Incwm Sylfaenol Cyffredinol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 1:33, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog fod Plaid Cymru yn gefnogol iawn i incwm sylfaenol cyffredinol, ac edrychwn ymlaen at weld y cynnig terfynol gan y Llywodraeth ar y cynllun peilot. Yn gyflym iawn, a yw'r Gweinidog wedi cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod trefniant ar waith fel na fydd unrhyw daliad incwm sylfaenol yn cyfrif yn erbyn unrhyw dderbynwyr a allai hefyd fod yn derbyn credyd cynhwysol? Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno mai'r peth olaf yr hoffem ei weld yn digwydd yw bod y rheini sy'n derbyn incwm sylfaenol yn waeth eu byd yn y pen draw.