TB mewn Gwartheg

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:09, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn eich holi am eich profion a'ch strategaeth profi. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw rhai gwartheg sydd wedi'u heintio â TB yn cael eu canfod gan brofion Llywodraeth Cymru ei hun, ac mae hyn yn amlwg yn destun rhwystredigaeth fawr i'r diwydiant ffermio pan fydd y Prif Weinidog ei hun yn ceisio rhoi'r bai ar ffermwyr, fel y soniwyd yn gynharach yn y sesiwn hon gan fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz. Ni fyddwn yn datrys y problemau os bydd profion Llywodraeth Cymru ei hun yn methu canfod gwartheg sydd wedi'u heintio â TB. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, a ydych yn cydnabod y broblem? Pam nad yw gwartheg sydd wedi'u heintio â TB yn cael eu canfod gan brofion Llywodraeth Cymru ei hun, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r canlyniadau negyddol ffug er mwyn atal TB rhag lledaenu?