5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:12, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser cefnogi'r cynnig hwn a gyflwynwyd gan fy nghyfaill yr Aelod dros Ogwr heddiw. Pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl hon, deuthum o hyd i ffigur ar StatsCymru a'm syfrdanodd ac a danlinellai bwysigrwydd y ddadl heddiw, sef nifer teithiau teithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul y pen o'r boblogaeth yn 2019-20. Ar gyfer Lloegr, roedd yn 72.3, yr Alban 67, ac i Gymru dim ond 28.2 oedd y ffigur, a hynny cyn i ni ystyried effaith COVID.

Yng nghyd-destun y pandemig, fodd bynnag, mae'n deg dechrau drwy gydnabod y gefnogaeth sylweddol a ddarparodd Llywodraeth Cymru—cymorth fel y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau sy'n werth miliynau o bunnoedd. Nid yw'n ormod dweud na fyddai'r diwydiant bysiau'n bodoli heb y gefnogaeth honno. Ond mae hynny, ynddo'i hun, yn codi cwestiynau, fel y mae ail ran y cynnig yn awgrymu—cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd y model presennol, a yw gwasanaethau'n ateb y galw lleol, a sut rydym yn mapio ac yn pennu llwybrau yn ein cymunedau. Mae angen ailfeddwl yn radical beth rydym ei eisiau o ddarpariaeth bysiau a'r hyn y credwn sy'n ddarpariaeth bysiau dda.

Yn gyntaf, rhaid inni ddarparu gwasanaethau bysiau y mae ein cymunedau am eu cael, ac rwyf am ddangos hyn drwy enghraifft yn fy etholaeth. Mae'r daith o bentref Cwm-bach i archfarchnad leol yn llai nag 1 filltir. Mae llawer o bobl hŷn yn byw yn y pentref, mae cyfraddau perchnogaeth ceir yn isel, ac ers i'r archfarchnad gael ei hadeiladu dros 20 mlynedd yn ôl, mae gwasanaeth bws uniongyrchol wedi bodoli. Yn ddiweddar, fodd bynnag, penderfynodd y gweithredwr bysiau gael gwared ar y gwasanaeth, a bellach rhaid i bobl fynd ar ddau neu dri bws i gyrraedd yr archfarchnad, taith a all fod hyd at 5 milltir bob ffordd—taith 10 milltir ar gyfer siwrnai a ddylai fod yn llai na 2 filltir. Yn amlwg, gall fod yn her wirioneddol gyda bagiau siopa trwm. Sut y mae annog pobl i fynd ar fysiau os mai dyma'r math o wasanaeth sy'n cael ei ddarparu? Rwy'n cefnogi pwynt 6 y cynnig am sgwrs ystyrlon â chymunedau. Mae pobl leol angen, ac yn haeddu, cael llais uniongyrchol yn y broses o benderfynu ar ddarpariaeth sy'n diwallu eu hanghenion.

Yn ail, rhaid inni gynnig ffyrdd gwahanol o ymateb i'r anghenion hynny. Fel pob Aelod, caf ohebiaeth reolaidd gan etholwyr am y gwasanaethau y maent eu hangen neu eu heisiau, a chaf yr un ymatebion gan weithredwyr bysiau pan leisiaf y pryderon hyn yn eu tro. 'Nid yw'r llwybrau hynny'n hyfyw yn economaidd', dywedant, 'Nid oes digon o deithwyr i'w cyfiawnhau'. Credaf y gallai teithio ar alw fod yn fodd o dorri drwy'r impasse nad yw byth yn caniatáu inni archwilio a yw llwybrau gwasanaethau bysiau newydd yn hyfyw mewn gwirionedd ac y byddent yn cael eu defnyddio. Efallai na fydd yn ymarferol cael bysiau mawr, gwag yn rhuo o gwmpas, ond efallai mai cerbydau llai yn gweithredu mewn ffordd ddoethach yw'r ateb. Treialwyd cynllun Fflecsi yn y Senedd y tymor diwethaf, gan gynnwys mewn rhannau o RhCT, ac o dan y cynllun hwnnw, gallai pobl ofyn i fws ar alw eu codi o'u cartref, eu gwaith neu'r siopau. Byddwn yn awyddus iawn i weld llawer mwy o hyn. Rhaid iddo weithredu ochr yn ochr â gwaith darparwyr trafnidiaeth gymunedol i ategu'r gwaith a wnânt.

Yn drydydd, rhaid i lwybrau bysiau gysylltu â'i gilydd. Mae hon yn her benodol ar lwybrau hwy, er enghraifft o fy etholaeth i i Abertawe—cyrchfan siopa boblogaidd ac ardal gyflogaeth, ac eto ni cheir gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol. Yn lle gwasanaeth bws uniongyrchol, sawl blwyddyn yn ôl cafwyd dau wasanaeth sy'n cysylltu, Aberdâr i Lyn Nedd a Glyn Nedd i Abertawe. I ddechrau, roedd yn rhaid aros 15 munud rhwng bysiau, ond newidiodd hynny i awr gan fod gwahanol gwmnïau'n darparu cymalau gwahanol o'r daith ac nid oeddent yn barod i gyfaddawdu na gweithio gyda'i gilydd i gael gwasanaeth sy'n cydgysylltu. Nid yw'n realistig disgwyl i bobl aros cyhyd; sut y gallwn annog mwy o bobl ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda threfniadau mor anymarferol? Yn yr un modd, nid oes llwybr bws uniongyrchol i Gaerdydd o fy etholaeth i. Iawn, mae gennym drenau, ond hyd yn oed pan fydd y metro'n gweithredu ar gapasiti llawn, dim ond 25 y cant o draffig cymudo presennol y Cymoedd i Gaerdydd y bydd y rheilffyrdd yn ei gario. Felly, mae angen ymdrech fawr i ddarparu gwasanaethau bysiau os ydym am ddenu pobl allan o'u ceir, ac mae cwestiwn y metro yn allweddol i fy etholaeth i. Pan gafodd ei ystyried yn gyntaf, roedd cysyniad y metro yn ymwneud â mwy na gwasanaeth trên yn unig, roedd yn ymwneud hefyd â gwasanaeth bws gwennol cynhwysfawr yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth cwbl gydgysylltiedig. Mae hyn yn allweddol i gymunedau fel y rhai rwy'n eu cynrychioli lle gall pobl fyw gryn bellter o orsaf drenau, yn gymharol ynysig. Cefais fy nghalonogi gan drafodaethau diweddar ar y metro sy'n sôn am fysiau fel rhan fwy o'r cynllun yn ei gamau nesaf. Yn yr un modd, roedd sylwadau'r Dirprwy Weinidog yn ei ddatganiad ddoe ynghylch integreiddio gwasanaethau yn galonogol.

I gloi, hoffwn ddweud ychydig eiriau i ddangos fy ngwerthfawrogiad o'n gyrwyr bysiau. Yn ystod y pandemig, maent wedi bod yn weithwyr hanfodol sydd wedi cadw'r gwasanaethau'n weithredol. Mae sicrhau'r safonau cyflogaeth uchaf a bod staff yn cael llais yn nyfodol eu diwydiant yn allweddol i unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol. Diolch.