Anifeiliaid Fferm sy'n Crwydro

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:50, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Byddwn yn awgrymu efallai y dylai'r Llywodraeth wneud hynny. Mae'r rheini ohonom sy'n byw ac sydd wedi cael ein magu ym Mlaenau'r Cymoedd wedi hen arfer gweld defaid o amgylch ein cymunedau fel rhan o natur y lle. Ond yr hyn a welsom yn ddiweddar yw methiant yr awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent i gynnal ffensys a chynnal yr ardaloedd tir comin lle mae ganddynt gyfrifoldebau, sydd wedi golygu bod gennym broblem sylweddol o ran lles anifeiliaid yn y fwrdeistref. Cafodd saith anifail eu lladd mewn un ddamwain ar drothwy'r etholiad ym mis Mai, ac mae hyn yn peri gofid eithriadol i'r ceidwaid a'r ffermwyr, ond hefyd i bobl sy'n gorfod tystio i hynny. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod yna gyrff statudol yma gyda chyfrifoldebau, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru, yn gyntaf oll, gynnal yr asesiad y soniais amdano, ac yna sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaethau a'u cyfrifoldebau yn y materion hyn.