Y Rhaglen Datblygu Gwledig

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 3:07, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Un o amcanion y rhaglen datblygu gwledig yw hyrwyddo twf economaidd cryf a chynaliadwy yng Nghymru. I lawer o ffermydd a busnesau gwledig, mae hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflawni drwy arallgyfeirio eu busnesau. Mae rhai yn fy rhanbarth i, yn enwedig yng Ngŵyr, wedi ystyried arallgyfeirio i dwristiaeth, ond mae llawer wedi dweud wrthyf ei bod yn broses eithaf hir a biwrocrataidd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog amlinellu'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau eraill sy'n awyddus i wneud yr un peth yn y dyfodol?