Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 15 Mehefin 2021.
Rwy'n eithaf siomedig ynglŷn â'r hyn yr wyf wedi ei glywed heddiw gan y Gweinidog a'i gyd-Aelodau ac eraill, ac rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r rhan fwyaf o elfennau'r cynnig hwn heddiw. Nid wyf i'n adnabod y byd hwnnw y mae'r Gweinidog yn ei ddisgrifio i'r wlad, ac yn ogystal â bod ymhell o'r gwirionedd, mae'r codi bwganod gan y Llywodraeth yn ceisio tanseilio hyder a hyrwyddo ofn ledled y wlad ar adeg pan fo angen cefnogaeth a gobaith ar ein cymunedau a'n heconomi yn fwy nag erioed o'r blaen. Rwyf i mor ddiolchgar bod Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy i gynnig y gefnogaeth honno. Nid oes dim i'w ofni yn sgil dymuniad Llywodraeth y DU i weithio'n agos gyda'n gwlad ni a'i haenau llywodraethu i helpu i sbarduno ffyniant yn y fan yma a helpu i gael Cymru yn ôl ar ei thraed ac mewn cyflwr da ar gyfer y dyfodol.
Mae'r materion ar gyfer y cyd-Aelodau gyferbyn yn un o ofn pur, o beidio â chael dylanwad uniongyrchol ar bopeth a gaiff ei gyflawni yma. Mae hwn yn feddylfryd mor flinedig, negyddol, un y mae'n rhaid symud oddi wrtho. Rwyf i wedi gweld fy hun, yn anffodus, ers blynyddoedd lawer—ac mae yn flynyddoedd lawer—fod datganoli yng Nghymru mewn gwirionedd yn golygu datganoli i Fae Caerdydd a dim pellach o gwbl. Mae'r cynnig yn sôn am bryderon Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael, ac rydym yn parchu eu safbwynt—rwyf i'n parchu eu safbwynt a'u pryder yn llwyr, ac mae pawb yn dymuno cael rhywfaint o eglurder ynghylch cwanta a gwahanol bethau yn fuan iawn. Ond mae un cysyniad y mae'r Gymdeithas yn cytuno arno, ac mae wedi ei ddweud ers blynyddoedd ar flynyddoedd, ond mae'n amlwg nad oes neb wedi gwrando yn y fan yma, a sybsidiaredd yw hynny. Mae'n ymrwymo yn llwyr i sybsidiaredd, ac mae hynny'n golygu datganoli penderfyniadau i'r lefel isaf bosibl. Mae'n ymddangos y bu'r cysyniad hwnnw o ddatganoli gwirioneddol yn estron i Lywodraethau Llafur Cymru yn y gorffennol, ac mae'n bosibl ei fod i'r un hon hefyd.
Nid yw'r un ohonom ni yma, nac unrhyw randdeiliad arall, yn dymuno gweld llai o arian yn dod i Gymru nag a gafwyd yn flaenorol. Felly, rydym yn cytuno bod hwn yn bwynt eithriadol o bwysig, ac yn rhywbeth y bydd fy mhlaid i yn sicrhau ein bod yn siarad drosto pe byddem yn teimlo bod angen gwneud hynny. Ond wedi dweud hynny, mae Llywodraeth y DU—rydych chi wedi ei chlywed dro ar ôl tro—wedi ailadrodd dro ar ôl tro y bydd y gronfa ffyniant gyffredin o leiaf yn cyfateb i dderbyniadau blaenorol yr UE, ac rwyf i'n credu hynny yn llwyr. Mae'r gronfa codi'r gwastad yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i siapio cymunedau ar lawr gwlad. Byddwch chi i gyd yn gwybod, wrth i ni siarad, fod ceisiadau yn dod i mewn gan gynghorau ledled Cymru, gyda chefnogaeth eu Haelodau Seneddol ac, rwy'n gobeithio, eu Haelodau yn y Senedd hon, wrth i ni siarad. Maen nhw'n disgyn ar garreg drws Gweinidogion. Mae'r ceisiadau hyn y mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi eu cyflwyno erbyn yr wythnos hon yn dangos cymaint y mae awdurdodau lleol yn gallu gweithredu ac ymateb i'r her gyda'u hymdrechion wrth weithio gyda Llywodraeth y DU, a byddant yn hybu twf yn uniongyrchol ac yn lledaenu cyfleoedd i filoedd o bobl ledled Cymru. Yn yr un modd, bydd y gronfa adnewyddu cymunedol yn darparu gwerth £220 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi pobl a chymunedau, mewn angen ledled Cymru a gweddill y DU, a pharatoi ffordd ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin.
Llywydd, bydd y gronfa ffyniant gyffredin pan fydd yma, ynghyd â'n cronfa codi'r gwastad ni, yn helpu i rymuso cymunedau lleol drwy sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio i flaenoriaethau pobl. Ni ddylai'r Llywodraeth yn y fan yma ofni hyn, ond dylen nhw groesawu'r dull partneriaeth hwn. Byddai gan wahanol bobl, pe byddan nhw'n cael gafael ar yr ysgogiadau pŵer yma yng Nghymru, bersbectif gwahanol o gefnogaeth Llywodraeth y DU. Byddwn i'n ystyried y cyfleoedd sy'n cael eu datgloi yn gyfle i gryfhau'r bartneriaeth sydd gennym yn y DU, a chyfle i newid pethau er gwell. Yn rhy aml, rydym yn clywed pobl fel fy nghyd-Aelod i yma yn dibrisio ein perthynas yn y DU. Mae'n bryd i ni symud ymlaen.
Llywydd, dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig sawl peth, fel y clywsom ni heddiw, ac un peth arall a ddywedodd, a dyfynnaf, yw:
'Mae'r newid i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyfle i ailosod ac ail-werthuso blaenoriaethau economaidd Cymru ar ôl Brexit ac ar ôl COVID-19 ac i ddatblygu Cronfa Ffyniant Gyffredin sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tanberfformiad economaidd Cymru.'
Mae hwnnw'n ddatganiad cryf. Felly, nawr mae'n gyfnod o gyfle a gobaith, yn amser i ganiatáu i'n gwlad ffynnu, ac amser i weithio yn un ar bob lefel i gyflawni dros ein pobl a rhoi iddyn nhw yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu. Felly, rwy'n annog yr Aelodau yma i drechu'r cynnig gwirion hwn heddiw, ac ymuno â mi i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, a gadewch i ni i gyd symud ymlaen gyda'n gilydd. Diolch, Llywydd.