Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 16 Mehefin 2021.
Cyn imi ddechrau, nid wyf yn derbyn unrhyw bregeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ail gartrefi pan fo gan rai ohonynt gartrefi yn Ffrainc, ac rwy'n credu bod gan y Democrat Rhyddfrydol yma ddau gartref hyd yn oed, ond dyna ni; gadawaf hynny yno.
Fel y gŵyr y Gweinidog, mae tai'n agos iawn at fy nghalon, a gan fy mod yn aelod cabinet llywodraeth leol dros dai, gwn yn iawn am y problemau y mae'r sector yn eu hwynebu. Oherwydd ar hyn o bryd mae'r farchnad eiddo yn anghytbwys, gyda dyheadau'r mwyafrif helaeth o bobl ifanc i fod yn berchen ar eu cartref yng Nghymru yn mynd ar chwâl. Mae pobl, yn enwedig pobl ifanc, yn cael eu cloi allan o'r farchnad dai. Mae pobl sy'n gweithio ac ar gyflogau da yn ei chael hi'n anodd codi'r arian i dalu'r blaendaliadau enfawr sydd eu hangen i fodloni'r meini prawf ar gyfer cael morgais.
Mae'n ymddangos bod y freuddwyd o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn atgof pell i fy nghenhedlaeth i. Y pris cyfartalog am dŷ yng Nghymru yw chwe gwaith y cyflog blynyddol, ac mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r blaendal angenrheidiol ar gyfer prynu tai—fel y clywsom gan Aelodau eraill, hyd yn oed y rheini sydd â banc mam a dad. Nid yw benthycwyr morgeisi wedi cadw i fyny â'r newid yn y marchnadoedd swyddi, ac mae'n anos yn awr nag erioed o'r blaen i fodloni meini prawf y prif fenthycwyr morgeisi. Rydym mewn sefyllfa o brinder yn y farchnad dai, a chaiff prisiau eu gwthio i fyny fwyfwy, gyda rhai ardaloedd yng Nghymru'n gweld cynnydd o 50 y cant yn y cynnydd cyfartalog ym mhrisiau tai.
Yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, rydym yn profi prinder difrifol o eiddo ar rent, a phwysau chwyddiant bron yn wythnosol ar brisiau tai, a rhyfeloedd bidio rhwng prynwyr, a diwedd yn awr ar ddatblygu oherwydd y rheoliadau ffosffad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, mae datblygiadau cartrefi newydd yn fy etholaeth wedi dod i ben yn ddisymwth.
Mae tai bellach allan o gyrraedd cyfran fawr o fy nghenhedlaeth i ac eraill. Mae'r argyfwng tai hwn yng Nghymru yn gwbl annerbyniol. Mae gwleidyddion yn y Siambr hon ac yn ehangach yn siarad llawer am yr argyfwng tai, ond rydym yn methu mynd i'r afael â'r broblem.
Mae llawer o bobl yn y genhedlaeth hŷn yn berchnogion cartrefi sy'n elwa o'r degawdau o brisiau cynyddol yn y farchnad dai. Ond i'r rheini ohonom sydd eto i gael troed ar yr ysgol dai mae'n teimlo fel her anorchfygol. Nid yw'r tai fforddiadwy yno yn y niferoedd sydd eu hangen arnom, ac ni allwn gyflawni oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dangos gwir uchelgais i adeiladu mwy o gartrefi a neilltuo buddsoddiad ar raddfa fawr, llacio ceisiadau cynllunio, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen yn ein sector sgiliau i adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd.
Felly, Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud o ddifrif i helpu fy nghenhedlaeth i ac eraill i gael troed ar yr ysgol dai, yn hytrach na pharhau i wthio pobl i dai cymdeithasol neu'r sector rhentu preifat, nad yw ar gyfer pawb? Fe weithiaf gydag unrhyw un ar draws y Senedd hon i gyflwyno'r polisïau sydd eu hangen arnom i reoli'r sefyllfa hon, oherwydd nid yw'r strategaeth bresennol yn gweithio. Diolch, Ddirprwy Lywydd.