Anifeiliaid Fferm sy'n Crwydro

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:51, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, ac fel y dywedwch, ym mis Mai eleni, adroddwyd bod nifer anarferol o uchel o ddefaid yn crwydro o amgylch y trefi yn eich etholaeth. Roedd pobl yn amlwg yn pryderu am y posibilrwydd y byddai damweiniau'n cael eu hachosi, a hefyd wrth gwrs am les yr anifeiliaid eu hunain, fel y dywedwch. Rwy'n credu ei bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith y dylai unrhyw un sydd â phryderon gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cyfrifoldeb perchnogion tir yw cynnal ffiniau, ond os caiff ffensys eu difrodi'n fwriadol, er enghraifft, dylid rhoi gwybod i'r heddlu. Rydych yn awgrymu bod angen inni wneud gwaith pellach gyda'r awdurdod lleol, ac rwy'n ymrwymo i wneud hynny, ac yn amlwg, i hysbysu'r Aelod pan fydd hwnnw wedi'i gwblhau.