7. Dadl Plaid Cymru: Polisi Tai

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:27, 16 Mehefin 2021

Dwi eisiau canolbwyntio heddiw ar amodau tai, ac mae'n briodol, fel gwnaeth Janet ein hatgoffa ni gynnau heddiw, mae'n briodol wrth feddwl ei bod hi'n bedair blynedd ar ôl trychineb Grenfell. Mae’n glir o’m cyfarfodydd a’r negeseuon dwi wedi'u cael gan thrigolion fflatiau uchel yng Nghaerdydd fod yna ddryswch mawr ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y fflatiau yna yn ddiogel, a phwy sy'n gyfrifol am dalu'r costau i wneud y fflatiau yna yn ddiogel.