cael ei ddatblygu mewn lleoedd fel Aneurin Bevan, lle byddan nhw'n cynnig gofal cofleidiol i'r unigolyn ac yn sicrhau bod tîm yn edrych mewn gwirionedd ar bob agwedd ar sut y mae'r unigolyn yn ymateb, gan edrych ar ei iechyd meddwl, edrych ar ei ddeiet, edrych ar y problemau gwirioneddol benodol sydd ganddo a'r angen i weld arbenigwr mewn llawdriniaeth ar yr ysgyfaint ac arbenigwr y galon. Mae'r pethau hynny, rwy'n credu, yn cynnig llwybr llawer gwell yn hytrach na'r clinigau, a dyna pam yr ydym wedi mynd a chael cyngor gan arbenigwyr clinigol yn hyn o beth, a dyna'n sicr y maen nhw wedi'i argymell.
O ran yr arian, bydd yr arian yn mynd tuag at helpu gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i ddatblygu'r seilwaith i ddarparu'r gwasanaethau. Byddwn yn darparu hyfforddiant ac adnoddau digidol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth, felly gwnewch yn siŵr bod y meddygon teulu hynny'n gwybod yn union beth i gadw llygaid ar agor amdano, a byddwn yn buddsoddi mewn offer digidol sy'n mynd i ddarparu data am wasanaethau, galw, capasiti a modelu. Felly, dyna i le mae'r arian yn mynd.
A phan ddaw'n fater o ymchwil, rydym yn sicr yn cydweithredu'n agos iawn â Llywodraeth y DU. Rydym ni i gyd yn y sefyllfa hon gyda'n gilydd; mae angen i ni ddeall a dysgu oddi wrth ein gilydd, ac rydym yn helpu ac yn cymryd rhan yn astudiaeth y DU o'r enw astudiaeth COVID-19 ar ôl mynd i'r ysbyty. Mae hynny'n cael ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Chyngor Ymchwil Feddygol y DU, ac mae hynny'n cael ei arwain gan Ganolfan Ymchwil Biofeddygol Caerlŷr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. Rydym yn falch o fod yn un o'r recriwtiwyr uchaf, gyda safleoedd ledled Cymru ar gyfer astudiaeth iechyd cyhoeddus frys sydd wedi'i sefydlu. Mae gennym hefyd yr astudiaeth o ymarfer y cyhyrau anadlu ar ôl COVID-19, ac mae hynny'n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe. Ac wrth gwrs, rydym eisoes wedi sefydlu canolfan dystiolaeth COVID-19, ac mae hynny'n fuddsoddiad o £3 miliwn dros 24 mis. Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw sicrhau nad ydym yn dyblygu'r gwaith sydd wedi'i wneud mewn mannau eraill gyda Llywodraeth y DU, ond gweithio gyda'n gilydd, ac rwy'n credu mai dyna'r ffordd bwysig inni weithio wrth symud ymlaen.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gwnaf wisgo dwy het, o bosib, yn fan hyn—ie, fel llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, ond hefyd fel cyd-gadeirydd, ers yn gynharach heddiw, grŵp trawsbleidiol newydd sydd wedi cael ei sefydlu yma yn y Senedd. Dwi'n cyd-gadeirio efo'r Aelod dros Gaerffili. Mi oeddem ni'n gallu gweld bod sgêl y broblem mor fawr fel bod angen llwyfan o fewn y Senedd yma i roi ystyriaeth lawn i COVID hir, a dwi'n falch bod y Gweinidog wedi gallu dod atom ni am ychydig o funudau yn gynharach heddiw.
Does yna ddim amheuaeth gen i fod y Llywodraeth yng Nghymru, am ba bynnag rheswm, wedi bod yn rhy araf i ddeall beth yn union oeddem ni'n ei drafod yn fan hyn. Mae yna ddau beth gwahanol: pobl sydd yn cael trafferth dod dros salwch acíwt o COVID, a phroblemau ar ôl bod mewn adran gofal dwys, ac yn y blaen. Mae hwnna'n un broblem sy'n gallu bod yn hirdymor. Ond nid dyna ydy COVID hir. Mae COVID hir yn gallu bod yn rhywbeth sydd yn digwydd i bobl sydd ddim wedi cael symptomau o gwbl, fel dywedodd y Gweinidog.
Felly, dwi yn falch o glywed tôn y datganiad rydyn ni wedi'i gael heddiw yma, sydd, heb os, dwi'n meddwl, yn cydnabod rŵan ein bod ni'n siarad am rywbeth lle mae pobl yn haeddu gwybod eu bod nhw'n cael eu credu; bod yna ddarn o waith gan Lywodraeth sydd yn mynd i fod yn cymryd pryderon a symptomau a ballu o ddifrif. Wrth gwrs, beth dwi'n edrych ymlaen ato fo rŵan ydy gweld sut mae hwn yn cael ei weithredu.
Dwi innau wedi bod yn eiddgar i weld canolfannau arbenigol yn cael eu datblygu, a dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth sydd wedi cael ei chodi yn barod, a'r genfigen yma yng Nghymru, ond mai dyna'r gair, o weld canolfannau yn cael eu datblygu dros y ffin. Un o'r manteision sydd wedi cael eu nodi o hynny ydy bod arbenigedd yn cael ei ddatblygu o fewn y canolfannau. Mae'r Gweinidog wedi siarad am rannu gwybodaeth a'r ganolfan dystiolaeth yma, sydd yn mynd i fod yn casglu gwybodaeth, ond tybed pa waith fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod arfer da a gwersi sy'n cael eu dysgu yn wirioneddol yn cael eu hadlewyrchu mewn triniaethau sy'n cael eu datblygu ar hyd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Achos dysgu ydyn ni, ac mae angen dysgu yn gyflym iawn, ond pan fydd gwers yn cael ei dysgu, mae'n bwysig bod pobl yn gallu manteisio ar hynny drwy weld triniaethau newydd yn cael eu datblygu, ac ati.
Un cwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn i'r Gweinidog ydy: beth sy'n cael ei wneud o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun? Dwi'n barod wedi ysgrifennu at y Gweinidog ar hyn i ymhelaethu, ond dwi'n ymwybodol o nifer o weithwyr iechyd a oedd ar y rheng-flaen, wrth gwrs, ac yn fwy tebyg o ddioddef o gael yr afiechyd yma. Dwi'n gweld sawl un sy'n cael trafferth cael cefnogaeth gan eu cyflogwr eu hunain, y gwasanaeth iechyd, i roi'r driniaeth y maen nhw ei hangen i'w cael nhw yn ôl i mewn i'r gweithle. Pa ddarn o waith all y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y gefnogaeth yna yn cael ei rhoi i'r gweithwyr iechyd a gofal yma fu mor anhunanol dros y 15 mis diwethaf, yn rhoi eu hunain mewn perygl, ac sydd rŵan yn gweld eu hunain yn methu cael cefnogaeth—yn cynnwys un sydd wedi gorfod mynd yn breifat yn Lloegr ac ati oherwydd bod hi'n methu cael y profion mae ei hangen o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?
Gwnaf ei gadael hi yn fanna am rŵan, ond i ddweud eto fy mod i'n croesawu'r tôn, fy mod i'n croesawu llawer o'r hyn rydyn ni wedi'i glywed, ond mai ym mesur llwyddiant y camau yma fydd y prawf go iawn. Dwi'n edrych ymlaen, o fewn y grŵp trawsbleidiol, at gadw llygad barcud drwy grŵp Long COVID Cymru ar ba mor llwyddiannus fydd y camau yma, a dwi'n gobeithio y bydd y Llywodraeth hefyd yn barod i newid cyfeiriad os oes tystiolaeth newydd a gofynion cleifion yn benodol yn cael eu hamlygu ymhellach yn y misoedd sydd i ddod.
Diolch yn fawr. Gaf i yn gyntaf ddiolch i chi ac i Hefin David am greu a sefydlu'r grŵp trawsbleidiol COVID hir yma? Roeddwn i'n falch iawn fy mod i wedi gallu o leiaf fod yna am ychydig o funudau, fel roeddech chi'n ei ddweud, heddiw. Dwi'n ymwybodol bod angen inni wrando, a dwi wedi ceisio gwneud ymdrech yn ystod yr wythnosau diwethaf i siarad yn uniongyrchol gyda phobl sydd wedi bod yn dioddef. Mae COVID hir yn gymhleth—mae'n rili gymhleth. Dyw e ddim jest yn un peth, a dyna ran o'r broblem; mae hi'n anodd iawn rhoi eich breichiau o'i chwmpas hi. A dyna pam, dwi'n meddwl, mai'r ffordd i fewn i'r system yw drwy'r GPs yn lleol.
Dwi'n cytuno â chi ei bod hi'n hollbwysig, yn arbennig gyda chyflwr newydd, ein bod ni'n dysgu oddi wrth ein gilydd ac yn dysgu o arfer da. Dwi wedi cael rhestr o beth sy'n cael ei wneud ar draws y byrddau iechyd gwahanol, ac mae yn ddiddorol i weld bod pobl yn ei wneud e mewn ffyrdd gwahanol. Ond wrth inni ddysgu, dwi'n meddwl ei bod hi'n werth inni sicrhau bod yr arfer da yna yn cael ei rannu, a dwi'n gobeithio y bydd hi efallai yn creu model y gallwn ni ei ddilyn ar gyfer afiechydon eraill sydd yn gymhleth. Mae yna afiechydon eraill lle mae yna angen i weld mwy nag un arbenigwr, felly dwi'n gobeithio y gallwn ni jest meddwl am newid y system. Dwi'n gobeithio fyddwn ni ddim yn colli'r cyfle yma i wneud newidiadau yn ystod cyfnod o newid.
O ran pobl sydd yn dioddef tu fewn i'r gwasanaeth iechyd, mi welwch chi yn y rhaglen rŷm ni'n ei chyhoeddi heddiw, Adferiad, bod yna ddarn sydd yn cydnabod hynny, sydd yn dangos ein bod ni'n deall bod yna broblemau tu fewn i'r NHS, ac ein bod ni yn wyliadwrus a bod yna safonau sydd angen iddyn nhw gadw atyn nhw. Dwi'n meddwl bod mwy o waith i'w wneud pan fo'n dod i gyflogwyr eraill, a dwi'n edrych ymlaen i weithio efallai gyda'r undebau i sicrhau ein bod ni yn codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr ar draws Cymru hefyd.
Rwy'n croesawu y datganiad hwn yn gynnes y prynhawn yma gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r gydnabyddiaeth o waith arloesol bwrdd iechyd Aneurin Bevan a grybwyllwyd yn gynharach. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi amcangyfrif bod mwy nag 1 filiwn o bobl ym Mhrydain hyd yma wedi dioddef o COVID hir, a dim ond yr wythnos hon y bedyddiodd The Sunday Times y DU fel prifddinas COVID hir y byd. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o raglen adfer gwerth £5 miliwn i helpu cleifion sy'n byw gyda'r cyflwr hwn i'w groesawu'n fawr. Yn Islwyn yn ystod ymgyrch yr etholiad yn ddiweddar, cyfarfûm â llawer o bobl a oedd wedi profi a goroesi COVID acíwt, dim ond nawr i wynebu eu brwydrau eu hunain gyda COVID hir. Mae un o drigolion Islwyn o'r fath, Kate Alderson, wedi dweud wrthyf am y blinder gwanhaol sy'n dal i barhau fisoedd yn ddiweddarach. Felly, Gweinidog, wrth i'n gwybodaeth wyddonol am COVID acíwt a hir gynyddu'n ddyddiol, a wnewch chi ymrwymo i roi'r newyddion diweddaraf i'r Senedd hon yn rheolaidd am y cyflwr? A gyda'r mwyafrif helaeth o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn fenywod a'r dioddefwr COVID hir nodweddiadol yn fenyw o oedran gweithio, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau nad yw menywod yn cael eu niweidio'n anghymesur gan ganlyniadau dioddef o COVID hir? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Rwy'n drist iawn o glywed bod gennych chi, wrth gwrs, fel pawb arall yma, etholwyr y mae'r salwch gwirioneddol anodd hwn wedi effeithio arnyn nhw ac sy'n cael effaith hir. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn edrych ar y rhaglen Adferiad hon bob chwe mis, oherwydd mae hwn yn glefyd mor newydd ac mae tystiolaeth newydd bob amser. Mae'r pwynt a wnaeth Rhun yn gynharach am yr angen i ddysgu o arfer gorau yn rhywbeth y gobeithiaf y gallwn ddysgu ohono ac adeiladu arno wrth ddiwygio'r rhaglen hon wrth inni fynd ymlaen. Felly, gallaf wir roi'r ymrwymiad hwnnw. Rwy'n siŵr y bydd gan y pwyllgor iechyd ddiddordeb mewn cael diweddariadau rheolaidd, ac os byddant yn gofyn, rwy'n siŵr y gallwn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Rwy'n croesawu'r datganiad. Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod inni am y protocol ar gyfer pobl a gafodd eu brechiad AstraZeneca cyntaf gan ddatblygu cymhlethdodau fel thrombosis nad ydyn nhw ar y rhestr i gael ail frechiad AstraZeneca? A ddylen nhw gael pigiad atgyfnerthu gan ddefnyddio Pfizer? Os felly, pryd? Diolch.
Diolch, Altaf. Rwy'n siŵr bod cyfle i edrych ar hyn mewn ychydig mwy o fanylder. I fod yn fanwl gywir nid yw'n fater o COVID hir. Rydym, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Dyna'r ffordd yr ydym yn penderfynu pwy sy'n cael pa frechlyn. Gan fod cydbwysedd y risg yn newid yng ngoleuni'r amrywiolyn delta, byddwn yn chwilio am y canllawiau hynny gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Byddwch yn ymwybodol eu bod wedi cynnig argymhelliad na ddylid rhoi AstraZeneca i'r rhai yn y garfan iau, ond rydym yn aros i glywed nawr a fyddant eisiau diweddaru'r cyngor hwnnw yng ngoleuni'r amrywiolyn delta, sy'n symud yn gyflym iawn, yn sicr yn Lloegr, ond yn cynyddu yma yng Nghymru hefyd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, fel y gwnaeth Rhun, fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, am eich presenoldeb heddiw. Rwy'n credu bod hyn yn dangos eich bod o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy'n credu hefyd bod y penderfyniad yr ydych wedi'i gymryd i'w wneud yn un o'ch blaenoriaethau fel un o'r pethau cyntaf a wnewch fel Gweinidog iechyd yr un mor bwysig. Felly, mae'n braf iawn gweld hynny. Rhai o'r materion a godwyd gan ddioddefwyr COVID hir yn y grŵp trawsbleidiol heddiw oedd y ffaith eu bod yn ei chael yn anodd mynd heibio'r meddyg teulu, oherwydd y llu o symptomau sy'n cael eu harddangos, a hefyd y ffaith bod hyn hefyd yn effeithio ar blant, ac maen nhw'n pryderu nad ydyn nhw'n cael eu nodi. Gyda hynny mewn golwg, rwy'n credu mai un cwestiwn allweddol i chi fydd: sut y byddwch yn ystyried llais y claf ym mhopeth a wnewch, a sut y bydd llais y claf yn craffu ar y penderfyniadau a wnewch chi? Fel enghraifft gynnar o hynny, un o'r pethau y mae COVID Hir Cymru yn ei ddweud yw eu bod eisiau cael clinigau COVID hir pwrpasol. Sut ydych chi'n esbonio iddyn nhw nad dyna'r llwybr yr ydych chi wedi'i ddewis? Sut y byddwch yn egluro hynny iddyn nhw? Ac yna sut y byddwch yn dychwelyd i'r drafodaeth honno yn nes ymlaen pan welwn, gobeithio, ffrwyth y camau yr ydych yn eu cymryd heddiw?
Diolch yn fawr iawn, Hefin. A gaf i ddiolch i chi hefyd am sefydlu'r grŵp trawsbleidiol hwn ar COVID hir? Rydym wedi clywed y gŵyn honno hefyd—bod llawer wedi ei chael hi'n anodd mynd heibio'r meddyg teulu. Dyna pam, ar 18 Mehefin, y bydd canllaw Cymru gyfan ar gyfer rheoli COVID hir yn cael ei lansio, gan roi arweiniad llawer cliriach i feddygon teulu ar yr hyn y dylen nhw fod yn edrych amdano a phryd y dylen nhw fod yn atgyfeirio. Felly, dylai hynny i gyd fod ar waith, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl ar yr alwad honno heddiw yn cael eu cysuro y bydd yn cael ei roi ar waith. Gobeithio bod hynny'n profi ein bod, mewn gwirionedd, wedi bod yn gwrando ar gleifion. Rwyf wedi gwneud pwynt o wrando ar gleifion, o edrych ar yr hyn sy'n cael ei ddweud ar sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ond hefyd rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnaf wrando ar y cyngor clinigol a roddir i mi, a'r cyngor a roddwyd i mi, yn glir iawn, yw bod y llwybr yr ydym eisiau ei ddilyn yng Nghymru, a'r llwybr sy'n cydymffurfio â'n dull gweithredu, sef rhoi gofal mor agos i gartref â phosibl, mewn gwirionedd yn gwneud synnwyr i ni, i sicrhau bod y llwybr hwnnw drwy'r meddyg teulu. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cryfhau dealltwriaeth pobl mewn gofal sylfaenol, a sicrhau eu bod wedyn yn cael eu hatgyfeirio i ofal eilaidd os, a phan fo angen.
Dim ond un cwestiwn byr. Ychydig funudau'n ôl, cefais e-bost gan etholwr yn y gogledd, a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn ateb eu pwyntiau, yn dilyn eich ymateb blaenorol:
'Roeddwn i'n gwylio'r newyddion am y cyhoeddiad am yr arian ar gyfer COVID hir. Y drafferth yw nad oes llawer o staff sydd â phrofiad, ac ni fyddan nhw'n gwrando ar y rheini ohonom sydd â'r profiad ac sy'n barod i siarad.'
Sut y gallwch sicrhau'r etholwr yna ac eraill tebyg y bydd y staff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iddyn nhw yn gwrando arnyn nhw'n sôn am y profiad ac yn barod i siarad â nhw am y profiad hwnnw, fel y gallant gyd-lunio’r atebion gyda'i gilydd?
Diolch yn fawr iawn, Mark. Os dilynwch resymeg hynny, byddai'n awgrymu, mewn gwirionedd, na allai meddygon teulu atgyfeirio unrhyw un oni bai eu bod wedi profi'r salwch eu hunain. Mae'n rhaid inni ddilyn y ffaith bod meddygon teulu a phobl mewn gofal sylfaenol, mewn gwirionedd, yn dilyn canllawiau a'u bod yn dilyn canllawiau yr ydym wedi'u gosod ar eu cyfer, sydd fel arfer yn seiliedig ar ganllawiau NICE, sydd i gyd wedi'u profi'n glinigol. Dyna pam ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n mynd ar hyd y llwybr gofal sylfaenol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi'r cyngor hwnnw, ein bod yn hyfforddi pobl o fewn y cymunedau gofal sylfaenol a'u bod yn gwybod i ble y gallan nhw fynd am help. Gallaf eich sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed. Dyna pam ein bod yn dilyn y trywydd hwn, oherwydd yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud wrthym yw, 'Nid oes digon o feddygon teulu'n deall yr hyn yr ydym yn mynd drwyddo'. Dyna pam yr ydym yn cryfhau'r canllawiau hyn.
Diolch i'r Gweinidog.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig yma—o dan eitemau 5 a 6, felly—yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl, ond yn cael pleidleisiau ar wahân.