Polisi Treth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 1:38, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae llawer o bobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn cymudo o’r etholaeth i weithio yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a thu hwnt, a'r unig ffordd y gall y bobl hynny fynd i'w gweithle yw drwy yrru oherwydd bod fy etholaeth mor wledig a'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, cynigiodd Llywodraeth Cymru y syniad o dreth ffordd bosibl, a phe bai’n cael ei chyflwyno, gallai effeithio'n andwyol ar bobl weithgar fy etholaeth sydd eisoes yn talu eu trethi i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod economi Cymru’n parhau i dyfu. Weinidog, a allwch gadarnhau heddiw nad yw Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno treth ffordd, gan y byddai hyn yn effeithio'n fawr ar bocedi pobl weithgar Brycheiniog a Sir Faesyfed? Diolch, Lywydd.