Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch, Gweinidog. Er gwaethaf y ffaith bod y rhaglen datblygu gwledig wedi rhedeg am nifer o flynyddoedd gyda'r nod o hyrwyddo twf economaidd gwledig cynaliadwy, rydyn ni'n dal i weld lefelau incwm yn rhai o'n hardaloedd gwledig ni yng Ngorllewin De Cymru yn styfnig o isel. Wrth gwrs, mae gan raglenni fel bargen ddinesig bae Abertawe y potensial i gefnogi twf mewn cymunedau gwledig, gyda ffocws ar ddarparu gwell cysylltedd digidol a allai arwain at ddatblygiad economaidd, ond mae tlodi gwledig yn amlweddog ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag e ar draws Llywodraeth. Mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn enwedig yn codi dro ar ôl tro fel ffactor sy'n effeithio ar gyfleon economaidd ac ar ansawdd bywyd trigolion. Mae torri ar wasanaethau bysiau yn enwedig, yn sgil y pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol ac yn sgil COVID, yn broblem ddifrifol. Felly, hoffwn ofyn ichi ba drafodaethau rydych chi'n eu cael ar hyn o bryd gyda'ch cyd-Weinidogion, yn enwedig y Gweinidogion dros yr economi a chyfiawnder cymdeithasol, ynghylch datblygu strategaeth economaidd a dileu tlodi wedi ei theilwra ar gyfer cymunedau gwledig dros y blynyddoedd nesaf. Diolch.