– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 23 Mehefin 2021.
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, ac fe fyddwn ni felly yn symud ymlaen i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer gyntaf heddiw i'w chyflwyno gan Jack Sargeant. Felly dwi'n galw ar Jack Sargeant i wneud ei gyflwyniad. Jack Sargeant.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant fel aelod hynod falch o undebau Unite a Community? Lywydd, rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-gadeirydd grŵp Unite yn y Senedd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Sarah Murphy, a hefyd i fy nghyd-Aelodau Carolyn Thomas a Mike Hedges.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld ein cymunedau a'n gweithwyr yn cyd-dynnu i helpu ei gilydd a chadw ein gilydd yn ddiogel, gweithwyr mewn cynifer o feysydd yn gwneud aberth enfawr: yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal, yn ein canolfannau brechu, yn darparu bwyd ac eitemau hanfodol, yn cadw ein cymunedau'n lân a'n cartrefi'n ddiogel a chymaint mwy. Ddirprwy Lywydd, yn y mudiad Llafur, mae gennym air am y cyd-dynnu hwn: rydym yn ei alw'n gydsafiad.
Gwelsom hefyd enghraifft o'r her gyda pheiriannau anadlu yn Airbus a'r partneriaid lleol yn y gadwyn gyflenwi leol: gweithwyr yn rhoi eu bywydau ar stop i newid cynhyrchiant i beiriannau anadlu heb fawr o rybudd. Ni fydd y rhai nad ydynt yn beirianwyr yn deall pa mor anodd yw hynny. Roedd yr hyn a wnaeth y gweithwyr yn wyrthiol ac fe achubodd fywydau. Gwerth chwe mis o gynhyrchiant peiriannau anadlu arferol mewn un diwrnod yn unig. Ac rwy'n ailadrodd hynny: chwe mis o gynhyrchiant peiriannau anadlu arferol mewn un diwrnod yn unig.
Rhaid inni edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf a chydnabod bod angen bargen decach i weithwyr yn y wlad hon ac y dylai Llywodraethau ar y naill ben a'r llall i'r M4 geisio gwobrwyo gweithwyr a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli gyda mwy o lais a mwy o amddiffyniadau. Yn bersonol, rwy'n croesawu'n fawr y gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud i osod partneriaeth gymdeithasol wrth wraidd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Fel cynrychiolwyr cymunedau gweithgynhyrchu balch yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gwelwn enghreifftiau di-rif o'r gwaith anhygoel y mae undebau llafur—ac yn enwedig stiwardiaid llawr gwaith fel Daz Reynolds o undeb Unite—yn ei wneud dros ein cymunedau. Unwaith eto, roedd y gwaith a wnaed yn Airbus y llynedd gan Daz ac Undeb Unite Cymru ar ddiogelu swyddi yn enghraifft wych o bartneriaeth gymdeithasol ar waith. Camodd yr undebau i mewn a negodi wythnos waith fyrrach, gan achub 360 o swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda.
Gadewch i ni gyferbynnu hynny â'r hyn sy'n digwydd pan nad yw cyflogwyr yn gweithio gydag undebau ac yn ceisio tanseilio eu gweithlu: sgandal ffiaidd diswyddo ac ailgyflogi mewn ymgais i leihau telerau ac amodau gweithwyr gyda bygythiad y cânt eu diswyddo os nad ydynt yn cytuno. Nid oes lle i arferion o'r fath yng Nghymru nac yn unrhyw le arall, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru mor huawdl yr wythnos diwethaf. Ddirprwy Lywydd, mae'r arfer hwn yn wrthun, a dylem i gyd sefyll gyda'r undebau i ddweud bod yn rhaid iddo ddod i ben. Nid yw geiriau'n ddigon, a dylai Llywodraeth Geidwadol y DU roi diwedd ar ddiswyddo ac ailgyflogi ar unwaith. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb mewn codau gwirfoddol; mae angen diogelwch llawn y gyfraith ar weithwyr.
Yng Nghymru mae gennym gyfle i arwain ac adeiladu cydsafiad a thegwch i weithwyr ym mhopeth a wnawn. Mae dwy ffordd o gyflawni hyn: drwy fod Llywodraethau'n ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â phobl ac undebau llafur, a thrwy i bob un ohonom ymuno â'r undeb a sefyll mewn cydsafiad â'n cydweithwyr.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae undebau wedi cyflawni cymaint ar ran gweithwyr: diogelwch yn y gweithle, absenoldeb â thâl, y penwythnos a chymaint mwy, ac mae'n hen bryd inni eu grymuso i sicrhau bargen decach i weithwyr. Diolch yn fawr.
Ar y dechrau, fe wnaf ddatgan buddiant fel aelod balch o undebau llafur Unite, Unsain, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac Undeb GMB.
Diolch, Jack, am gyflwyno'r ddadl fer hanfodol hon heddiw, ac ategaf bopeth rydych wedi'i ddweud. Ni allai'r sefyllfa fod yn gliriach: nid oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU unrhyw fwriad i sefyll dros y gweithwyr, felly yn eu habsenoldeb rhaid inni ymladd diswyddo ac ailgyflogi â chydsafiad a chywilydd. Cydsafiad â'n gweithwyr ar draws pob sector sy'n wynebu'r dewis gwarthus hwn, gyda'n brodyr a'n chwiorydd yn yr undebau llafur sy'n mynd ar streic ac yn ymladd, a chywilydd, oherwydd mae cywilydd yn ysgogydd pwerus i'r busnesau mawr hyn. Edrychwch ar sut y cafodd British Airways eu cywilyddio i roi'r gorau i'w cynlluniau diswyddo ac ailgyflogi.
Felly, dyna pam y mae angen i fwy ohonom yma heddiw sefyll a dweud, 'Cywilydd arnoch Nwy Prydain, Asda, Sainsbury's drwy Argos, am fygwth diswyddo eich staff os nad ydynt yn derbyn telerau ac amodau gwaeth, a chywilydd arnoch am drin eich staff mor wael a hwythau wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig ac wedi chwyddo eich elw ac wedi leinio pocedi eich cyfranddalwyr. A chywilydd arnoch chi, Lywodraeth y DU, am gefnu ar weithwyr pan allech roi diwedd ar yr arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi, ond eich bod yn dewis peidio â gwneud hynny.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am roi munud i mi? Cytunaf â phopeth y mae Jack Sargeant a Sarah Murphy wedi'i ddweud am ddiswyddo ac ailgyflogi, ond nid wyf am ailadrodd hynny. Rwy'n mynd i symud ymlaen at bwnc arall yn ymwneud â'r modd y mae gweithwyr yn cael eu trin mor wael, sef cyflogau.
Cyflwynwyd yr isafswm cyflog dros 20 mlynedd yn ôl, ond rydym bellach wedi cyrraedd y cam lle dylem fod yn deddfu ar gyfer y cyflog byw go iawn. Mae'r cyflog byw go iawn yn seiliedig ar gostau byw ac ar hyn o bryd mae'n cael ei dalu'n wirfoddol gan dros 7,000 o gyflogwyr. Ym mis Ebrill 2016, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol gyfradd isafswm cyflog uwch ar gyfer yr holl staff dros 25 oed, a'i gamenwi'n gyflog byw cenedlaethol. Mae'n llawer o bethau, ond nid yw'n gyflog byw.
Nid yw'r isafswm cyflog yn cael ei gyfrifo yn ôl yr hyn sydd ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw. Mae'n seiliedig ar gyrraedd 66 y cant o'r canolrif enillion erbyn 2024. Ar hyn o bryd mae dros £1 yr awr yn llai na'r cyflog byw go iawn. Beth y mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu, i rywun sy'n gweithio 40 awr, eu bod yn cael £40 yn llai, ac i lawer ohonynt, dyna eu bil bwyd am yr wythnos. A chredaf mai dyna'r pwynt i bobl: mae llawer o bobl yn gweithio amser llawn ac yn dal i fyw mewn tlodi. Ni ddylai pobl fod yn byw mewn tlodi pan fyddant yn gweithio amser llawn. Rhaid inni gael cyflog byw go iawn i bobl, ac nid yw gostwng cyflogau a thalu'r isafswm cyflog i bawb yn gwneud dim i wella cynhyrchiant pobl, ac nid yw'n gwneud dim i fywydau pobl.
Diolch i Jack am gyflwyno'r ddadl hon yn y Senedd, ac am bopeth y mae'n ei wneud i gefnogi gweithwyr a diwydiant yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn fy mhrofiad personol fel postmon, gwelais sut y mae'r ymgyrch i hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn ein gorfodi i dderbyn oriau gwaith afrealistig. Ymladdodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn llwyddiannus yn erbyn masnachfreinio ein brand a chyflogau is i ddechreuwyr newydd a fyddai wedi creu gweithlu dwy haen, ond mae'r cyflogwr yn dal ati i ymosod ar yr enillion hyn. Fel y mae, mae pob contract newydd yn rhan-amser, ond disgwylir i chi weithio amser llawn, sy'n golygu nad yw'r gweithlu'n cael gwyliau llawn, hawl pensiwn na thâl salwch llawn, ac ni all ymrwymo i swydd ran-amser arall i sicrhau cyflogaeth amser llawn. Mae preifateiddio, cystadleurwydd a pholisïau Llywodraeth y DU wedi gwthio safonau cyflogaeth a chyflogau i lefel is nag erioed a ras i'r gwaelod. Rhowch dâl teg i weithwyr am waith teg, a thyfu'r economi yn y ffordd honno. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Hannah Blythyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod a fy nghymydog etholaethol Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon yn y Senedd heddiw. Fel rhywun sydd wedi treulio'r mwyafrif helaeth o'i bywyd gwaith yn gweithio am well bargen yn y gwaith, mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac rwy'n rhannu eich ymrwymiad i gael bargen well i weithwyr. Rwyf am i bob gweithiwr yng Nghymru gael eu trin yn deg a chyda pharch, fel y dylai fod. Hefyd, llongyfarchiadau i chi a Sarah Murphy ar ddod yn gyd-gadeiryddion grŵp Unite yn y Senedd yma, gan fy nilyn i a'r Dirprwy Lywydd hefyd.
Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw, oherwydd fel y clywsom, mae'r materion hyn yn effeithio ar fywydau beunyddiol a bywoliaeth pobl ar hyd a lled Cymru. Ac roedd Jack Sargeant yn iawn i siarad am enghraifft Airbus, lle'r oedd yn talu teyrnged ac yn dyst i'r hyn sy'n digwydd pan fydd yr undebau llafur yn cydweithio â'r cyflogwyr, ac yn gwneud penderfyniad beiddgar a dewr. Gwn fod llawer o glod i waith Daz Reynolds a'r tîm yn Airbus am wneud hynny, a'r gwaith i ni yn gyffredinol wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
Fe wyddoch fod cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn gyrru popeth a wnawn fel Llywodraeth, ac mae gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol yn ganolog i hynny. Mae gwaith diogel a gwerth chweil o fudd i weithwyr ac i gyflogwyr hefyd. Gwyddom fod bargen well i weithwyr yn gwneud gwahaniaeth o ran gwneud gweithleoedd yn well, ac mae'n mynd lawer ymhellach ac yn llawer mwy sylfaenol i wead gwlad ac adferiad cryfach, gwell a thecach. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi ymrwymo i weithio tuag at waith teg yng Nghymru, gan gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau a bywoliaeth pobl.
Er bod hawliau cyflogaeth, fel y clywsom, yn parhau i fod wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull a phŵer sydd ar gael i ni i sicrhau canlyniadau gwaith teg, gan ddefnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol a phŵer y pwrs cyhoeddus i wella arferion, diwylliant ac ymddygiad gwaith. Bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus drafft yn rhoi partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru ar sail ffurfiol. Bydd yn cryfhau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, a bydd yn gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus penodol. Bydd hefyd yn gosod dyletswydd gwaith teg ar Weinidogion Cymru.
Ond wrth gwrs, er ei fod yn gam sylweddol ymlaen i ni, nid y Bil yw ein hunig ddull o sicrhau newid. Rwyf am i'r Llywodraeth newydd hon yng Nghymru symud yn gyflym i weithredu'r agenda bolisi uchelgeisiol a nodir yn adroddiad 'Gwaith Teg Cymru'. Ac rydym wedi dechrau hynny gydag ymgyrch hawliau a chyfrifoldebau'r gweithlu gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o hawliau yn y gweithle ac arweiniad ar gymorth. Rydym hefyd wedi sefydlu fforwm gwaith teg a gweithgorau cysylltiedig ar gyfer gofal cymdeithasol, i geisio gwella amodau gwaith ym maes gofal cymdeithasol, a fydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig yn y broses o wireddu ein haddewid i dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Soniodd Mike Hedges am bwysigrwydd gwthio'r cyflog byw go iawn, wedi cynifer o flynyddoedd ar ôl cyflwyno'r isafswm cyflog—20 mlynedd ar ôl i'r ymgyrch dros gyflog byw ddechrau mewn gwirionedd. I mi, nid yw'n feincnod, mae'n llinell sylfaen, a dylid gosod cyflog byw go iawn o amgylch telerau ac amodau eraill, a'r cyfle i gamu ymlaen yn y gwaith.
Rydym hefyd wedi sefydlu fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol, sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth o bartneriaid i wella'r dull o ymdrin ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, yn enwedig yng nghyd-destun y pandemig COVID. Bydd y Llywodraeth hon hefyd yn pwyso am ddatganoli'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy'n cael ei danariannu mewn ffordd a fydd yn gweithio i weithwyr a gweithleoedd yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn gweithio i gefnogi llawr gwaith teg mewn perthynas â hawliau statudol ac amddiffyniadau, ac rydym yn ymdrechu i godi'r terfyn gwaith teg drwy symud y tu hwnt i'r sy'n ofynnol yn gyfreithiol. Wrth gefnogi llawr gwaith teg, rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddiogelu rhag llithro'n ôl ar hawliau gweithwyr, ac i alw am welliant mewn rhai meysydd, gan godi gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a llwybrau cymorth, cyngor ac unioni camweddau lle na chydymffurfiwyd â hawliau, ac adfywio ac atgyfnerthu cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol cadwyni cyflenwi, a gwella ei effaith.
Wrth edrych ar y terfyn gwaith teg, rydym yn defnyddio'r pwrs cyhoeddus i annog arferion da a gwrthsefyll arferion gwael, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu fel arweinydd a model rôl ar gyfer yr ymddygiad a'r arferion rydym am eu gweld gan eraill ac yn bwysig, gwella mynediad at undebau llafur ac annog ehangu cydfargeinio.
Rydym wedi clywed llawer heddiw am ddiswyddo ac ailgyflogi—arfer niweidiol y mae angen deddfu yn ei erbyn. Mae angen i Lywodraeth y DU gadw at yr ymrwymiad a roddodd i gynnal hawliau gweithwyr a byddwn yn parhau i'w dwyn i gyfrif, oherwydd gwyddom nad yw ras i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr o unrhyw fudd i weithwyr, busnesau na'r economi ehangach. Wyddoch chi, daeth diswyddo ac ailgyflogi i ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy ymgyrch y GMB yn Nwy Prydain ac ymgyrch Unite yn British Airways wedyn, ac mae gwir angen i'r realiti gyd-fynd â'r rhethreg gan Lywodraeth y DU ar arferion fel hyn; nid yw gofyn i'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu ddatrys a chynhyrchu canllawiau newydd, fel y maent wedi'i wneud, yn mynd yn ddigon pell i ddiogelu gweithwyr rhag gweithredu o'r fath.
Mewn cyferbyniad, gwyddom fod y cyflogwyr gorau yn darparu gwaith teg ac yn cydnabod manteision gwneud hynny iddynt hwy. Dyna'r ymddygiad rydym am ei sefydlu a'i ledaenu yma yng Nghymru fel ein bod yn adeiladu'n ôl yn well, yn gryfach ac yn decach. Byddwn yn gweithio gyda'n cyflogwyr a'n hundebau llafur i hyrwyddo gwaith teg a manteision partneriaeth gymdeithasol, gan sicrhau bargen deg i weithwyr a gwneud y gweithle yn lle gwell i bawb. Diolch.
Diolch, Dirprwy Weinidog.