Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 16 Mehefin 2021.
Wel, rwy'n cytuno â'r ffaith ei fod e'n gwbl annerbyniol fod pobl yn dioddef oherwydd eu bod nhw'n dewis gwneud rhywbeth dylen nhw allu gwneud yn hawdd—hynny yw, ymateb yn Gymraeg. Ac rydych chi'n iawn i sôn am yr impact penodol ar lein. Wrth gwrs, mae cyfle i wneud hyn ar bapur, ond, fel yr oeddech chi'n cyfeirio, cyfnod yr arth a'r blaidd—dyw hynny ddim yn ddigonol bellach. Mae wythnosau o oedi yn dod yn sgil hynny. Mae yna gyfle, fel mae'n digwydd, ymarferol i'r corff, gan eu bod nhw ar fin adnewyddu cynlluniau TG, ac felly, o ran elfen ymarferol, rydym ni'n gwthio'r syniad hwnnw—eu bod nhw'n defnyddio'r cyfle hwnnw yn ymarferol i allu darparu'r gwasanaeth yn Gymraeg fel sydd, yn sicr, ei angen.