Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch am eich cwestiwn pwysig. Mae dau beth yr hoffwn eu cynnig yn fy ymateb, a’r cyntaf yw fy mod yn falch iawn o'r hyn y bu modd i ni ei gyflawni yn ystod tymor diwethaf y Senedd o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Cawsom wared ar y gosb o garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor gan y gwyddom na ddylai ei chael hi’n anodd talu'ch biliau fod yn drosedd. Gwnaethom sicrhau hefyd fod pobl sy'n gadael gofal hyd at 25 oed yn cael eu heithrio rhag baich y dreth gyngor, a buom hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda MoneySavingExpert a Martin Lewis i sicrhau bod pobl â nam meddyliol difrifol yn gallu cael mynediad at yr ystod o gymorth sydd ar gael iddynt i dalu’r dreth gyngor yn arbennig. Felly, gwnaethom lawer o waith ar wneud y dreth gyngor yn decach, ond mae John Griffiths yn llygad ei le nad yw'r system ynddi'i hun yn system flaengar; mae'n system anflaengar, fel y nododd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, gwnaethom gynnal a chomisiynu cyfres o astudiaethau ymchwil, gan gynnwys gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond hefyd gwaith gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, ac eraill, i archwilio sut beth fyddai system decach yn y dyfodol. Roedd yr opsiynau hynny’n cynnwys treth gwerth tir, treth incwm leol, a chadw ein system gyfredol ond ei hailbrisio a chynnwys bandiau ychwanegol o bosibl o fewn y system. Felly, casglwyd yr holl waith hwnnw mewn crynodeb o'r canfyddiadau a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror, a'r dasg yn awr i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y Siambr, gobeithio, yw penderfynu pa un o'r opsiynau hynny, os o gwbl, y dylem fwrw ymlaen â hwy, a sut i wneud hynny. Felly yn sicr, credaf fod gennym ffordd gyffrous o’n blaenau yn nhymor y Senedd hon o ran diwygio trethiant lleol i'w wneud yn decach.