Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 23 Mehefin 2021.
O ran etholiadau cyngor yr Alban, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw broblemau rydym wedi'u cael yn 2017 neu 2012, ond mae'n hollol wir fod 2007 yn flwyddyn anodd iawn o ran yr etholiadau hynny, a oedd yn cyfuno etholiadau ar gyfer Senedd yr Alban a llywodraeth leol ar yr un diwrnod. Ond credaf mai'r consensws yw bod y problemau hynny wedi codi'n bennaf oherwydd iddynt gael eu cyfuno ar un papur pleidleisio, a'u bod wedi cyflwyno cyfres o ddatblygiadau arloesol sylweddol ar yr un diwrnod, sef y papur pleidleisio seneddol un ochr, cyfrif electronig a system bleidleisio newydd y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer llywodraeth leol. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i edrych ar brofiadau mewn mannau eraill i ddysgu o'r profiadau cadarnhaol, ond hefyd, yn amlwg, o'r profiadau anos y credaf fod yr Alban wedi llwyddo i'w datrys yn ôl pob golwg.