Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 23 Mehefin 2021.
Mae'n peri pryder imi, fel pawb yma, pan fydd ffermydd yn cael achosion o TB. Gwyddom ei fod yn greulon, yn drawmatig, ac yn glefyd rydym eisiau ei ddileu. Yr unig adeg rwyf wedi anghytuno gydag Aelodau o'r Senedd yw ar ddifa moch daear; mae llawer o foch daear wedi'u difa dros ddegawdau lawer, ac eto mae TB yn dal i fodoli. Fodd bynnag, Weinidog, rydym wedi gwneud cynnydd da a bu gostyngiad o 44 y cant yn nifer yr achosion yn ystod y degawd diwethaf. Fe sonioch chi am raglen brechu gwartheg a oedd ar y gweill—roedd yn arloesol—a hoffwn glywed a oes gennych unrhyw ddiweddariad ynglŷn â'r rhaglen frechu honno.