– Senedd Cymru am 2:55 pm ar 22 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—diweddariad ar y coronafeirws. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Am y tro cyntaf yn y Senedd hon ac am y tro cyntaf ers nifer o fisoedd, mae'n rhaid imi ddweud wrth Aelodau fod achosion o'r coronafeirws, yn anffodus, yn cynyddu yma yng Nghymru. Unwaith eto, rŷn ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol ac rŷn ni ar ddechrau'r drydedd don o'r pandemig. O fewn ychydig iawn o wythnosau, mae amrywiolyn delta, roedden ni'n arfer ei alw'n amrywiolyn sy'n peri pryder sy'n tarddu o India, wedi lledu o dri chlwstwr bach yng ngogledd a de-ddwyrain Cymru i'n cymunedau ym mhob rhan o Gymru.
Dros y pythefnos diwethaf, mae cyfradd achosion y coronafeirws a'r gyfradd bositifrwydd wedi mwy na dyblu. Heddiw, y gyfradd achosion yw 31.3 achos fesul 100,000 o bobl. Mae achosion yn cynyddu bron ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, wedi'u gyrru gan yr amrywiolyn hwn sy'n symud yn gyflym ac yn hynod o hawdd i'w drosglwyddo. Yng Nghonwy, mae'r cyfraddau bellach yn agosáu at 100 o achosion fesul 100,000 o bobl, ac yn sir Ddinbych a sir y Fflint maen nhw'n uwch na 50 mewn 100,000.
Dirprwy Lywydd, mae wyth o bob 10 achos newydd o'r coronafeirws yng Nghymru yn achosion o'r amrywiolyn delta. Amcangyfrifir bellach fod y gyfradd R—yr R rate—ar gyfer Cymru rhwng 1 ac 1.4, sy'n arwydd pellach fod heintiau'n codi unwaith eto. Mae'r dystiolaeth i gyd yn awgrymu bod yr amrywiolyn delta yn fwy trosglwyddadwy na'r amrywiolyn alffa—amrywiolyn Kent—a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r achosion yn yr ail don dros y gaeaf.
Nid Cymru yw'r unig ran o Brydain sy'n gweld ton gynyddol o achosion y coronafeirws sy'n cael eu hachosi gan amrywiolyn delta; os rhywbeth, rŷn ni ychydig o wythnosau y tu ôl i'r sefyllfa yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Yn Lloegr erbyn hyn, mae dros 70,000 o achosion wedi'u cadarnhau o amrywiolyn delta, a rhyw 5,000 yn yr Alban. Yn Lloegr a'r Alban, mae niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda'r coronafeirws unwaith eto, ac, yn anffodus iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cadarnhau 73 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag amrywiolyn delta. Yn ffodus, dŷn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwn eto yma yng Nghymru. Rŷn ni tua dwy neu dair wythnos y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i'n ffiniau, ond mae hyn yn darparu darlun sy'n peri gofid i ni.
Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi oedi eu cynlluniau eu hunain i lacio cyfyngiadau'r coronafeirws oherwydd pryder am yr amrywiolyn delta. Ac yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau na fyddwn yn bwrw ymlaen ag unrhyw lacio newydd o'r cyfyngiadau dan do yn lefel rhybudd 1 yr wythnos hon, na dros gylch y tair wythnos nesaf. Byddwn ni'n defnyddio'r saib pedair wythnos i ganolbwyntio ar gyflymu brechiadau er mwyn helpu i atal mwy o bobl rhag mynd yn ddifrifol wael wrth inni wynebu'r don newydd yma o heintiau.
Er bod achosion yn codi, mae'n dal i fod gyda ni'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig, a, diolch i ymdrechion enfawr pawb sy'n ymwneud â'r cynllun, mae rhai o'n cyfraddau brechu ni ymysg y gorau yn y byd. Bydd hyn i gyd yn ein helpu ni wrth inni wynebu'r drydedd don yma. Mae'r gwaith modelu'n awgrymu y gallai oedi o bedair wythnos nawr helpu i leihau'r nifer uchaf o dderbyniadau dyddiol i'r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo'r gwasanaeth iechyd yn brysur iawn yn ymateb i'n holl anghenion gofal iechyd, nid jest y coronafeirws.
Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus i dalu teyrnged i'n rhaglen frechu wych ni ac i bawb sydd wedi ei gwneud hi'n llwyddiant ysgubol. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 88.7 y cant o oedolion wedi cael eu dos cyntaf a bod 60.2 y cant wedi cael eu hail ddos. Rhwng nawr a chanol mis Gorffennaf, fe fyddwn ni'n rhoi 0.5 miliwn o frechlynnau ychwanegol yn y system. Fe fyddwn yn canolbwyntio ar gynnig ail ddos i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 yn ystod y pedair wythnos nesaf, sef pawb dros 50 oed, pob gweithiwr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, a grwpiau eraill sy'n agored i niwed, gan gynnwys, wrth gwrs, breswylwyr cartrefi gofal. A chan ddibynnu ar y cyflenwad, fe fyddwn ni'n cyflymu'r apwyntiadau ar gyfer pobl dros 40 oed fel na fydd yn rhaid iddyn nhw aros am fwy nag wyth wythnos rhwng eu dos cyntaf a'u hail. Nawr, i gyflawni hyn, fe fydd angen cymorth pawb arnom i annog pobl i ddod ymlaen a chwblhau eu cwrs o ddau ddos. Nid yw un brechlyn yn ddigon; mae angen i bawb gael dau.
Dirprwy Lywydd, er na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i reoliadau coronafeirws am y pedair wythnos nesaf, rydym wedi gwneud rhai diwygiadau mân i sicrhau y bydd hi'n haws deall y rheolau. Ac mae'r rhain yn cynnwys newid y rheoliadau fel y bydd maint unrhyw safle—ynghyd ag asesiad risg—yn pennu faint o bobl all fod yn bresennol mewn gwledd briodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd dan do. Rydym wedi dechrau ailagor canolfannau preswyl addysg awyr agored, gan ddechrau gyda phlant oedran ysgol gynradd. Rydym wedi diwygio'r rheoliadau i sicrhau bod y safleoedd sy'n cynnal perfformiadau cerddorol a chomedi ar lawr gwlad yn cyd-fynd â'r rheolau ar gyfer lletygarwch. Ac rydym wedi diweddaru'r rheoliadau hefyd fel eu bod nhw'n adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf o ran sut y gall busnesau gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg ar eu safleoedd nhw ac i egluro'r rheolau ynglŷn â 2m o bellter ar gyfer grwpiau o chwech o bobl.
Fe fyddwn ni'n parhau i gynnal ein rhaglen o ddigwyddiadau peilot yn sectorau theatr, chwaraeon ac eraill yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf, gan arbrofi gyda niferoedd mawr o bobl i weld sut a phryd y maen nhw'n ymgynnull yn ddiogel ac effaith hynny.
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau a ddiweddarwyd hefyd sy'n ymdrin â nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys ymweliadau ag ysbytai a gwasanaethau mewn addoldai. Ac rydym wedi cyhoeddi datganiad gan ein cynghorwyr gwyddonol ni ynglŷn â'r defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion, er na fydd yna unrhyw newid uniongyrchol yn y defnydd ohonyn nhw.
Dirprwy Lywydd, rwyf am gloi drwy ddweud ein bod ni mewn cyfnod tyngedfennol unwaith eto yn ystod y pandemig hwn. Mae'r brechiadau yn cynnig gobaith gwirioneddol o berthynas wahanol â'r feirws. Efallai y bydd modd ymateb i'r don hon heb orfod cyflwyno mesurau o ran cyfyngiadau symud, os gallwn ni dorri'r cyswllt rhwng heintio ac angen triniaeth mewn ysbyty. Fe all brechu ein helpu ni hefyd i symud y tu hwnt i gyfnod pandemig a dod â'r cylch hwn o orfodi a llacio cyfyngiadau i ben. Ond, am y tro, fe fyddwn ni'n parhau â'n dull pwyllog ni, sy'n seiliedig ar ddata, o ymateb i'r pandemig hwn sy'n parhau. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich diweddariad y prynhawn yma? O ran yr amrywiolyn delta, er ein bod ni'n edrych ar gynnydd yn y gyfradd heintio yng Nghymru, mae niferoedd y rhai sydd angen triniaeth mewn ysbyty, yn ffodus, yn parhau i fod yn gymharol fach, sef 116 o gleifion COVID yn gyffredinol mewn gwelyau acíwt, ac un gyda COVID mewn gwely awyru ymledol. Wrth gwrs, rwy'n deall, ac rwy'n credu eich bod chi wedi dweud hynny, y bydd yna oedi bob amser, felly, rhwng wythnosau o heintio ac achosion difrifol.
Ond rwy'n troi nawr at yr hyn a ofynnais ichi ar 8 Mehefin ynglŷn â'ch ymchwil i frechiadau, a'ch ateb chi ar y pryd oedd bod dadansoddiad cynnar o'r data yn edrych yn obeithiol iawn, ac ychydig iawn o achosion o'r amrywiolyn delta oedd gyda ni bryd hynny, mewn gwirionedd, ond roedd yn cynyddu'n gyflym. Felly, ar y pryd, fe ddywedoch chi fod angen
'pythefnos ychwanegol i ni gael dadansoddi'r data', ac felly y dewis priodol oedd—fe ddywedoch chi ar y pryd—i'r Cabinet wneud y penderfyniadau o ran cyflwyno'r cyfyngiadau. Nawr, rwy'n gwybod na allai'r Prif Weinidog roi unrhyw ddiweddariad penodol ddydd Gwener diwethaf o ran effeithiolrwydd y brechu. Mae pythefnos wedi mynd heibio erbyn heddiw, ac nid oes dim byd penodol ynglŷn â hynny yn y datganiad heddiw. Felly, a gaf i ofyn: a wnewch chi roi unrhyw ddiweddariad pellach inni o ran sut mae'r brechiadau wedi gweithio yn erbyn yr amrywiolyn delta yng Nghymru? Ac os na allwch chi ateb hynny heddiw, a fyddech chi'n rhoi syniad inni, efallai, pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i roi'r dadansoddiad hwnnw?
Gan droi at y cyfyngiadau, rwy'n nodi—. Fel yr wyf i'n ei gweld hi, fe ddywedwyd wrthym gan weithwyr iechyd proffesiynol fod COVID yn debygol o fod gyda ni am byth, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, gwaetha'r modd. Ac fe fydd yn rhaid inni fyw gyda COVID. Felly, yn sicr, nid wyf yn dymuno gweld unrhyw gyfyngiadau symud eto; rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno â'r safbwynt hwnnw. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud na fyddai ef yn diystyru unrhyw gyfyngiadau symud pellach ar hyn o bryd. Rwy'n tybio y byddech chi'n cytuno â safbwynt y Prif Weinidog yn hynny o beth. Rydych chi wedi dweud y bydd yna oedi, i bob pwrpas, dros y pedair wythnos nesaf, ond a gaf i eich holi chi am unrhyw ystyriaethau a roddwyd gennych yn y Cabinet i gyfyngiadau pellach neu gyfyngiadau symud pellach? Nid wyf yn dymuno gweld hynny, ond rwy'n gofyn ichi am eich dadansoddiad a'ch barn chi o ran eich ystyriaethau yn y Cabinet ynglŷn â hynny. A ydych chi'n ystyried cyfyngiadau pellach ar hyn o bryd ac, i bob pwrpas, a ydych chi'n anelu tuag at sefyllfa yng Nghymru lle nad oes unrhyw farwolaethau oherwydd COVID? Oherwydd fe fyddai bron yn amhosibl cyflawni hynny, yn fy marn i. Ond rwy'n ceisio deall y cydbwysedd yr ydych chi'n ei geisio yma a phryd y cawn ni'r wybodaeth honno ynglŷn â derbyniadau i ysbytai oherwydd yr amrywiolyn delta, a'ch meddylfryd chi hefyd ynglŷn â chyfyngiadau pellach posibl.
Rydych chi wedi sôn am rai meysydd sydd wedi cael eu llacio. Roeddwn i'n falch iawn eich bod wedi llacio ar y gallu i ymweld â chleifion mewn ysbytai; rydych chi wedi llacio'r cyfyngiadau yn hynny o beth. Rydych chi wedi caniatáu canu mewn eglwysi, sy'n faes arall yr wyf i'n ei groesawu hefyd. Mae croeso hefyd i'r llacio o ran canolfannau addysg awyr agored. Ond rwy'n credu bod yna bryder yma—ac efallai y gofynnaf am eich barn chi ynghylch a oes gwersi i'w dysgu yma—bod angen i rai diwydiannau gael cryn dipyn o rybudd ymlaen llaw. I ganolfannau addysg awyr agored, mae'n cymryd wythnosau i baratoi, ac yna mae'n rhaid i'r ysgolion wneud eu trefniadau nhw, ac mae'n rhy hwyr iddynt newid eu trefniadau. Fe wyddom, pan fydd ysgol efallai wedi newid ei safle—efallai eu bod nhw'n dod i mewn i Gymru ac yn mynd i rywle arall yn y DU—yn y dyfodol efallai na fyddant yn dod yn ôl i Gymru wedyn. Felly, mae'n bwysig iawn bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud a'u rhyddhau i rai sectorau ar fyrder, a chyda digon o rybudd i allu cynllunio er mwyn i lacio'r cyfyngiadau hynny wneud rhywfaint o wahaniaeth iddyn nhw.
Mae arbenigwyr clinigol wedi rhybuddio, gan fod achosion o'r ffliw wedi eu ffrwyno cymaint yn ystod y 18 mis diwethaf oherwydd y cyfyngiadau symud fwy na thebyg, y bydd ein systemau imiwnedd ni'n llai effeithiol, gan arwain o bosibl at broblemau a gaiff eu storio tan y gaeaf. Nawr, yma yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi bod y cyfraddau ymgynghori â meddygon teulu oherwydd y ffliw ar 0.7 fesul 100,000 o boblogaeth—hynny ar 17 Mehefin—sydd ymhell islaw'r cyfartaledd tymhorol o 11 fesul 100,000. Felly, mae data gwyliadwriaeth y sefydliad yn awgrymu nad yw'r ffliw wedi cylchredeg yn ystod misoedd y gaeaf, ac felly mae'r posibilrwydd o gyfraddau uwch neu weithgarwch annhymhorol uwch na'r cyffredin yn ystod tymor 2021-22 yn parhau. Ac yn fyd-eang, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi mynegi pryderon hefyd bod y ffliw yn parhau ar gyfradd is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, o edrych ar y nifer a fanteisiodd ar y brechiad rhag ffliw y llynedd, fe gafodd ychydig dros 51 y cant o'r rhai hynny o dan 65 oed mewn grŵp risg clinigol eu brechiad ffliw. Felly, pa ymdrechion yr ydych yn eu gwneud nawr i sicrhau y bydd y rhai sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu brechu, ac, yn bwysicaf oll, yn manteisio ar y brechlyn? A tybed a allech roi gwybod inni hefyd am eich trafodaethau â'ch cymheiriaid yn y DU o ran rhaglen arall i weinyddu brechiadau atgyfnerthu ar gyfer COVID, a sut yr ydych chi'n cefnogi GIG Cymru i baratoi ac ymdopi â'r hyn a fydd yn anochel yn fwy o bwysau i ddod yn y gaeaf, yn anffodus.
Wel, dyna lawer o gwestiynau, Russell. Diolch i chi. Fe wnaf fy ngorau i geisio eu hateb nhw. Rydych chi'n ymwybodol ein bod ni ar ddechrau trydedd don, a dyna pam nad yw'n amser nawr i roi ein troed lawr ar y sbardun, yn arbennig felly wrth inni barhau i ddysgu am yr amrywiolyn delta.
Mae yna rai arwyddion cynnar sy'n galonogol iawn, ond yn amlwg mae'n anodd iawn cael mesuriadau dibynadwy o Gymru, gan fod ein cyfraddau ni mor isel yma, felly rydym yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, yn Lloegr yn arbennig. Fe gyhoeddwyd rhai papurau diddorol iawn, ond ni chawsant eu hadolygu gan gymheiriaid, felly rydym yn aros am y dadansoddiad hwnnw fel y gallwn fod yn wirioneddol hyderus yn yr hyn yr ydym ni'n ei weld fel arwyddion cynnar o'r posibilrwydd i ddau ddos o'r brechlyn leihau'r tebygolrwydd yn sylweddol o fod ag angen triniaeth mewn ysbyty. Felly, pan welwn ni'r ddogfen honno wedi ei hadolygu gan gymheiriaid, rwy'n credu y byddwn mewn gwell sefyllfa i roi ein dyfarniad ni. Yn sicr, dyna pam rydym ni wedi oedi o ran ein cynlluniau i ddatgloi.
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i orfodi cyfyngiadau symud pellach, ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych y caiff hyn ei yrru gan ddata, fel y bu hi yng Nghymru erioed. Fe fyddwn yn dilyn yr wyddoniaeth ac yn dilyn y data, a'r hyn na fyddwn ni'n ei wneud yw rhoi addewidion gwag. Ni fyddwn ni'n dathlu diwrnod rhyddid yng Nghymru; ni fydd gennym ddyddiad gorffen i anelu ato. Fe fyddwn ni'n gwneud yr hyn sy'n iawn o ystyried yr amgylchiadau sydd ger ein bron, ac fe fyddwn ni'n darllen y data ac yn ymateb i hynny.
Roeddem yn falch o weld ein bod wedi gallu llacio o ran ymweliadau ag ysbytai, ond rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio, mae'n debyg, ei bod yn bwysig i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud ar lefel leol. Felly, fe wyddom ni fod amrywiolyn delta yn arwyddocaol iawn nawr, neu ei fod yn cynyddu mewn ardaloedd yn y gogledd, felly fe all y dyfarniadau a wnân nhw fod yn wahanol i'r dyfarniadau a wneir mewn byrddau iechyd mewn mannau eraill.
Roeddem ni'n falch o lacio'r cyfyngiadau o ran canolfannau ymwelwyr awyr agored, yn enwedig ar gyfer plant ifanc. Ac wrth gwrs, yr hyn yr oeddem ni'n ceisio ei wneud oedd rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r wythnosau prin iawn hyn sydd ar ôl cyn diwedd tymor. Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid canfod cydbwysedd yn hyn o beth; mae'n rhaid inni ystyried y data, Ond pan welwn ni eu bod ar lefel yr ydym yn gyfforddus â hi, yna rwy'n credu y byddai llawer o'r canolfannau hynny'n hapus i agor, yn hytrach na'n bod ni'n rhoi tair wythnos arall iddyn nhw i baratoi. Felly, mater o gydbwyso yw hwn, wrth gwrs.
O ran y ffliw, rydym yn pryderu'n fawr am yr hyn a allai ddigwydd o bosibl yn ystod y gaeaf nesaf. Fe wn i fod y feirws syncytaidd resbiradol yn cylchredeg, yn enwedig ymysg plant, a'i fod yn rhywbeth yr ydym ni'n pryderu'n fawr yn ei gylch, ac rydym yn rhoi cynlluniau sefydliadol cynhwysfawr iawn ar waith. Mae hynny wedi datblygu llawer iawn eisoes, ac fe fyddwn yn gwrando ar gyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio o ran ein gallu ni i gyflwyno dosau atgyfnerthu ochr yn ochr â brechlynnau ffliw i'r dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhyw bedwar neu bump o gwestiynau, dwi'n meddwl, gen i. Y cyntaf jest yn dilyn ymlaen o'r pwynt olaf yn y fan yna: oes gennych chi ddiweddariad i ni ar y gwaith sydd yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y brechiad atgyfnerthu—y booster yna—yn gallu cael ei roi allan yn yr hydref yn unol â'r hyn y mae'r JCVI wedi awgrymu sydd angen ei weld yn digwydd?
Mae gwthio'r ail ddos yna allan mor gyflym â phosib yn allweddol rŵan, wrth gwrs. Dwi'n ymwybodol bod yna wahanol ffyrdd y mae pobl i fod i ddelio â'u byrddau iechyd: rhai yn disgwyl am lythyr, rhai yn disgwyl am alwad ffôn, eraill yn gorfod mynd ar-lein i wneud eu hapwyntiad eu hunain; a dyna wnes i, yn y pen draw, a chael fy ail frechiad i ddoe. Oes yna angen rhywfaint o gysoni neu gryfhau y cyfathrebu ar lefel genedlaethol yn fan hyn, o ran sut y mae pobl i fod i gael yr ail frechiad yna mor fuan â phosib? Achos mae'n rhaid i mi gyfaddef, roeddwn i wedi drysu braidd fy hun dros yr wythnosau diwethaf.
Myfyrwyr: mae llawer o fyfyrwyr wrth gwrs yn mynd i fod wedi cael eu brechiad cyntaf yn lle maen nhw yn y brifysgol, ac wedyn yn mynd yn ôl gartref i rannau eraill o Gymru neu i Loegr. Allwch chi egluro pa waith sy'n cael ei wneud i hwyluso pethau fel bod yr ail ddos yn gallu cael ei rhoi heb rwystrau, lle mae pobl wedi newid cyfeiriad a llythyrau'n mynd ar goll, a'r math yna o beth?
Mae'r twf yn yr amrywiolyn delta, wrth gwrs, yn bygwth ein hysbytai ni unwaith eto. Rydyn ni'n gobeithio, wrth gwrs, bod y brechiad yn mynd i atal ymchwydd mawr yn y nifer sy'n mynd i'r ysbytai, ond beth rydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i gryfhau'r symudiad tuag at gael mwy o safleoedd COVID-lite, fel nad ydy gweithgareddau eraill yr NHS yn dod dan fygythiad mwy na sydd ei angen? Mae cael y safleoedd COVID-lite yma, wrth gwrs, yn rhywbeth mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, er enghraifft, wedi gofyn amdano fo droeon dros y flwyddyn diwethaf. Maen nhw'n dal yn methu â gweld y math o symudiad ar hyn yr hoffen nhw ei gael.
Un cwestiwn olaf ynglŷn ag asthma yn benodol, a'r angen i bobl sy'n dioddef asthma gael brechiad ychwanegol. Mae yna bryder gan Asthma UK bod yna gannoedd o filoedd o bobl wedi mynd ar goll o systemau'r gwasanaeth iechyd ar draws Prydain ac wedi methu â chael y brechiad yn gynnar. Mae yna restr brechiadau ffliw sydd gan y gwasanaeth iechyd beth bynnag; mae fy nharo i fod trio ailddyfeisio'r olwyn wedi mynd ymlaen yn fan hyn. Felly, allwch chi edrych ar y posibilrwydd o jest mynd oddi ar restr asthma'r brechiad ffliw er mwyn sicrhau bod pobl sy'n dioddef asthma yn cael unrhyw boosters mor fuan â phosibl pan ddaw hi i'r hydref? Diolch.
Diolch yn fawr. O ran pobl a chysondeb cyfathrebu, dwi'n meddwl bod y canllawiau'n glir iawn ar wefannau'r awdurdodau iechyd ynglŷn â ble ddylai pobl fynd. Dwi'n meddwl ei fod e'n anodd, achos mae pobl yn derbyn eu gwybodaeth nawr o gymaint o lefydd gwahanol, a dyna pam beth rŷn ni'n ceisio ei wneud yw ymateb i beth sy'n briodol, yn arbennig lle rŷn ni'n gweld bod llai o bobl yn dod ymlaen. Mae yna broblem arbennig gyda ni ar hyn o bryd ymysg pobl groenddu sydd o dras Affricanaidd a Charibïaidd. Ymysg yr oedran 30 i 39, mae yna broblem. Felly, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar ble maen nhw'n mynd ar gyfer eu gwybodaeth nhw. Rŷn ni'n gwneud lot o waith manwl ble rŷn ni'n gweld bod yna broblem. Roeddwn i lan yn Wrecsam ar ddydd Gwener, ac roedd hi'n ddiddorol; fe wnaethon ni weld bod yna broblem mewn un ardal o Wrecsam, ac roedden nhw wedi symud y ganolfan frechu i mewn i ganolfan hamdden yng nghanol yr ardal o ble roedd llai o bobl yn dod. Ac ar y penwythnos, roedden nhw'n mynd i fynd i ganol y dref, fel eu bod nhw'n mynd at lle oedd pobl yn mynd i basio heibio. Felly, dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth sy'n mynd i symud ymlaen.
O ran myfyrwyr, mae'n glir ei bod hi'n bosibl i bobl gerdded i mewn a chael eu brechlyn. Mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny—dos cyntaf neu'r ail ddos hefyd. Daeth fy mab i nôl dros y penwythnos, a'r peth cyntaf y gwnes i oedd sicrhau ei fod e'n mynd am ei frechlyn e; roedd yn ddiddorol i weld wnaeth e ddim cael cynnig y brechlyn pan oedd e yn Lloegr fel myfyriwr. Felly, dwi'n falch o weld ein bod ni ymhell ar y blaen yn y maes yna.
O ran y safleoedd COVID-lite, rŷn ni'n trafod ar hyn o bryd gyda'r byrddau iechyd, ac rŷn ni'n awyddus i weld os allwn ni weld byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd tipyn bach mwy a chael, efallai, canolfannau mwy rhanbarthol. Ond byddwch chi'n ymwybodol, os ŷch chi'n mynd i gael canolfan boeth a chanolfan oer, mae hwnna'n golygu ei fod e'n anodd cael A&E yn yr ardal yna. Trïwch chi gau lawr ardal A&E mewn ysbyty. Dwi ddim yn meddwl eich bod chi'n gofyn am hynny, ond mae hwnna, yn amlwg, yn gyfyngder ar ein posibilrwydd o newid un ysbyty mewn i ganolfan sydd yn COVID-lite.
O ran asthma, dwi'n gwybod, yn y lle cyntaf, roedd pobl gydag asthma difrifol yn yr haen gyntaf yna o bobl a oedd yn cael eu blaenoriaethu. Roeddwn i'n ymwybodol bod yna grŵp gwahanol o ran brechiad ffliw. Roedd yna gyfyngder ar faint oedd gyda ni o'r brechlyn ar yr adeg yna, ac felly wrth inni fynd mewn i'r boosters, fe gawn ni weld os oes mwy o supply gyda ni, ac efallai y bydd yn haws inni fynd nôl at yr adroddiad a'r rhestr yna a oedd gyda ni ar gyfer y ffliw.
Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Fe hoffwn i godi pwynt gyda chi ynglŷn â llif yr wybodaeth a'r ffordd yr ydych chi'n cyflwyno'r wybodaeth honno i'r Senedd. Heddiw, fe gafodd y datganiad hwn ei ychwanegu i'r agenda ar y funud olaf. Ni chlywais i unrhyw beth gwahanol yn y datganiad hwn i'r hyn a glywais i yn eich sesiwn friffio chi i'r wasg ddoe ac, yn wir, yn sesiwn friffio'r Prif Weinidog i'r wasg ddydd Gwener. Rwy'n deall yn iawn y pwysau sydd ar gyflwyno'r wybodaeth hon, ond mae'n bwysig iawn dangos dyledus barch i'r Aelodau a sicrhau bod yr wybodaeth hon yn dod yn gyntaf i'r Aelodau fel y gallant ei chyfathrebu â'u hetholwyr. Yn anterth y pandemig, roeddwn i'n sylweddoli pa mor anodd oedd cyfathrebu'r wybodaeth honno ac fe wnaed hynny drwy sesiynau darlledu cyhoeddus a sesiynau i'r cyfryngau o Barc Cathays. Ond a gaf i ofyn sut yn union yr ydych chi'n rhoi cais am amser wrth i'r Llywodraeth amserlennu ei busnes seneddol? Oherwydd fe fyddwn i'n annog y Llywodraeth yn enbyd, ac yn ceisio cefnogaeth gan y Llywydd yn hyn o beth, i sicrhau bod y datganiadau hyn yn cael eu cyflwyno a bod yr wybodaeth hon yn dod yn gyntaf i'r Aelodau, yn hytrach nag yn y sesiynau briffio i'r wasg a gynhelir ym Mharc Cathays ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr iawn. Yn sicr, roeddem yn awyddus iawn i sicrhau eich bod chi'n cael clywed yr wybodaeth hon yn y Siambr. Roeddem ni'n ymwybodol iawn i'r datganiad hwnnw gael ei wneud gan y Prif Weinidog ddydd Gwener, ac i ragor o wybodaeth gael ei rhoi gennyf fi ddoe. Dyna pam roeddem ni'n bryderus iawn. Peidiwch ag anghofio ein bod ni'n gwneud penderfyniadau mewn amser real yn y cyswllt hwn gyda data yn cael eu rhoi inni ar y funud olaf un, ac mae'n rhaid gwneud penderfyniadau cyflym iawn. Mae'n rhaid gwneud rhai o'r dyfarniadau hyn ar y dydd Iau, gyda'r cyhoeddiad ar y dydd Gwener, a heddiw yw'r cyfle cyntaf a gawn i ddod atoch chi a rhoi gwybod beth yn union sy'n digwydd. Fe fyddwn ni'n parhau â'r ymrwymiad hwn i roi'r wybodaeth ichi, ond mae yna adegau yn ystod pandemig lle mae angen cyflwyno gwybodaeth yn gyflym iawn, a sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa, yn enwedig pan ydym ar ddechrau trydedd don.
Gweinidog, er bod briffiau a datganiadau Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws wedi cwmpasu ystod eang o feysydd, un maes sydd heb gael llawer o sylw, yn ddiweddar yn sicr, yw deintyddiaeth. Yn amlwg, mae triniaethau brys wedi bod ar gael drwy gydol cyfnod COVID, ond mae ffigurau a ddarparwyd gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dangos bod deintyddiaeth yng Nghymru yn gweithredu ar hyn o bryd ar lefel sydd tua un rhan o bump o'r lefel cyn y pandemig. Fe wyddom pa mor bwysig yw archwiliadau ataliol rheolaidd o ran iechyd y geg, ac mae rhai o fy etholwyr i yng nghwm Tawe wedi cysylltu â mi yn mynegi eu pryderon nad ydynt wedi cael archwiliad rheolaidd ers cryn dipyn o amser erbyn hyn. Mae yna ddealltwriaeth, wrth gwrs, fod yn rhaid ailddechrau archwiliadau rheolaidd yn ddiogel, ond ar yr un pryd, mae pryderon hefyd ynghylch y posibilrwydd o ehangu'r bwlch anghydraddoldeb o ran iechyd y geg. A wnewch chi felly amlinellu meddylfryd Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a'r trafodaethau sy'n digwydd gyda'r proffesiwn, a rhoi syniad o ba bryd yr ydych chi'n disgwyl i wasanaethau deintyddol arferol ailddechrau? Diolch.
Rwy'n ymwybodol iawn bod deintyddiaeth yn un o'r sectorau hynny lle mae'n rhaid bod yn ofalus iawn, oherwydd mae'r perygl o ymlediad gan aerosol yn real ac yn fwy arwyddocaol yno na mewn llawer o sector arall. Dyna pam rydym ni'n parhau i fod mewn sefyllfa lle'r ydym ni ar rybudd ambr o ran deintyddiaeth. Mae hynny'n golygu bod y cyfyngiadau hynny'n ddifrifol iawn, mewn gwirionedd. Mae'n rhaid sicrhau bod yna lanhau trylwyr iawn rhwng triniaethau i wahanol unigolion. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o anhawster y sefyllfa hon. Rwyf wedi cael cyfarfod eisoes gyda'm swyddogion i ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud i gyflymu'r sefyllfa pan allwn ni. Mae rhywfaint o ymchwil ddiddorol iawn wedi dod allan o Brifysgol Bangor i ddangos y gall cynorthwywyr deintyddol fod yr un mor gywir yn eu dadansoddiad nhw o archwiliadau, ac felly fe fyddwn ni'n ystyried a fyddai modd defnyddio cynorthwywyr deintyddol a'u hyfforddi nhw i glirio rhywfaint o'r gwaith sydd wedi pentyrru. Mae rhywun newydd ofyn imi sut i gael amser yn y Siambr; rwyf wedi gofyn a fyddai modd imi ddod i Siambr a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa o ran deintyddiaeth, oherwydd rwy'n ymwybodol bod hon yn broblem neilltuol ledled Cymru.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Roeddech chi'n crybwyll canolfannau addysg awyr agored a'r cyfleoedd y gellir eu rhoi nawr i blant ysgol gynradd o ganlyniad i rai o'r newidiadau a wnaethoch chi. Mae pennaeth Llu Cadetiaid y Fyddin yn y gogledd wedi cysylltu â mi, gan ddweud y bydd y cyfyngiadau parhaus hyn, yn anffodus, yn effeithio ar tua 1,000 o gadetiaid yng Nghymru, rhwng 12 a 18 oed, a oedd yn edrych ymlaen yn fawr at wersylloedd a gweithgareddau'r haf sydd wedi bod yn eu dyddiaduron nhw ers misoedd lawer. A gaf i eich annog chi i adolygu'r cyfyngiadau hyn cyn gynted ag y bo modd, gyda golwg ar godi'r cyfyngiadau ar wersylloedd cadetiaid y fyddin yn benodol, ac wrth gwrs ar weithgareddau eraill? Dylid cofio y bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn dod o gefndiroedd difreintiedig a heb gael unrhyw gyfle i ddod at ei gilydd na mynd i ffwrdd, efallai, ar wyliau teuluol hyd yn oed, boed hynny yng Nghymru neu rannau eraill o'r DU? A gaf i ofyn ichi am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa bryd yr ydych chi'n disgwyl bod mewn sefyllfa i adolygu'r sefyllfa honno cyn gynted â phosibl? Diolch.
Diolch yn fawr, Darren. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi hyrwyddo'r lluoedd arfog am flynyddoedd lawer, ac mae'n wych eich gweld chi'n parhau yn y swyddogaeth honno. Fe fyddwch yn ymwybodol, pe byddem yn caniatáu i bobl aros yn yr un llety dros nos, fod y tebygolrwydd o ymlediad feirysol yn cynyddu'n sylweddol. Gallwn wneud hyn o ran plant ysgol gynradd, yn rhannol oherwydd ein bod yn gwybod, os effeithir arnyn nhw, fod yr effaith yn isel iawn, ond hefyd gan fod y plant hyn mewn swigod eisoes. Ni fyddai hynny'n wir yn achos cadetiaid y fyddin, a dyna pam na fydd yn bosibl inni, ar hyn o bryd, ganiatáu i hyn ddigwydd. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn dod i farn ar hyn eto ymhen y mis, o ran faint o gymysgu dan do a ganiateir, ond rwy'n credu bod ychydig o ffordd i fynd eto cyn y gallwn weld sefyllfa sy'n caniatáu i oedolion gymysgu dan do dros gyfnod hir o amser—hynny yw, arhosiad dros nos. Rwy'n credu y bydd hynny'n cymryd ychydig mwy o amser, mae arnaf ofn, Darren.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Fe hoffwn innau wneud sylwadau hefyd ynghylch eich cyfeiriad at ganolfannau addysg awyr agored preswyl. Cysylltodd rhai ohonyn nhw â mi ddoe, a dyna sut y cefais i wybod am ddatganiad Llywodraeth Cymru, gan nad oeddem ni wedi cael ein hysbysu'n uniongyrchol fel Aelodau. Fe godais i'r pryderon hyn a fynegwyd gan ganolfannau addysg awyr agored preswyl ynghylch canllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth Cymru yma am y tro cyntaf ym mis Mawrth, ar ôl i'r sector ddweud eu bod nhw wedi 'cyrraedd pwynt tyngedfennol', heb allu masnachu am 12 mis, ac eto roedd Llywodraeth Cymru, medden nhw, wedi methu â rhoi'r cymorth ariannol na chynnal y ddeialog adeiladol yr oedd eu hangen arnynt i oroesi. Rwy'n credu bod y llythyr hwnnw wedi ei anfon at bob Aelod.
Yr wythnos diwethaf, cefais negeseuon e-bost oddi wrth ganolfannau addysg awyr agored preswyl yn dweud, er enghraifft, 'Mae'r diwydiant hwn yn cael ei andwyo am byth. Mae hyn yn achosi diffyg ariannol enfawr yn yr economi leol, yn yr hirdymor a'r byrdymor fel ei gilydd. Ar hyn o bryd, mae gwestai addysg awyr agored yn cael eu rheoli'n ddiogel yn Lloegr, ac mae'r arian a ddylai fod yn dod i mewn i economi Cymru yn mynd ar goll. Mae'r rheolau'n anghyson ac, a dweud y gwir, yn ddiffygiol. Yn syml, mae Cymru ar fin colli un o'r ffyrdd mwyaf llawen o rannu ei threftadaeth a'i diwylliant gyda phobl ifanc. A dyma ddyfyniad olaf: 'Mae colli canolfannau yng Nghymru yn drychineb i Gymru o safbwynt ariannol a diwylliannol, ond mae ffordd hawdd o ymdrin â hyn'.
Er ichi gyhoeddi ddoe y bydd aros dros nos mewn canolfannau addysg awyr agored preswyl yn cael ei ganiatáu bellach i blant ysgol gynradd, mae'r canolfannau wedi ymateb gan ddweud, er enghraifft, 'Trueni na chawsom glywed am y newidiadau i'r cyngor ychydig wythnosau yn ôl, oherwydd fe fyddai wedi bod mwy o gyfle i achub rhai canolfannau' ac, 'Mae'n ymddangos i lawer ohonom ni sy'n darparu addysg awyr agored breswyl mai'r cyfan a wnaed oedd ymateb i'r argyfwng hwnnw gydag argyfwng arall'. Sut ydych chi'n mynd i ymgysylltu â nhw nawr yn y ddeialog adeiladol y maen nhw wedi bod yn galw amdani ers tro byd?
Diolch yn fawr, Mark. Rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw ein bod ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y sector hwn i Gymru. Rwy'n credu ei fod yn un o'r meysydd, yn enwedig mewn rhannau o'r gogledd a Bannau Brycheiniog, lle gall pobl, mewn gwirionedd, gael profiadau sy'n newid bywydau—gan gymryd pobl allan o'u hamgylchedd arferol a chyflwyno bywyd yn yr awyr agored iddynt. Wrth gwrs, rydym yn deall pa mor bwysig yw hyn i iechyd meddwl, yn benodol, ac i lesiant hefyd. Ac rydym ni wedi rhoi cymorth i'r sector hwn mewn gwirionedd. Mae'n ddigon hawdd dweud, 'Trueni na chawsom glywed am y newidiadau ychydig wythnosau yn ôl'. Wel, trueni na fyddem ni wedi cael gwybod am y feirws ychydig fisoedd yn ôl. Mae honno'n ffordd ryfedd iawn o awgrymu ein bod ni'n gwneud penderfyniadau fel hyn. [Torri ar draws.] Na. Rydym ni wedi dilyn y data bob amser. Byddwn yn parhau i ddilyn y data. Fe wyddom fod trosglwyddiad o fewn ardaloedd preswyl lle mae oedolion yn cymysgu dros gyfnod hir yn debygol o beri i'r feirws ymledu. Ni ellir ein plagio am hyn. Fe fyddwn ni'n dal ein tir. Ein gwaith ni yw amddiffyn pobl Cymru, a dyna yw ein safbwynt ni. Ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i estyn cymorth i sectorau sy'n cael amser anodd.
Diolch, Weinidog.