7. Dadl Plaid Cymru: Polisi Tai

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:16, 16 Mehefin 2021

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi clywed lot am yr argyfwng tai yng Nghymru a'r ffocws gan y cyfryngau yn benodol ar effaith ail gartrefi mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae pwysigrwydd y mater hwn yn amlwg, ond rhaid mynd i'r afael â'r broblem ehangach sydd gennym yng Nghymru.