Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:38, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei fod yn un o'r llythyrau mwyaf haerllug imi fod yn ddigon anffodus i'w dderbyn, a bod yn berffaith onest gyda chi. Credaf fod yr hyn a ddywedwch yn anghywir ynglŷn ag ystadegau. Os edrychwch ar y duedd sy'n sicr wedi bod yn digwydd dros y 33 mis diwethaf, rwy'n credu, rydym wedi gweld gostyngiad yng nghyfanswm 12 mis y buchesi ag achosion newydd ac rydym wedi cael gostyngiad o 2 y cant yn nifer yr achosion newydd yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021. Ac yn amlwg, yn ôl y wybodaeth a gawsom, mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn TB yn ardaloedd dyffryn Conwy, sir Ddinbych a Phennal, sef yr ardaloedd y tynnodd Janet Finch-Saunders sylw'r Prif Weinidog atynt rwy'n credu, wedi'u hachosi i gychwyn gan symudiadau i'r ardal o ddaliadau mewn ardaloedd lle ceir mwy o achosion o TB, ac yna gan symudiadau lleol o fewn yr ardal honno, yn enwedig o fewn daliadau o dan yr un rheolaeth fusnes.