Llygredd Aer yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:25, 22 Mehefin 2021

Diolch yn fawr i chi, Brif Weinidog. Fel rŷch chi'n ymwybodol, ar Ddiwrnod Aer Glân, fe wnaeth cyngor Llafur Caerdydd ailagor Heol y Castell yng nghanol Caerdydd. Fe wnaeth eich Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddisgrifio'r symudiad fel un siomedig, ac mae nifer o gynghorwyr o'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd wedi cwestiynu'r ffigurau a'r data y mae'r cyngor wedi’u defnyddio. Fe wnaethom ni i gyd fan hyn, pob un Aelod yn y Senedd, sefyll ar faniffesto i hyrwyddo Deddf aer glân, a byddai lefelau llygredd Heol y Castell yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf yna.

Dwi'n gwybod ei bod yn anodd. Mae yna gwynion yng Nglan-yr-Afon, fel rŷch chi'n ymwybodol, yn Grangetown ac ym Mhontcanna am y cynnydd yn y lefel o lygredd. Ond, mae'n rhaid inni symud pobl o ddefnyddio ceir, a dyw ailagor heol ddim yn ateb hynny. Felly, Brif Weinidog, a gaf i eich annog chi: a wnewch chi plîs siarad gyda Chyngor Caerdydd a'u hannog nhw i ailystyried ac i gau Heol y Castell unwaith eto i gerbydau? Diolch yn fawr.