Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Mehefin 2021.
Wel, diolch ichi am ysgrifennu. Dwi'n siŵr na orffennith y broses fanna os oes angen mynd ymhellach, a byddwn i'n hyderu—efallai y gwnewch chi gadarnhau hynny mewn ymateb. Ond mae'n enghraifft fan hyn, rwy'n credu, lle mae'r Gymraeg yn colli'r frwydr ddigidol. Os ydych chi eisiau cyflawni'ch DBS drwy gyfrwng y Saesneg, gallwch chi ei wneud ar-lein; os ydych chi eisiau ei wneud e drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n rhaid ichi fynd yn ôl i oes yr arth a'r blaidd a gwneud hynny ar bapur. A dwi ddim yn meddwl bod hynny'n dderbyniol. Dwi'n mynd i wrthod gwneud hynny fel llywodraethwr, ac os ydy hynny yn golygu fy mod i'n cael fy eithrio rhag bod yn llywodraethwr, byddaf i'n ystyried bod hynny'n digwydd ar sail camwahaniaethu ieithyddol. Ac nid fi yw'r unig lywodraethwr, wrth gwrs, sydd yn teimlo'r un peth. Felly, rwy'n apelio arnoch chi, Weinidog, os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb ym mhob cyd-destun, yn enwedig yn y cyd-destun digidol, mae hwn yn un peth sy'n gorfod newid.