Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf innau eich llongyfarch chi hefyd ar eich ail apwyntiad fel y Gweinidog? A dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu perthynas adeiladol gyda chi dros y blynyddoedd nesaf. Dwi innau hefyd yn mynd i barhau gyda thema'r RDP, os caf i? Mae llawer o sylw wedi cael ei roi dros y misoedd diwethaf i ariannu'n llawn y cynllun datblygu gwledig, ac mae'r cynllun, fel rydym ni i gyd yn gwybod, yn hollbwysig i Gymru wledig, gan gefnogi ffermydd yn uniongyrchol a hefyd i ddatblygu projectau economaidd ac amgylcheddol.
Er hyn, mae yna gonsýrn ymhlith y sector fod Llywodraeth Cymru yn mynd i fethu â gwario cyllideb y cynllun hwn yn llawn erbyn diwedd y cyfnod ariannu yn 2023. Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, dim ond ychydig dros 60 y cant o gyllid y cynllun hwn sydd wedi ei wario hyd yn hyn. Os yw'r Llywodraeth am wario'r holl arian sydd yn y gronfa, sef £838 miliwn erbyn Rhagfyr 2023, bydd yn rhaid sicrhau cynnydd sylweddol yn y gyfradd gwariant misol o £6 miliwn i £10 miliwn, sydd yn dipyn o naid. Felly, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi yn eu lle i sicrhau bod yr holl arian hwn yn cael ei wario er mwyn cefnogi'n hardaloedd gwledig? Ac a ydy'r Gweinidog yn derbyn, os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwario'r arian yn llawn, y bydd hyn yn rhoi esgus arall i Lywodraeth San Steffan i roi llai o gyllideb i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod, gan beryglu sefydlogrwydd economaidd a hyfywedd ein diwydiant amaeth?