Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 30 Mehefin 2021.
Wel, rwy'n siŵr y bydd Tom Giffard wedi darllen yr adroddiad defnyddiol iawn a llawn gwybodaeth, yn fy marn i, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'n awgrymu y gallai cyflwyno cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru fod yn gatalydd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a lles i bawb. Yn amlwg, mae'n ddyddiau cynnar. Ceir amrywiaeth o safbwyntiau. Rydym yn edrych ar bob un o'r cynlluniau peilot, yn gwrando ar randdeiliaid, ac yn wir, mae wedi'i groesawu'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ein bod yn bwrw ymlaen â'r cynllun peilot hwn. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ymwneud â lleihau tlodi, ond mae hefyd yn ymwneud â rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau a chael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles. Ac rydym yn canolbwyntio ar sut y gellir llunio cynllun peilot incwm sylfaenol bach i gefnogi'r rheini sydd â'r angen mwyaf, gan gynnwys, o bosibl, pobl sy'n gadael gofal.