Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Mehefin 2021.
Wel, dwi ddim yn mynd i wneud hynny, Llywydd. Mae'r dewis y mae'r cyngor wedi'i wneud yn un anodd dros ben. Y cynllun maen nhw'n bwrw ymlaen i'w wneud nawr yw'r unig gynllun yr oeddem yn cytuno ag ef yn wreiddiol. Roedd y cynllun yna yn dangos bod y ffigurau yn gallu dod yn ôl o dan y lefel y mae'r gyfraith yn ei rhoi i lawr.