4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n helpu pobl i wella o COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:40, 15 Mehefin 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gwnaf wisgo dwy het, o bosib, yn fan hyn—ie, fel llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, ond hefyd fel cyd-gadeirydd, ers yn gynharach heddiw, grŵp trawsbleidiol newydd sydd wedi cael ei sefydlu yma yn y Senedd. Dwi'n cyd-gadeirio efo'r Aelod dros Gaerffili. Mi oeddem ni'n gallu gweld bod sgêl y broblem mor fawr fel bod angen llwyfan o fewn y Senedd yma i roi ystyriaeth lawn i COVID hir, a dwi'n falch bod y Gweinidog wedi gallu dod atom ni am ychydig o funudau yn gynharach heddiw.

Does yna ddim amheuaeth gen i fod y Llywodraeth yng Nghymru, am ba bynnag rheswm, wedi bod yn rhy araf i ddeall beth yn union oeddem ni'n ei drafod yn fan hyn. Mae yna ddau beth gwahanol: pobl sydd yn cael trafferth dod dros salwch acíwt o COVID, a phroblemau ar ôl bod mewn adran gofal dwys, ac yn y blaen. Mae hwnna'n un broblem sy'n gallu bod yn hirdymor. Ond nid dyna ydy COVID hir. Mae COVID hir yn gallu bod yn rhywbeth sydd yn digwydd i bobl sydd ddim wedi cael symptomau o gwbl, fel dywedodd y Gweinidog.

Felly, dwi yn falch o glywed tôn y datganiad rydyn ni wedi'i gael heddiw yma, sydd, heb os, dwi'n meddwl, yn cydnabod rŵan ein bod ni'n siarad am rywbeth lle mae pobl yn haeddu gwybod eu bod nhw'n cael eu credu; bod yna ddarn o waith gan Lywodraeth sydd yn mynd i fod yn cymryd pryderon a symptomau a ballu o ddifrif. Wrth gwrs, beth dwi'n edrych ymlaen ato fo rŵan ydy gweld sut mae hwn yn cael ei weithredu.

Dwi innau wedi bod yn eiddgar i weld canolfannau arbenigol yn cael eu datblygu, a dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth sydd wedi cael ei chodi yn barod, a'r genfigen yma yng Nghymru, ond mai dyna'r gair, o weld canolfannau yn cael eu datblygu dros y ffin. Un o'r manteision sydd wedi cael eu nodi o hynny ydy bod arbenigedd yn cael ei ddatblygu o fewn y canolfannau. Mae'r Gweinidog wedi siarad am rannu gwybodaeth a'r ganolfan dystiolaeth yma, sydd yn mynd i fod yn casglu gwybodaeth, ond tybed pa waith fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod arfer da a gwersi sy'n cael eu dysgu yn wirioneddol yn cael eu hadlewyrchu mewn triniaethau sy'n cael eu datblygu ar hyd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Achos dysgu ydyn ni, ac mae angen dysgu yn gyflym iawn, ond pan fydd gwers yn cael ei dysgu, mae'n bwysig bod pobl yn gallu manteisio ar hynny drwy weld triniaethau newydd yn cael eu datblygu, ac ati.

Un cwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn i'r Gweinidog ydy: beth sy'n cael ei wneud o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun? Dwi'n barod wedi ysgrifennu at y Gweinidog ar hyn i ymhelaethu, ond dwi'n ymwybodol o nifer o weithwyr iechyd a oedd ar y rheng-flaen, wrth gwrs, ac yn fwy tebyg o ddioddef o gael yr afiechyd yma. Dwi'n gweld sawl un sy'n cael trafferth cael cefnogaeth gan eu cyflogwr eu hunain, y gwasanaeth iechyd, i roi'r driniaeth y maen nhw ei hangen i'w cael nhw yn ôl i mewn i'r gweithle. Pa ddarn o waith all y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y gefnogaeth yna yn cael ei rhoi i'r gweithwyr iechyd a gofal yma fu mor anhunanol dros y 15 mis diwethaf, yn rhoi eu hunain mewn perygl, ac sydd rŵan yn gweld eu hunain yn methu cael cefnogaeth—yn cynnwys un sydd wedi gorfod mynd yn breifat yn Lloegr ac ati oherwydd bod hi'n methu cael y profion mae ei hangen o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

Gwnaf ei gadael hi yn fanna am rŵan, ond i ddweud eto fy mod i'n croesawu'r tôn, fy mod i'n croesawu llawer o'r hyn rydyn ni wedi'i glywed, ond mai ym mesur llwyddiant y camau yma fydd y prawf go iawn. Dwi'n edrych ymlaen, o fewn y grŵp trawsbleidiol, at gadw llygad barcud drwy grŵp Long COVID Cymru ar ba mor llwyddiannus fydd y camau yma, a dwi'n gobeithio y bydd y Llywodraeth hefyd yn barod i newid cyfeiriad os oes tystiolaeth newydd a gofynion cleifion yn benodol yn cael eu hamlygu ymhellach yn y misoedd sydd i ddod.