Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 23 Mehefin 2021.
Mae Deddf 2021 yn caniatáu i brif gynghorau ddewis naill ai system y cyntaf i’r felin, neu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Egwyddor allweddol yn Neddf 2021 drwyddi draw yw y dylid gwneud penderfyniadau’n lleol. Ni ddylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn y dewis lleol hwnnw drwy geisio sicrhau bod cynghorau’n defnyddio’r naill system neu'r llall.