Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch. Yn sicr, mae'n gyfnod gofidus iawn i ffermwyr. Gwn pa mor dorcalonnus yw cael achos o TB. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym y cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny hefyd, lle rydym yn ymdrin â'r achosion anodd hynny. Fe sonioch chi am y profion maes rydym yn eu cynnal mewn perthynas â'r brechlyn hwn. Nod y prosiect, pan fyddwn wedi cael y treialon maes llwyddiannus hynny, yw gwneud cais i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol fel y gallwn gael awdurdodiadau marchnata ar gyfer y brechlyn BCG i wartheg a phrofion croen DIVA erbyn 2025. Nid oes gennyf ddiweddariad, mae'n debyg, ers yr un olaf a roddais, ond rydym yn gobeithio cwblhau'r treialon maes erbyn diwedd 2024. Ond yr hyn y byddwn yn ei wneud yw cyflwyno adroddiadau cynnydd dros y ddwy i dair blynedd nesaf.