Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni'n byw mewn oes o argyfyngau, ac mae’r argyfyngau yma yn cydblethu. Mae yna argyfwng amgylcheddol a newid hinsawdd—rydyn ni wedi clywed amdano heddiw yn barod; mae yna argyfwng iechyd cyhoeddus; ac mae yna argyfwng economaidd.
Rŵan, pam fy mod i’n sôn am yr argyfyngau yma mewn dadl am argyfwng tai? Oherwydd bod tai yn ffactor cyffredin sy'n perthyn i bob un o’r argyfyngau yma yn ogystal â rhai eraill. Ystyriwch yr argyfwng newid hinsawdd. Daw tua 14 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Gyfunol o’r stoc dai, ac mae gan Gymru y stoc dai hynaf yn Ewrop, yn llai effeithiol wrth ddefnyddio ynni ac angen mwy o gynnal a chadw.
O ran yr argyfwng COVID presennol, bellach gallwn wneud cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng effaith COVID ar rai dioddefwyr ac ansawdd eu tai. Neu, os edrychwn ni ar yr argyfwng economaidd, mae mwy o gyfoeth yn cael ei gronni yn nwylo nifer fach o bobl, sydd yn prynu nifer fwy o eiddo, tra bod y tlawd yn mynd yn dlotach a digartrefedd ar gynnydd. Ydy, mae’r argyfwng tai yn drawsadrannol. Ond, o ddechrau datrys yr argyfwng yma, yna fe allwn sicrhau gwell ansawdd byw i ddegau o filoedd o bobl.
Wrth gwrs, roedd yna argyfwng tai cyn y coronafeirws, ond mae’r pandemig yma wedi ei waethygu, ac wedi amlygu’r graddau y mae'r ansicrwydd tai yn effeithio’n anghymesur ar yr ifanc, y mwyaf bregus a phobl ar incwm isel. Does dim gwadu, bellach, fod gan ein cymdeithas ni berthynas gwyrdroëdig ag eiddo erbyn hyn. Mae eiddo, a ddylai fod yn annedd fyw, bellach yn cael ei weld fel buddsoddiad ariannol er mwyn budd economaidd personol, nid fel rhan hanfodol o fywyd—yr hawl i do uwch ein pen a’r hawl i fyw adref.
Rŵan, rhan ganolog o’r ddadl am yr argyfwng tai ydy fforddiadwyedd. Mae tai bellach yn anfforddiadwy i’r rhan fwyaf o bobl ym mhob cornel o Gymru, a dwi’n siŵr y clywn ni fwy am hynny gan fy nghyfaill, Peredur Owen Griffiths.
Dywed rhai mai creu mwy o swyddi sydd ei angen i ddatrys hyn. Ydy, wrth gwrs, mae gwasgaru cyfoeth a swyddi ar draws Cymru yn rhan o’r ateb, ond dydy o ddim yn ateb ynddo’i hun, oherwydd fel y saif pethau, a heb ymyrraeth bellgyrhaeddol, byddai angen i gyflogau ddyblu neu i werth tai haneri er mwyn dod â balans yn ôl i’r farchnad. Yn syml, mae angen ymyrraeth, a dod â rheolaeth i’r farchnad dai, er mwyn rhoi cyfle teg i bawb gael cartref, oherwydd mae’r farchnad yn gweithio yn erbyn gormod o bobl Cymru.
Rŵan, bydd y frawddeg olaf yna yn pryderu'r Aelodau ar y meinciau Ceidwadol, oherwydd eu bod nhw’n credu yng ngrym y farchnad—mae'n rhan sylfaenol o'u hideoleg nhw fel plaid. Ond y diffyg ymyrraeth yma, y polisïau laissez faire yma, sydd wedi gadael ein pobl a'n cymunedau i lawr dro ar ôl tro. Eu hateb nhw ydy i adeiladu mwy o dai, ond dydy hynny ddim yn ateb cyflawn i’r broblem chwaith. Mae’r briodas yma rhwng y farchnad rydd a chyfalafiaeth yn golygu mai tai mawr moethus sy'n cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr, oherwydd mai dyna ble y mae’r elw, er bod yna alw anferthol am fyngalos bach neu dai cychwynnol un neu ddwy lofft.