Llygredd Aer yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 22 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:24, 22 Mehefin 2021

Diolch yn fawr. Llywydd, o dan y drefn rheoli ansawdd aer lleol a sefydlwyd drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i asesu a rheoli risgiau i iechyd y cyhoedd sy’n deillio o lygredd aer. Rydyn ni wedi edrych ar y cyngor annibynnol gan yr arbenigwyr, ac wedi cytuno ar becyn o fesurau a nodwyd gan Gyngor Caerdydd i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â therfynau nitrogen diocsid.