– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 29 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog busnes, mae'n ddigon hawdd i'r Gweinidog addysg gyhoeddi, i'r wasg yn gyntaf, newid seismig yn y ffordd y mae addysg yn ymdrin â'r argyfwng mwyaf iddynt orfod ei wynebu—gan gyhoeddi'r newid enfawr hwn o ran cyfrifoldeb ac unrhyw gyfle o gael y bai am gael gwared ar y masgiau, y swigod a'r pellter cymdeithasol i ysgolion unigol. A allai'r Gweinidog ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad brys ar lawr y Siambr hon, yn hytrach na briff i'r wasg, yn amlinellu sut yn union y bydd yn sicrhau na fydd loteri cod post yn digwydd nawr o ran darparu addysg yng Nghymru?
Ac yn sgil y cyhoeddiad hwnnw hefyd, Llywydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog perthnasol am eglurder brys ynghylch gwisgo masgiau, gyda phwyslais arbennig ar y safiad ar fasgiau mewn ystafelloedd dosbarth, lle mae cynghorwyr gwyddonol y Llywodraeth ei hun wedi dweud eu bod yn gwneud mwy o niwed nag o les? Sut y gall y Llywodraeth hon ddweud wrth bawb eich bod yn cael eich arwain 100 y cant gan wyddoniaeth, ac yna'n symud atebolrwydd o ran gwneud penderfyniadau ar rywbeth yr ydych chi'n honni ei fod mor bwysig, fel gwisgo masg, i bobl nad ydynt yn ymwybodol o'r un cyngor gwyddonol? Nid yw hyn yn deg i benaethiaid ein hysgolion. Ac fe fyddwn i hefyd yn rhybuddio bod hyn yn anfon neges ddryslyd i'r cyhoedd yng Nghymru, ynghylch a oes gwir angen cadw at y cyngor gwyddonol. A gaf i annog y Gweinidog i gael rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog ynglŷn â'r newid hwn ar y llawr hwn yn y Siambr hon? Diolch.
Rwy'n credu bod y cynadleddau i'r wasg—ac fe wnaethoch chi gyfeirio at gynhadledd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i'r wasg ddoe—wedi bod yn dda iawn o ran rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd, y bobl y mae'r pandemig COVID-19 yn effeithio fwyaf arnynt, a'r rheoliadau yr ydym ni wedi'u rhoi ar waith, ac mae'r Gweinidog yn dod gerbron y Siambr hon y rhan fwyaf o wythnosau mewn cysylltiad â'i bortffolio.
O ran masgiau mewn ystafelloedd dosbarth, unwaith eto, fel Llywodraeth, nid yn unig rydym wedi cyflwyno'r penderfyniadau a wnaed; rydym wedi sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r rhesymau pam y gwnaed y penderfyniadau hynny, ac rwy'n siŵr y bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol o hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi cael cyfarfodydd gyda'n prif gynghorydd gwyddonol a'n prif swyddog meddygol pan ydym wedi gwneud y penderfyniadau hynny, a'r wyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw. Felly, mae'r dystiolaeth honno a'r wyddoniaeth honno yn bendant ar gael.
Hoffwn i godi mater y bydd y Trefnydd yn gyfarwydd ag ef yn ei rôl weinidogol. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae Gweinidogion tebyg iddi hi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithio gyda phartneriaid yn y sector i greu rhaglen dal a rhyddhau—catch and release—ar gyfer y tiwna glas, yr Atlantic bluefin tuna, sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn y moroedd o gwmpas sir Benfro a Cheredigion yn ddiweddar, sydd yn newyddion da, wrth gwrs. Mae rhaglenni tebyg sy'n cyfuno gwyddoniaeth forol a physgota masnachol wedi dod â buddion deublyg o ran casglu data ar y naill law a chreu hwb economaidd i gymunedau arfordirol ar y llaw arall. Mae cynlluniau tebyg eisoes mewn grym mewn llefydd fel Sweden, Denmarc a Gweriniaeth Iwerddon. Yn anffodus, yng Nghymru rŷn ni ar ei hôl hi, ac mae'n ymddangos bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gadael partneriaid pwysig fel Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru allan o'r drafodaeth a allai ddod ag arbenigedd a gwybodaeth bwysig pe bydden nhw'n cael eu cyfle i gyfrannu. Felly, er fy mod i wedi ysgrifennu y bore yma at y Gweinidog yn amlinellu'r achos yn fwy manwl, a gaf i ar frys ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru cyn yr haf ar eu cynlluniau i gyflwyno rhaglen dal a rhyddhau a thagio—CHART—yng Nghymru? Gyda thymor y tiwna yn dechrau ym mis Awst, dŷn ni ddim am i'r llong hon hwylio ar draws y Deyrnas Unedig gyda Chymru'n cael ei gadael ar y lan, yn colli allan ar fuddion a allai fod yn enfawr i'n cymunedau glan môr. Diolch yn fawr.
Diolch. Nid wyf wedi gweld y llythyr y gwnaethoch ei ysgrifennu ataf i y bore yma. Ond rwy'n gwybod bod rhywfaint o gyngor yn aros amdanaf ar fy nesg i fyny'r grisiau y byddaf i'n sicr yn ei glirio cyn diwedd yr wythnos hon, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod gydag ymateb i'w lythyr, gyda fy mhenderfyniad.
A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Llywodraeth ynghylch cladin ar adeiladau? Yn Nwyrain Abertawe ac ardal SA1, mae cladin gan sawl adeilad ac mae nifer fawr o unigolion yn bryderus iawn am y gost o gael gwared arno a gwneud yr adeiladau'n ddiogel. Rwy'n gwybod bod y broblem hon hefyd yn bodoli mewn etholaethau eraill, gan gynnwys Gorllewin Abertawe a Chaerdydd—nid wyf eisiau eu rhestru oherwydd mae'n debyg y byddaf yn cael rhywfaint ohonynt yn anghywir. Ond mae angen help ac ateb ar bobl i ymdrin â'r broblem hon. Mae pobl yn cael nosweithiau di-gwsg. Rydym ni'n sôn yn aml am y niwed i iechyd meddwl pobl. Os oes gennych chi adeilad gwerth £100,000 neu £150,000 ac rydych yn sylweddoli nad yw'n werth dim bellach ac rydych yn dal i dalu amdano, ni allaf feddwl am unrhyw beth gwaeth i effeithio ar eich iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cael datganiad o'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, a pha drafodaethau y maen nhw'n eu cael â San Steffan, oherwydd mae yna lawer o bobl sy'n poeni'n fawr iawn am hyn.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon eisiau sicrhau bod adeiladau uchel mewn sefyllfa dda i amddiffyn bywydau os, yn anffodus, y bydd tân yn digwydd. Wrth gwrs, nid cladin yw'r unig bryder ynghylch adeiladau preswyl uchel. Yr hyn a wnawn ni fel Llywodraeth yw argymell dull cyfannol o adfer adeiladau, ac mae hynny hefyd yn cynnwys systemau rhybuddio am dân, gwacáu adeiladau a llethu tân. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Newid Hinsawdd a'i swyddogion yn gweithio i ddatblygu rhaglen ariannu sydd wedi'i chynllunio i dargedu'r gefnogaeth gywir ar gyfer mater cymhleth ond pwysig iawn.
O ran eich cwestiwn ynghylch Llywodraeth y DU, rwy'n ymwybodol, fel Llywodraeth, ein bod ni eisoes wedi ymrwymo £32 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am unrhyw gyllid canlyniadol yn dilyn eu cyhoeddiad diweddar.
Hoffwn i ddechrau drwy ddatgan fy muddiant fel cynghorydd sir ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae gan y gogledd enw eithriadol o dda am ddarparu digwyddiadau o'r radd flaenaf a bod yn gyrchfan o'r radd flaenaf. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu strategaeth ddiwylliant arloesol newydd sy'n rhoi diwylliant wrth wraidd yr holl ddatblygiadau economaidd ac adfywio, gan fanteisio ar bopeth y mae gan y diwylliant hwnnw i'w gynnig. Yn sicr, fel chi, roeddwn i wrth fy modd o weld bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025, a bydd y cais hwn yn creu cysylltiadau ledled Conwy a ledled y gogledd, rhwng cymunedau gwledig a threfol, rhwng cenedlaethau hŷn ac iau, a rhwng ein mynyddoedd a'r môr. Gyda Chonwy wrth y llyw ac yn gweithio gyda phartneriaid ledled y gogledd, byddai ennill gwobr Dinas Diwylliant y DU yn sicrhau manteision hirdymor i Gymru gyfan a byddai, unwaith eto, yn rhoi ein gwlad ar y radar rhyngwladol am y rhesymau iawn. Byddwn i'n croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu ei chefnogaeth i gais Conwy i sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU ac i glywed sut y byddai'r Llywodraeth yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau ein bod ni'n llwyddiannus yn y cais hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, o wybod hanes y digwyddiadau y llwyddodd cyngor Conwy i'w cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw'n bendant wedi bod yn eithriadol ac, yn sicr, byddaf yn gofyn i Weinidog yr Economi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Dau gais sydd gen i i'r Llywodraeth, yn ymwneud â'r un pwnc, a dweud y gwir. Yn y lle cyntaf, buaswn yn gofyn yn garedig i'r Trefnydd i sicrhau bod y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru i longyfarch carfan pêl-droed cenedlaethol Cymru ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni yn yr Ewros. Mae yna wastad ychydig o rwystredigaeth, efallai, y gallem ni, ar ddiwrnod arall, fod wedi mynd ychydig yn bellach yn y gystadleuaeth, ond pan fyddwn ni'n gweld rhai o'r timau honedig fawr sydd hefyd wedi mynd allan yn yr un rownd â ni, dwi'n meddwl ein bod ni mewn cwmni da, ac mae hynny'n ein hatgoffa ni, efallai, o ba mor dda mae'r garfan wedi gwneud a'n bod ni i gyd, wrth gwrs, yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi ei gyflawni.
A gaf i hefyd ofyn i'r Llywodraeth ysgrifennu at UEFA i ofyn iddyn nhw beidio â mabwysiadu'r un fformat mewn cystadlaethau yn y dyfodol, oherwydd mae wedi creu annhegwch y tro yma—y ffaith, wrth gwrs, fod rhai gwledydd wedi gorfod teithio miloedd lawer o filltiroedd i gyflawni eu gemau nhw, tra bod yna wledydd eraill, wrth gwrs, wedi teithio dim o gwbl gan eu bod nhw wedi chwarae eu gemau grŵp i gyd gartref? Mae hynny wedi rhoi mantais annheg i rai gwledydd ac wedi creu anfantais annheg i wledydd eraill, ac mae hynny yn erbyn ysbryd y gystadleuaeth, yn fy marn i. Mi fyddai llythyr gan y Llywodraeth at UEFA yn mynegi hynny ar ran, efallai, y Senedd yma ac yn sicr ar ran cefnogwyr pêl-droed Cymru a charfan bêl-droed Cymru, yn rhywbeth y buasem ni'n ei werthfawrogi.
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch cyflawniadau sgwad Cymru o ran cyrraedd yr 16 olaf am yr eildro—rwyf wedi aros erioed i'r sgwad gyrraedd twrnamaint mawr am y tro cyntaf, dim ond iddyn nhw wneud hynny ddwywaith. A phe byddai rhywun wedi dweud wrthyf ychydig wythnosau'n ôl y byddem ni'n mynd allan o'r twrnamaint yr un pryd â Ffrainc, byddwn i wedi credu y byddem o leiaf wedi cyrraedd y rownd gynderfynol. Felly, rwy'n credu, fel y dywedwch chi, eu bod nhw wedi gwneud gwaith gwych. Ac roedd yn rhwystredig iawn ddydd Sadwrn, ond fe wnaethom ni i gyd fwynhau'r daith i gyrraedd yr 16 olaf hyd at ddydd Sadwrn diwethaf. Felly, yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Prif Weinidog ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny.
Rwy'n credu bod eich ail bwynt ynghylch yr annhegwch—. Yn sicr, pan fydd gennych chi dwrnamaint sy'n mynd o gwmpas 11 o wledydd, nid wyf i'n bersonol yn gweld pam y dylai unrhyw wlad chwarae gartref. Ac, fel y dywedoch, roedd yn annheg iawn nad oedd rhai gwledydd wedi teithio o gwbl—rhai a oedd yn chwarae heno—ac fe deithiodd ein gwlad ni, rwy'n credu, 5,500 milltir. Felly, yn sicr, os yw UEFA yn mynd i'w gymryd i fwy nag un wlad, rwy'n credu bod angen rhywfaint o gydraddoldeb na welwyd y tro hwn, yn bendant.
Trefnydd, rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddoe, os ydych chi wedi cael eich brechu yng Nghymru, y gallwch chi lawrlwytho pàs COVID Cymru ar-lein er mwyn dangos, i bwy bynnag sydd angen gwybod, eich bod chi wedi eich diogelu gan ddau bigiad. Ac mae hyn yn ymddangos i mi yn enghraifft dda iawn o sut yr ydym ni'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a data ar-lein i sicrhau nad ydym yn defnyddio adnoddau gweithwyr iechyd proffesiynol ar gyfer rhywbeth y mae modd ei wneud yn electronig. Felly, mae hynny'n beth ardderchog. Tybed a oes modd inni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar y trefniadau ar gyfer tystysgrifau brechu i'r rhai sydd wedi cael un pigiad yng Nghymru a'r llall yn Lloegr. Mae llawer iawn o fy etholwyr i sydd, er enghraifft, yn astudio yng Nghaerdydd ond yn byw yn Lloegr neu rywle arall, ac mae angen inni sicrhau nad ydynt yn gyndyn o gael y brechiad cyn gynted â phosibl am eu bod yn wynebu'r cymhlethdod o fethu â gallu dangos eu bod wedi cael dau bigiad. Felly, byddai hynny'n wych, os gallem gael y datganiad hwnnw—byddai datganiad ysgrifenedig yn iawn.
Yn ail, nid yw'r pandemig wedi diflannu, ac mae llawer o gyfyngiadau o hyd ar y rhyddid i symud. Nid wyf i'n sôn am wrthwynebiad y Swyddfa Gartref i geiswyr lloches, ond am yr argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n ei gwneud yn ofynnol inni reoli'r rhyddid i symud o un wlad i'r llall. Mae ysgolion iaith yn fy etholaeth i wedi cael eu heffeithio’n fawr, yn amlwg, gan anallu myfyrwyr tramor i ddod i astudio Saesneg yma. Nid oes ganddyn nhw unrhyw gwsmeriaid o gwbl, ac roedd ganddyn nhw rai o'r blaen. Felly tybed a gawn ni ofyn i Weinidog yr economi ystyried, yn hytrach na rhoi grantiau i sefydliad na all weithredu dan y model busnes arferol, y byddai modd eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau i bobl yn y wlad hon y mae angen Saesneg arnyn nhw, dosbarthiadau ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill—er enghraifft, pobl sydd wedi cael statws ffoadur yn ddiweddar—fel y gallan nhw ddod yn aelodau llawer mwy effeithiol yn economaidd o'n cymuned. Yn yr un modd, rwy'n credu y gallech chi gael yr un gyfatebiaeth ar gyfer cerddorion, dyweder, nad yw'n hyfyw yn ariannol iddynt gynnal cyngherddau, oherwydd y cyfyngiadau ar niferoedd mewn unrhyw le penodol, ond sydd yn amlwg yn meddu ar sgiliau gwych ac y gallem fod yn eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau mewn ysgolion neu mewn cartrefi gofal neu rywle arall.
Diolch, Jenny, am y ddau bwynt hynny. O ran eich pwynt cyntaf ynglŷn â'r gallu i gael yr ardystiad ar-lein, rwy'n credu, fel yr ydych chi'n ei ddweud, fod croeso mawr iddo. Ac fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol o ran pandemig COVID-19, felly byddaf yn gofyn iddi ystyried rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei diweddariad wythnosol nesaf.
O ran eich cwestiwn ynghylch Saesneg fe ail iaith ac ysgolion iaith, mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd ac ansicr, fel yr ydych chi'n ei ddweud, i fusnesau ac yn amlwg i'r diwydiant addysgu Saesneg yn ei gyfanrwydd. Rydym yn cefnogi busnesau sydd—. Yn amlwg, byddai busnes fel hwnnw'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft, ac unrhyw grantiau cysylltiedig yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r gronfa cadernid economaidd, sy'n unigryw i Gymru. I unrhyw fusnesau sydd â throsiant o lai na £85,000 sy'n gymwys ar gyfer y rownd ddiweddaraf o'r gronfa gadernid economaidd—ac mae'n gyfle da i ddweud hyn heddiw—mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yfory, felly efallai y byddai modd eu hannog i wneud cais erbyn yfory ac, fel arall, mae gennym ni arian gan Fanc Datblygu Cymru y gallan nhw fanteisio arno hefyd. Fe ddylwn i dynnu sylw at borth pontio'r UE a phorth Busnes Cymru ar gyfer cyngor hefyd.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fesurau i annog pobl i newid i gerbydau trydan yma yng Nghymru? Mae cynllun grant Llywodraeth y DU ar gyfer ceir, faniau a thryciau trydan wedi'i ddiweddaru i dargedu modelau llai costus ac adlewyrchu amrywiaeth ehangach o gerbydau fforddiadwy i bobl. Mae hyn yn caniatáu i gyllid y cynllun fynd ymhellach a helpu mwy o bobl i newid i gerbyd trydan. O 18 Mawrth, bydd Llywodraeth y DU yn darparu grantiau o hyd at £2,500 ar gyfer cerbydau trydan neu geir sy'n costio dan £35,000. Cafodd y grant ceir trydan ei gyflwyno 10 mlynedd yn ôl i ysgogi'r farchnad gynnar ar gyfer cerbydau di-allyriadau. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog pobl yma yng Nghymru i newid i gerbydau trydan? Diolch.
Diolch. Rwy'n gwybod bod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd—ac yn sicr, yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth—rywfaint o gyllid sylweddol wrth symud ymlaen i sicrhau bod y seilwaith ar waith, oherwydd, wrth gwrs, nid oes angen i bobl newid i geir trydan heb gael y seilwaith hwnnw ar waith, felly mae cyllid sylweddol wedi mynd gan Lywodraeth Cymru tuag at hynny. Nid wyf yn gwybod a ydym yn ceisio efelychu'r cynllun y gwnaethoch chi gyfeirio ato gan Lywodraeth y DU, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod os felly.
Gweinidog, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio sicrhau £5 miliwn o'i gronfeydd wrth gefn ar gyfer yr ardal leol, wrth inni ddod allan o'r pandemig. Rydym ni i gyd yn gwybod bod cynghorau ledled Cymru wedi dangos arweiniad ac arloesedd lleol yn ystod y pandemig, ac, wrth inni ddod allan ohono nawr, a fyddai'r Gweinidog yn trefnu datganiad i'r Senedd archwilio sut y byddai modd manteisio ar gapasiti llywodraeth leol i gydweithio'n agosach er mwyn sbarduno ein hadferiad economaidd? Diolch.
Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod fod awdurdodau lleol wedi gweithio'n eithriadol o galed ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond cyn y pandemig. Ac maent wedi camu ymlaen i'n helpu ni gyda'n profi, olrhain, diogelu a dosbarthu parseli bwyd. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn y Siambr ac mae wedi clywed eich cais ac mae'n fodlon darparu datganiad arall.
Diolch i'r Trefnydd. Dyma ni, felly, yn cyrraedd diwedd yr eitem yna, ac fe fyddwn ni nawr yn cynnal egwyl fer er mwyn gwneud newidiadau yn y Siambr.