Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 23 Mehefin 2021.
Wel, os ŷch chi'n disgwyl i awdurdodau lleol wneud hyn o'u gwirfodd, dwi'n meddwl eich bod chi'n twyllo'ch hunan i raddau, Weinidog. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yma fod yn rhagweithiol i annog yr awdurdodau lleol i fabwysiadu'r gyfundrefn yma. Felly, ydych chi'n cytuno gyda, er enghraifft, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol bod angen gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i beilota hyn, efallai? Efallai bod angen creu rhyw fath o gronfa er mwyn rhoi anogaeth iddyn nhw. Mae gwaith addysgu lleol yn angenrheidiol o safbwynt cyfundrefn etholiadol newydd ac yn y blaen a heb fod yr elfennau yma yn eu lle, dyw e jest ddim yn mynd i ddigwydd. Felly, beth dwi eisiau ei glywed ganddoch chi yw: a oes yna fwriad ganddoch chi i fod yn rhagweithiol yn lle eistedd yn ôl, ac yn y pen draw gweld bod yna ddim byd yn digwydd?