Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 16 Mehefin 2021.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'n cymunedau yn dioddef diboblogi, ond eto, er hynny, yn parhau i weld tai mawr moethus yn cael eu codi yn eu plith. Yn sicr, felly, dydy'r farchnad yma ddim yn ateb galw lleol. Os ydy’r farchnad rydd yn ateb y galw, yna pam fod yna 67,000 o bobl ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru? Mae’r farchnad rydd yn gweithio yn erbyn pobl Cymru—dyna'r gwir amdani.
Rŵan, tra bod y Ceidwadwyr yn hyrwyddo ideoleg laissez faire, y blaid laissez faire go iawn yng Nghymru, y blaid sydd yn gweithredu'r ideoleg, ydy’r Blaid Lafur, sydd wedi gwneud nemor ddim i ymyrryd yn y farchnad dros yr 20 mlynedd diwethaf. Dyma waddol New Labour a'u 'light-touch regulation', yn parhau yn fyw ac yn iach yma yng Nghymru.
Rŵan, yr enghraifft fwyaf amlwg o’r diffyg ymyrraeth yma yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, ac mewn cymunedau ar draws Cymru, ydy'r mater o ail dai a’r cynnydd yn y nifer o letyau gwyliau tymor byr fel Airbnb. Bellach, mae’r rhan fwyaf o bobl a fagwyd yn y cymunedau yma, fel y Mwmbwls neu Ddinbych y Pysgod neu Aberhonddu neu yng Nghapel Curig, wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai leol. Yn wir, mae hanner pobl cymunedau ôl-diwydiannol fel Blaenau Ffestiniog wedi cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol.
Yn ôl ymchwil y Dr Simon Brooks, tra bod y pandemig wedi gwneud pethau yn waeth, mae yna beryg go iawn y gall gadael yr Undeb Ewropeaidd wneud pethau hyd yn oed yn waeth fyth, ac mae o'n rhybuddio y gall canran o'r 70,000 o berchnogion ail dai yn Ffrainc, neu'r 66,000 o berchnogion ail dai yn Sbaen, edrych i brynu eiddo yma. Yn ôl ystadegau trafodion tir y flwyddyn ddiwethaf, roedd ychydig o dan hanner o'r tai a werthwyd yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd yn dai cyfradd uwch. Rŵan, tra bod yna sawl diffiniad o beth ydy tŷ cyfradd uwch, yn achos Dwyfor Meirionnydd, mae'n golygu ail dai yn bennaf. Dyma lefel yr her sy'n wynebu ein cymunedau ni a'n pobl ni heddiw.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld prynwyr ariannog yn talu ymhell dros y pris gofyn gydag arian parod, gan wthio gwerth eiddo i fyny a sicrhau nad oes gan bobl leol sydd, ar y cyfan, ar gyflogau isel, unrhyw gyfle i brynu yn eu cynefin. Cymru, yn wir, welodd y cynnydd fwyaf mewn gwerth eiddo dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda gwerth tai yn saethu i fyny 13 y cant ar gyfartaledd, gyda rhai ardaloedd, fel sir Gâr, yn gweld cynnydd o 23 y cant, neu sir Fôn yn gweld 16 y cant o gynnydd. Mae hyn yn gwbl anghynaliadwy.
Wrth gwrs, hefyd, wrth drafod y broblem yma yng Nghymru, mae'n rhaid inni gydnabod ei fod e'n broblem ar draws y byd gorllewinol. Yn wir, mae Aotearoa wedi cymryd camau i atal pobl nad yw’n ddinasyddion yno rhag prynu eiddo yn y wlad. Felly hefyd yn Denmarc ac Awstria, sydd â rheolau llym am bwy all brynu eiddo yn y gwledydd yna. Mae deddfwrfeydd rhanbarthol yn Awstralia, yng Nghanada a'r Eidal wedi gweithredu ar ail dai, tra bod llywodraethau lleol yn Amsterdam, ym Mharis, ym Merlin, ac eraill, wedi cymryd camau i weithredu ar letyau gwyliau tymor byr fel Airbnb. Ond dydyn ni ddim wedi gweld dim yn cael ei wneud yma yng Nghymru.
Rŵan, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi sôn am gamau y dylid eu hystyried. Yn ddiweddar, fe ysgrifennodd cynghorau sir Gwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin at y Prif Weinidog yn galw am newid adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel bod unrhyw dŷ annedd yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd ac felly yn talu treth gyngor lawn. Rydym hefyd wedi galw am ddiwygio'r Gorchymyn cynllunio gwlad a thref er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, fel Airbnb, a hefyd wedi galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, a fyddai'n gyfrifoldeb ar yr awdurdod leol i'w weithredu. Mae'r rhain yn fesurau y gellir eu gweithredu yn sydyn, a hynny drwy ddeddfwriaeth eilradd.
Mi ydym ni yn y Blaid hefyd wedi sôn am yr angen i dreblu'r dreth trafodiadau tir ar brynu ail dai. Mae'r cam yma wedi cael ei gymryd mewn gwledydd eraill. Rydym ni hefyd wedi sôn am yr angen i dreialu creu dosbarth newydd cynllunio ar gyfer ail dai, a fyddai'n rhoi'r grym i'r awdurdod lleol reoli'r nifer o ail dai a rhoi cap ar y niferoedd o ail dai mewn cymunedau sydd o dan bwysau. Dim ond rhai argymhellion i fynd i'r afael â rhan o'r broblem ehangach ydy'r rhain, ac mae'n rhaid i ni dderbyn ei bod yn broblem llawer iawn mwy na phroblem ail dai yn unig.
Yn ôl prif economegydd presennol Banc Lloegr, Andy Haldane, mae'r prif declynnau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn nwylo'r Llywodraeth. Mae'n sôn am y cyfraddau treth, am reolau cynllunio, ynghyd â mesurau hyrwyddo adeiladu tai. All ein Llywodraeth ni yma yng Nghymru ddim cuddio y tu ôl i fethiannau San Steffan yn yr achos yma, oherwydd bod y tri pheth yma o fewn eu cymhwysedd nhw ac mae ganddyn nhw y gallu i weithredu. Y cwestiwn ydy: a wnawn nhw weithredu cyn ei fod o'n rhy hwyr? Diolch yn fawr iawn.