Anifeiliaid Fferm sy'n Crwydro

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:52, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r holl Aelodau a llawer o bobl mewn cymdeithas. Mae da byw sy'n crwydro'n broblem, yn ogystal â phobl sy'n crwydro cefn gwlad a'r peryglon y mae hynny'n eu hachosi i dda byw, a pheryglon y mae da byw yn eu hachosi i bobl, ac rydym wedi gweld damweiniau trasig yn y blynyddoedd diwethaf. A ydych yn ymwybodol o gynlluniau a gyflwynwyd yn ne-orllewin Lloegr sydd wedi rhoi caniatâd dros dro i ddargyfeirio llwybrau cerdded er mwyn diogelu cerddwyr a phobl sy'n mwynhau cefn gwlad, yn ogystal â da byw? Ac os ydych yn ymwybodol ohonynt, a gaf fi eich annog i gael trafodaeth gyda'r Gweinidog newid hinsawdd, sy'n gyfrifol am hawliau tramwy cyhoeddus, i annog mwy o bobl i fanteisio ar y mathau hyn o gynlluniau er mwyn osgoi damweiniau trasig yng nghefn gwlad a gwella lles anifeiliaid?