Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 23 Mehefin 2021.
Nid wyf yn credu mai dyna a wnaeth y Prif Weinidog o gwbl. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cynharach i Samuel mai'r hyn y cyfeiriai ato oedd y wybodaeth a roddwyd i ni mewn perthynas ag achosion tebygol y cynnydd mewn ardal lle na cheir llawer o achosion o TB. Rwy'n credu bod M. bovis yn organeb anodd iawn i'w chanfod. Nid oes un prawf na chyfuniad o brofion ar gael sydd â phenodolrwydd 100 y cant, nad yw'n canfod unrhyw ganlyniadau cadarnhaol ffug ac sydd â sensitifrwydd 100 y cant. Ni allant ganfod yr holl anifeiliaid sydd wedi'u heintio â TB. Felly, rydym yn defnyddio profion gwaed ychwanegol, er enghraifft, megis y prawf gama interfferon a'r prawf gwrthgyrff IDEXX, ac rydym yn darllen y prawf croen o dan amodau llym fel bod y risg o fethu canfod gwartheg heintiedig yn llai. Dyna'r dull rydym wedi'i fabwysiadu mewn ardaloedd TB isel a chanolradd yng Nghymru.