– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 22 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu dau ddatganiad at yr agenda heddiw. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws, a bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad: 'Adolygiad o ffyrdd'. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog, a wnewch chi wneud datganiad ynghylch pryd y bydd y rheoliadau cyfyngol ar gyfer deintyddion preifat ac, yn ddiau, bob deintydd arall yng Nghymru yn cael eu llacio fel y gallant fynd i'r afael â'r angen enfawr a chynyddol am wasanaethau deintyddol yn dilyn y 15 mis anodd diwethaf?
Diolch. Wel, mae hyn yn rhywbeth y bydd y Gweinidog iechyd, yn amlwg, yn siarad amdano â'r cymdeithasau deintyddol perthnasol. Rwy'n gwybod bod rhai deintyddion yn gwneud mwy a mwy o waith, ond wrth inni weld sut y mae'r amrywiolyn delta yn parhau i ledaenu yng Nghymru yn anffodus, rwy'n credu bod rhai deintyddion wedi gorfod cymryd cam yn ôl. Ond, ar yr adeg fwyaf priodol, yn amlwg, rhoddir canllawiau a mwy o wybodaeth.
Trefnydd, ar 25 Mehefin, byddwn yn nodi Diwrnod Mynd yn Wyrdd, ac mae pwyslais yr ymgyrch ar ddatgoedwigo trofannol. Efallai fod hynny'n swnio fel rhywbeth sy'n bell i ffwrdd, ond mae'r blaned, fel yr wyf yn siŵr eich bod yn gwybod, yn colli ardal o goedwig bob blwyddyn sy'n cyfateb i naw gwaith maint Cymru oherwydd ein bod yn bwyta olew palmwydd, soi, coffi, y papur yr ydym yn ysgrifennu arno, y pren a ddefnyddiwn ar gyfer adeiladu. Felly, hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth yn nodi pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud ein cenedl yn un ddi-ddatgoedwigo, oherwydd mae ein harferion siopa yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi sy'n tagu ysgyfaint y byd? Hoffwn pe bai'r datganiad yn ymdrin ag a fydd contract economaidd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi di-ddatgoedwigo, ac a fyddwch yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w gwneud yn ofynnol i gwmnïau ddilyn deddfwriaeth diwydrwydd dyladwy ynghylch eu cadwyni cyflenwi. Ac, yn olaf, ond nid lleiaf o bell ffordd, Trefnydd, hoffwn pe bai'r datganiad yn nodi pa gymorth fydd ar gael i wledydd y cynhyrchwyr—y cymunedau coedwigoedd hynny yn yr Amazon ac ar draws y byd—sydd wedi gweld eu diwylliannau bron â chael eu dinistrio oherwydd ein trachwant a'n diffyg penderfyniad ni.
Diolch. Mae'r Aelod yn codi mater pwysig iawn, ac yn sicr, pan oeddwn i'n gyfrifol am hyn yn nhymor blaenorol y Llywodraeth, roedd yn ddarn o waith yr oeddem yn ei gyflawni gyda Llywodraeth y DU i weld beth arall y gellid ei wneud.
Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn cynnal gwaith ymchwil manwl ynghylch plannu coed ar hyn o bryd, sy'n fater ar wahân, rwy'n gwybod, ond mae'n amlwg yn fater arwyddocaol sy'n gysylltiedig â hyn. Nid wyf yn siŵr a yw hwn yn faes y maen nhw'n ei ystyried, ond, os felly, a bod ganddyn nhw ragor o wybodaeth, gallwn gyflwyno datganiad.
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau urddas mislif, ac yn benodol o ran pryd y mae'r Gweinidogion yn disgwyl gallu cyflwyno eu cynllun gweithredu strategol ar urddas mislif? Rwy'n croesawu'r £3.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu eto i'r mater hwn, a hefyd yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, ond rwy'n awyddus i weld cyhoeddi'r cynllun gweithredu fel y gallwn sicrhau ein bod ni'n cymryd agwedd gyfannol at urddas mislif.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y cynnydd ar y cynllun wedi bod yn arafach na'r gobaith ar y dechrau, oherwydd effaith pandemig COVID. Ond mae gwaith ar y gweill i sicrhau ein bod yn adnewyddu'r cynllun gweithredu strategol drafft ar urddas mislif, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi eto yn ddiweddarach eleni.
Mae llu o ymrwymiadau ar draws Llywodraeth Cymru yn y cynllun hwnnw, ac mae hynny'n cynnwys annog y defnydd o gynhyrchion mislif ecogyfeillgar, sefydlu urddas mislif mewn ysgolion ac mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch—a hynny drwy ddarparu cynhyrchion am ddim ac adnoddau dysgu priodol—a hefyd alluogi darpariaeth mewn mwy o leoliadau iechyd a nodi uchelgais i ddatblygu'r ddarpariaeth o gynhyrchion mislif gan gyflogwyr, busnesau a chyfleusterau i fod yn rhywbeth normal. A byddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, yn flaenorol, wedi rhoi cyllid sylweddol i awdurdodau lleol, fel bod modd i bob awdurdod lleol wneud yr hyn a oedd yn iawn ar gyfer eu poblogaeth leol.
Gweinidog Busnes, mae'n bwysig ein bod ni nawr yn ceisio dod ag ymdeimlad o normalrwydd yn ôl i'n gwlad o ran cyfyngiadau coronafeirws ac ymdrin â'r pandemig hwn. Mae'r ymdeimlad hwnnw o normalrwydd yn arbennig o bwysig i'n pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn cael cymaint o ddysgu yn yr ysgol â phosibl, er mwyn yr holl fanteision yr wyf wedi'u hamlinellu'n flaenorol yn y Siambr hon. Ac eto, yr wythnos hon, yn Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod, mae'r dysgwyr yn yr ysgol gyfan bellach yn cael eu haddysgu ar-lein oherwydd pryderon COVID. Mae angen llwybr cynaliadwy arnom, Trefnydd, ar gyfer mynd i'r afael â'r coronafeirws yn ein hysgolion. Felly, a wnaiff y Gweinidog addysg wneud datganiad am ba fesurau newydd y byddai'n eu hystyried, ac y mae'r Llywodraeth yn eu hystyried, i sicrhau bod plant yn dysgu yn yr ysgol am yr amser mwyaf posibl? Nid yw'n ffordd gynaliadwy o fwrw ymlaen pan fydd grwpiau blwyddyn ysgol gyfan yn absennol ac ysgolion cyfan yn cau, oherwydd mae dysgu yn yr ysgol yn bwysig i ddysgwyr ac mae'r ffaith eu bod gartref yn achosi problem i rieni? Diolch.
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr fod dysgu yn yr ysgol yn bwysig iawn, ac yn amlwg dyma'r tro cyntaf inni gau ysgol gyfan, yn anffodus. Mae arnaf ofn, wrth i'r pandemig hwn fynd yn ei flaen, rwy'n credu, droeon, fod y feirws wedi bod un cam ar y blaen a, phan fyddwch yn meddwl y gallwch wneud pethau, nid ydym wedi gallu gwneud hynny.
Mae'n amlwg bod y Gweinidog dros addysg yn ystyried pa wersi y gellir eu dysgu yn gysylltiedig â'r ysgol hon yn Ninbych-y-pysgod, ond nid wyf yn credu mai nawr yw'r adeg iawn i gyflwyno datganiad.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad am y gostyngiad sylweddol mewn euogfarnau am dreisio yng Nghymru. O'i gymharu â 2016-17, fe wnaeth yr euogfarnau am dreisio yn 2020 ostwng bron i ddwy ran o dair, o gofio mai dim ond 5 y cant oedd yn llwyddiannus yn y lle cyntaf. Mae hynny gyda llai nag un o bob 60 o achosion o dreisio yn cael eu cofnodi gan yr heddlu sy'n arwain at gyhuddo'r sawl sydd dan amheuaeth. Nawr, rwy'n cydnabod nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ond yr hyn sydd wedi'i ddatganoli yw canlyniad a sgil-effeithiau hynny. Wrth gwrs, nid un unigolyn sy'n gysylltiedig ag achos o dreisio. Os yw'r unigolyn yn digwydd bod yn rhiant, bydd yn effeithio ar y plant. Os yw'n blentyn, bydd yn effeithio ar ei rieni, a bydd yn effeithio ar ei frodyr a'i chwiorydd. Rwy'n cofio darllen erthygl a oedd yn dweud bod un achos o'r fath yn effeithio ar 47 o wahanol bobl. Wrth gwrs, mae yna ochr arall i hyn. Oherwydd diffyg euogfarn, a hefyd y diffyg mynediad at gyfiawnder yr ydym wedi'i weld, drwy achosion llys dros dro a pharhaol, mae'n golygu, os byddwch yn aflwyddiannus yn eich euogfarn, y byddwch yn debygol iawn o fod yr un mor aflwyddiannus yn y cymorth sydd ei angen arnoch chi a'ch teulu. Felly, rwy'n gofyn i chi, gyda pharch, gyflwyno rhywbeth yn y dyfodol agos iawn, oherwydd mae hwn yn argyfwng, ac mae'n argyfwng y mae angen inni fynd i'r afael ag ef.
Diolch. Fel yr ydych yn cydnabod, nid yw'r system cyfiawnder troseddol wedi'i datganoli i Gymru, ond wrth gwrs rydym yn cydweithio'n agos iawn â'r holl heddluoedd yng Nghymru ac â phartneriaid cyfiawnder troseddol yma yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol o'r gefnogaeth sylweddol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf o leiaf, ac os nad cyn hynny. Ac ni fyddwn yn gwneud dim ynghylch cam-drin, ac mae gennym ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fel y gwyddoch chi. Mae hynny wedi'i lywio gan dystiolaeth fyd-eang a chenedlaethol yr effeithir ar fenywod a merched yn anghymesur gan bob math o gam-drin. Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ac mae gennym ein llinell ffôn Byw Heb Ofn, ac yn amlwg, gall unrhyw un sy'n dioddef trais neu gam-drin gartref gael gafael ar y cymorth cyfrinachol hwnnw am ddim, bob awr o'r dydd a'r nos, drwy'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, naill ai drwy sgwrsio, drwy alwad, drwy e-bost neu drwy neges destun. A byddwn i'n annog pob Aelod i sicrhau bod eu hetholwyr yn ymwybodol o hynny.
Mae'r tymor ymwelwyr eto yn ein cyrraedd ni, a nifer fawr o bobl yn mynd i ddod i'n cymunedau ni dros yr wythnosau nesaf. Eisoes, mae gwylwyr y glannau, timau achub mynydd, parafeddygon a gwasanaethau brys eraill wedi bod yn ofnadwy o brysur. Mae'r galw ar y gwasanaethau yma, yn enwedig gwasanaethau iechyd, yn cynyddu'n sylweddol adeg gwyliau, ac eleni yn mynd i fod yn fwy prysur nag arfer, ac mi ydym ni hefyd ar drothwy trydedd don o'r coronafeirws. Mae angen felly meddwl am edrych ar sut mae ariannu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd sydd yn gweld poblogaeth yn cynyddu 10 gwaith yn fwy adeg gwyliau. A gawn ni ddatganiad brys gan y Llywodraeth felly ynghylch sut mae disgwyl i'n gwasanaethau brys a gwasanaethau iechyd ymdopi yn ystod cyfnod y gwyliau anodd yma sydd o'n blaenau? Diolch.
Diolch. Rwy'n credu bod y tymor ymwelwyr wedi hen ddechrau yma yng Nghymru. Mae hyn bob amser wedi bod yn rhywbeth sy'n cael ei drafod a'i ystyried pan gynhelir sgyrsiau ar gyllidebu. Felly, nid wyf yn credu bod angen datganiad, ac nid wyf yn credu bod angen cyllideb benodol—mae'n rhan o'r cyllidebau cyffredinol a dderbynnir gan ein byrddau iechyd a'n gwasanaethau.
Gweinidog, gyda'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd wrth inni ddechrau dod allan o bandemig y coronafeirws, mae goryrru yn dod yn un o'r problemau mwyaf yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad am waith partneriaeth GoSafe ac a ellir darparu mwy o arian i ariannu camerâu gwirio cyflymder cyfartalog mewn ardaloedd lle ceir problemau goryrru ar draws ein cymunedau er mwyn helpu i achub bywydau a chadw pobl yn ddiogel a hefyd i leihau allyriadau? Diolch, Llywydd.
Diolch. Mae'r gwasanaeth GoSafe yn sicr yn rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau parhaus ynghylch angen rhagor o gyllid, na sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny. Ond yn sicr fe ofynnaf i'r Gweinidog a oes unrhyw beth penodol ar gael, ac, os oes ganddo ragor o wybodaeth, fe ofynnaf iddo ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink
Trefnydd, mae'n wythnos Hosbis Plant, felly a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i'n dwy hosbis plant yng Nghymru: sef Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, dwy hosbis ragorol, sydd gyda'i gilydd yn darparu gofal seibiant a lliniarol i fwy na 400 o deuluoedd â phlant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd? Ac maen nhw'n dymuno gallu sicrhau'r plant a'r teuluoedd hynny, ac eraill yn y dyfodol, y gallan nhw warantu, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ddyfodol teg a chynaliadwy sy'n cynnig mwy o gymorth a gofal i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru. Byddai datganiad o'r math hwn yn galluogi Llywodraeth Cymru hefyd i ymhelaethu ar yr ymrwymiad i'w groesawu i ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau y diwellir eu hanghenion mor agos i'w cartrefi â phosibl ac yng Nghymru pryd bynnag y bo'n ymarferol. Ac a wnaiff y Llywodraeth amlinellu, felly, sut y bydd yn gweithio gyda Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith i sicrhau bod y cyllid a'r gwasanaethau ychwanegol hyn yn cyrraedd y rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Felly, rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn croesawu datganiad ar yr adeg amserol hon.
Diolch, Huw Irranca-Davies, am dynnu sylw at y gwaith gwych y mae ein hosbisau'n ei wneud. Maen nhw'n darparu gwasanaethau eithriadol o bwysig, ac maen nhw'n rhoi cymorth enfawr i gleifion a theuluoedd a gofalwyr. Efallai eich bod wedi clywed arweinydd yr wrthblaid yn codi'r mater hwn gyda'r Prif Weinidog ac ateb y Prif Weinidog. Rydym yn parhau i fuddsoddi mwy nag £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ledled Cymru, ac mae llawer o hyn yn mynd i'n hosbisau oedolion a phlant ledled Cymru. Rydym hefyd wedi dyrannu £12.3 miliwn o gyllid brys i gefnogi ein hosbisau ers dechrau pandemig COVID-19, ac mae'r cyllid hwnnw wedi'i ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau clinigol a chryfhau ein cymorth profedigaeth gan hosbisau. Rwy'n siŵr bod yr Aelod hefyd yn ymwybodol o ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i adolygu'r gwaith o gynllunio llwybr cleifion a chyllid hosbisau, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes fel y gallwn adolygu'r ffordd y dyrennir yr arian penodol hwnnw i fyrddau iechyd a'n hosbisau gwirfoddol.
Ac, yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae gennyf ddau awgrym. Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn traddodi araith ar 5 Gorffennaf i amlinellu cynlluniau ar gyfer sgwrs genedlaethol ar ein dyfodol cyfansoddiadol. A wnaiff y Gweinidog busnes drefnu datganiad yn y fan hon, cyn ei araith, er mwyn iddo allu rhannu ei gynlluniau gyda ni yn gyntaf?
Rhif 2: yn ystod y pandemig mae'r cyhoedd, yn briodol, wedi cydnabod gwaith y GIG a'r sectorau allweddol wrth wneud popeth posibl i gadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, arweinyddiaeth a darpariaeth llywodraeth leol sydd wedi'u hanwybyddu i raddau helaeth yn ystod y 15 mis diwethaf—sector sydd wedi dangos arloesedd, atebion lleol ac arweinyddiaeth wrth gyflawni dros y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. A wnewch chi drefnu dadl yn amser y Llywodraeth i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol amlinellu ei gweledigaeth hi ar gyfer llywodraeth leol wrth inni gynllunio ein ffordd allan o'r pandemig? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, iawn. Ac rwy'n siŵr—. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud am araith y Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhannu ei araith gyda ni ar yr adeg fwyaf priodol, ond ni fyddwn yn gallu cyflwyno datganiad llafar cyn yr araith, ond fe wnaf—ac mae'n eistedd yn y Siambr gyda mi—fe wnaf sicrhau ei fod yn rhannu ei araith gyda chi.
O ran eich sylwadau am lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus a'u hymateb i'r pandemig, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac rwy'n credu bod pobl yn cydnabod y gwaith anhygoel y maen nhw wedi'i wneud, pan fyddwch yn meddwl am sut maen nhw wedi cefnogi gyda'r gwaith profi, olrhain, amddiffyn, er enghraifft, a darparu parseli bwyd. Ac yn sicr mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'n fawr yr holl waith y mae awdurdodau lleol wedi'i wneud, ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig.
Diolch i'r Trefnydd. Dyna ddiwedd ar yr eitem yna. Felly, byddwn ni'n cymryd toriad byr nawr ar gyfer caniatáu newidiadau yn y Siambr. A bydd y gloch yn canu dwy funud cyn inni ail gychwyn. Diolch yn fawr.