Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 23 Mehefin 2021.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog edrych ar nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd ledled Cymru pan gawsom etholiadau’r Senedd? Ond ni allaf feddwl am system etholiadol waeth na’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog edrych ar faint y wardiau a chanlyniadau etholiadau cyngor yr Alban, a gynhaliwyd o dan drefn y bleidlais sengl drosglwyddadwy? A all y Gweinidog ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd, nid i'r cynghorau yn unig, ynglŷn â sut yn union y mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweithio? Oherwydd credaf fod pobl yn sôn llawer am y bleidlais sengl drosglwyddadwy ac mae pawb yn dweud pa mor wych yw hi hyd nes y bydd pobl yn dechrau edrych arni.