Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch. Hoffwn eich croesawu i'ch rôl fel llefarydd yr wrthblaid, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chithau hefyd. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da iawn mewn perthynas â chyflawni rhaglen ein cynllun datblygu gwledig. Mae dros £512 miliwn eisoes wedi'i wario. Fel y dywedwch, mae £362 miliwn pellach i'w wario dros y tair blynedd nesaf, ac yn sicr rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy swyddogion sy'n monitro'r cynllun datblygu gwledig, ac ar hyn o bryd rydym yn hyderus iawn y bydd y cyllid hwnnw'n cael ei wario.