Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:39, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, ond mae'r canlyniadau negyddol ffug sy'n deillio o'r prawf croen TB buchol presennol yn dangos, os yw symud yn digwydd o dan bolisi Llywodraeth Cymru, fod y polisi'n methu yma.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar, fodd bynnag, fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwario'r swm enfawr o £136,000 ar eu harwydd Caerfyrddin Hollywood-aidd ar ochr y gerbytffordd A40 tua'r dwyrain gydag arian yn dod o gynllun datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Mae hyn, ynghyd â chanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian yn niffyg cystadleuaeth, yn dangos nad yw'r cynllun datblygu gwledig yn addas at y diben ar ei ffurf bresennol. Weinidog, a allwch chi gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw ymrwymo i adolygiad annibynnol llawn o'r cynllun datblygu gwledig er mwyn sicrhau nad yw prosiectau rhodres a ffafriaeth bellach yn cymylu barn y Llywodraeth ynghylch gweinyddu grantiau'r cynllun datblygu gwledig?