Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Mehefin 2021.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r ddau Weinidog y cyfeirioch chi atynt yn ystod y mis neu fwy diwethaf o'r Llywodraeth newydd, ond yn amlwg, ar ôl bod yn gyfrifol am y portffolio yn y tymor blaenorol, rwyf wedi cael y trafodaethau ynglŷn â sicrhau bod ein hardaloedd gwledig yn cael y cyllid sydd ei angen arnynt, oherwydd mae'n amlwg bod gan ardaloedd gwledig ofynion ac anghenion gwahanol. Fe sonioch chi am drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft; yn sicr, rydym wedi cael y trafodaethau hynny o'r blaen.
Mewn perthynas â'r rhaglen datblygu gwledig, mae'n bwysig iawn fod y prosiectau a ariennir yn sicrhau'r manteision angenrheidiol i'r ardaloedd y maent yno ar eu cyfer a bod y rhaglenni a'r prosiectau hynny'n cael eu monitro. Mae rhai arfarniadau sylweddol ar y gweill yn eich rhanbarth ar hyn o bryd mewn perthynas â phrosiectau'r rhaglen datblygu gwledig yno. Mae adferiad COVID yn amlwg yn faes lle rydym yn ceisio sicrhau nad yw ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl. Ac mae gennym y cynlluniau buddsoddi mewn busnesau gwledig ar gyfer prosiectau bwyd a phrosiectau anamaethyddol, ac rydych newydd gyfeirio at rai ohonynt.