Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 16 Mehefin 2021.
Er nad oes cymaint o gartrefi gwyliau yn Nwyrain De Cymru ag sydd mewn rhannau eraill o'r wlad, mae craidd y mater yma yr un fath: ni all pobl fforddio prynu cartrefi yn y lle maent yn ei ystyried yn gartref. Mae prisiau eiddo a chyflogau cyfartalog yn codi, ond pan fydd y cyntaf yn codi'n gyflymach na'r ail, mae gennym broblem. Ni all pobl leol fforddio tai yn eu cymdogaethau. Nid yw'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn eithriadau.
Felly, pa mor ddrwg yw hi yn y de-ddwyrain? Wel, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cododd pris eiddo cyfartalog yng Nghaerffili 10 y cant. Mae'r darlun yn debyg ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Merthyr Tudful. Cymharwch hynny â'r cyflog wythnosol cyfartalog yng Nghymru, sydd ond wedi codi £1.71. Yr hyn y mae'n ei olygu yw bod pobl yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig Cymru yn cael eu prisio allan o'u cymunedau. A yw hyn yn swnio'n gyfarwydd?
Mae'r argyfwng tai yn effeithio ar bob rhan o Gymru. Yn aml, rhaid i'r rhai sy'n ddigon ffodus i gael troed ar yr ysgol eiddo ddibynnu ar fanc mam a dad. I'r rheini sydd heb gymorth teuluol, rhaid iddynt droi at y sector rhentu, lle mae llety'n llai diogel a digartrefedd yn fwy o fygythiad. Mae'r elusen Shelter yn dweud wrthym fod pobl iau wedi cael eu heffeithio'n fwy gan faich economaidd argyfwng COVID. Oni fydd y Llywodraeth yn gweithredu ar frys, bydd mwy o ofid ynghylch incwm ac opsiynau tai cenhedlaeth arall eto.
Rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, cysylltodd dros 31,000 o bobl â'u hawdurdod lleol am gymorth gyda phroblemau tai. Yn fwy pryderus, mae cyfradd yr aelwydydd sy'n wynebu bygythiad digartrefedd wedi bod yn cynyddu'n gyflym o un flwyddyn i'r llall, gyda bron i 12,000 o aelwydydd wedi eu gwneud yn ddigartref yn 2018-19, y gyfradd uchaf ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae digartrefedd yn broblem genedlaethol sy'n effeithio'n ddinistriol ar bobl a chymunedau bob dydd. Mae'n broblem rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dweud ers blynyddoedd lawer y gellid ei datrys gyda'r ewyllys wleidyddol gywir. Yn y gorffennol, bu'n rhaid i ni ddefnyddio enghreifftiau rhyngwladol i wneud y pwynt hwn, ond nid oes rhaid i ni wneud hynny mwyach. Mae'r pandemig wedi newid pethau. Mae wedi dangos inni y gellir dileu digartrefedd yng Nghymru gyda'r lefelau cywir o fuddsoddiad ac awydd i wneud rhywbeth yn ei gylch. Bellach mae gennym brawf cadarn nad oes dim sy'n anochel am ddigartrefedd yng Nghymru. Mae'r ymateb i'r coronafeirws wedi dangos beth y gellir ei gyflawni.
Rhaid inni ymdrin â rhai gwirioneddau sylfaenol. Mae tai fforddiadwy yn wahanol i dai y gallwn eu fforddio. Mae un yn derm a ddefnyddir gan adeiladwyr i weithio o gwmpas rheoliadau cynllunio, a'r llall yn fater sylfaenol i'n teuluoedd, ein ffrindiau, ein cymdogion a'n hetholwyr. Gellir gwneud mwy gyda'r ddeddfwriaeth bresennol i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. Gellir defnyddio adran 106 i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y gymuned, a gellir defnyddio adran 157 hefyd i atal datblygiad rhag cael ei adeiladu fel llety gwyliau, ond hefyd, yn hollbwysig, gall atal cartref rhag cael ei werthu fel pryniant i'w osod o fewn cyfnod rhagnodedig o amser, neu gyfuniad o'r ddau beth efallai. Rhaid cynyddu'r gyfran o dai fforddiadwy—a'r hyn a olygaf yw tai y gallwn eu fforddio—mewn datblygiadau newydd. Beth am fewnosod cymal sy'n ei gwneud yn orfodol i adeiladu tai fforddiadwy cyn i'r stoc gael ei hadeiladu? Ac rwy'n defnyddio'r gair 'datblygiad', ac efallai eich bod yn meddwl bod hynny'n awgrymu cynnydd, ond o ran tai y gallwn eu fforddio, mae'n ymddangos ein bod yn mynd tuag yn ôl.
Mae hanes yn dweud wrthym nad yw hyn yn newydd. Bron i 20 mlynedd yn ôl, cafwyd straeon am brisiau eiddo yn Abertyleri yn saethu i fyny o ganlyniad i fewnlifiad o bobl o Fryste yn chwilio am fargen eiddo am bris gostyngol. Heddiw mae gennyf etholwr nad yw'n gallu fforddio prynu tŷ ym Mryn Mawr am yr un rheswm yn union. Nid o ble y dônt yw'r pwynt, ond yr effaith ganlyniadol ar ein cymunedau. Nid cartrefi gwyliau ynddynt eu hunain yw'r pwynt, ond yr effaith ganlyniadol ar ein cymunedau. Y pwynt yw bod gennym argyfwng tai yng Nghymru ac mae'n effeithio ar ein cymunedau—ein holl gymunedau. Mae'r effaith ganlyniadol honno eisoes wedi cyrraedd rhai o'r cymunedau tlotaf a rhaid gofyn i ble y byddant yn mynd, os nad i ddigartrefedd. Mae gan y Llywodraeth hon ddyletswydd i weithredu a gweithredu yn awr. Os achosir digartrefedd—