2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ar ffyrdd y gellid hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy ddeddfwriaeth? OQ56672
Diolch, Jack Sargeant. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r sector cyfreithiol ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n ymwneud â chyfiawnder.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad amlwg—a'ch ymrwymiad hirsefydlog—i gyfiawnder cymdeithasol. Yn eich sgyrsiau â'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, pa gyfeiriadau a wnaed at y toriadau i gymorth cyfreithiol, ac a ydych yn cytuno bod toriadau Llywodraeth y DU yn golygu ei bod yn llawer anos i'r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl ddosbarth gweithiol, gael cyfiawnder yng Nghymru a ledled y DU gyfan? Ac a wnewch chi hefyd gytuno, Gwnsler Cyffredinol, i gyfarfod â mi a fy swyddfa i drafod y mater hwn ymhellach?
Wel, yn gyntaf oll, rwy'n fodlon cyfarfod â chi ac unrhyw Aelodau eraill mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder a'r materion sy'n ymwneud â chymorth cyfreithiol. Mae'n fater rwyf wedi siarad amdano mewn sesiynau blaenorol yn y Senedd, ac wrth gwrs, mae'n ennyn pryderon y farnwriaeth a chomisiwn Thomas hefyd. Pan gyflwynwyd cymorth cyfreithiol ym 1948, wrth gyflwyno'r adroddiad, cafodd ei ddisgrifio gan yr Is-iarll Simon yn y bôn fel GIG o gyngor a chymorth cyfreithiol i'r bobl. Dywedodd:
'Felly, cymeradwyaf yr Adroddiad hwn i'r Tŷ gyda'r ystyriaeth syml hon, na ddylai unrhyw ddinesydd, beth bynnag fo'r anawsterau sy'n deillio o dlodi, fethu cael y cymorth neu'r cyngor cyfreithiol sydd mor angenrheidiol i sefydlu ei hawliau llawn. Rwyf o'r farn bod hwn yn ddiwygiad hanfodol mewn gwir ddemocratiaeth'.
A chredaf fod y sylw hwnnw yr un mor wir heddiw â phan ddaeth y GIG i fodolaeth. Yr hyn sy'n anffodus mewn rhai ffyrdd yn fy marn i yw bod ethos diben cyngor a chymorth cyfreithiol yn cael ei leihau i fod yn fater o gost yn hytrach nag o rymuso pobl yn sylfaenol mewn democratiaeth. Mae hwn yn fater sydd wedi cael sylw. Cafodd ei grybwyll gan yr Arglwydd Neuberger, fel llywydd y Goruchaf Lys, a ddywedodd:
'Mae torri cost cymorth cyfreithiol yn amddifadu'r union bobl sydd fwyaf o angen i'r llysoedd amddiffyn eu gallu i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol.'
A dywedodd barnwr Goruchaf Lys arall yn 2018, yr Arglwydd Wilson:
'Hyd yn oed lle mae'n ofynnol parhau i ddarparu cymorth cyfreithiol am ddim, er enghraifft i ddiffynyddion sy'n wynebu cyhuddiadau troseddol ac i rieni sy'n wynebu bygythiad y bydd eu plant yn cael eu cymryd oddi arnynt, mae'r DU yn ei ddatgymalu'n anuniongyrchol drwy osod cyfraddau taliadau ariannol i gyfreithwyr ar lefelau mor anfasnachol fel bod y rhan fwyaf ohonynt yn teimlo, yn gyndyn, na allant wneud y gwaith hwnnw. Mae mynediad at gyfiawnder dan fygythiad yn y DU.'
Ac mae wedi bod ers peth amser, ac nid oes ond angen i chi edrych ar y ffigurau dros y degawd diwethaf. Yn 2011, gwerth y gwariant ar gymorth cyfreithiol yng Nghymru mewn termau real oedd £128 miliwn; swm y gwariant ar gymorth cyfreithiol yn awr yw £80 miliwn—gostyngiad o 37 y cant. Gostyngiad sy'n cymharu â gostyngiad o 28 y cant yn Lloegr mewn gwirionedd, a chredaf fod hynny'n dangos nad yn y maes troseddol y bu'r galw gwirioneddol am gymorth cyfreithiol yng Nghymru fel y cyfryw, ond yn hytrach yn bendant iawn yn yr arena gymdeithasol. I bob pwrpas, mae gennym brinder o gyngor bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi symiau enfawr o arian—
Weinidog, rwy'n gofyn i fy nghyd-Aelodau fod yn gryno yn eu cwestiynau; gofynnaf hefyd i Weinidogion fod yn gryno yn eu hatebion hefyd, os gwelwch yn dda.
Diolch ichi am hynny, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu, felly, y gwnaf orffen ar y cwestiwn penodol hwnnw drwy ddweud, yn y bôn, fod y cyngor a'r cymorth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymgais i drwsio'r bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd, ond mae hwnnw yn sicr yn drwsio anfoddhaol.
Mae gormod o bobl anabl yn parhau i ddioddef anghyfiawnder cymdeithasol oherwydd y rhwystrau i fynediad a chynhwysiant a roddir yn eu ffordd ar bob lefel o gymdeithas. Ar 24 Chwefror eleni, pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynnig deddfwriaethol gan Aelod ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain, neu Fil BSL. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar yn y Senedd ers 2003, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yn nhymhorau blaenorol y Senedd, mae hwn yn fater rwyf wedi bod yn ymwneud ag ef ers tro byd yng ngogledd a de Cymru. Byddai fy Mil arfaethedig yn gwneud darpariaeth i annog y defnydd o BSL yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Fel y gwyddoch, fodd bynnag, nodi fy nghynnig deddfwriaethol yn unig a wnaeth y bleidlais yma ym mis Chwefror, ac felly mae angen cynnig Bil yn llwyddiannus yn y Senedd hon fel y gall deddfwriaeth fynd rhagddi, gan ddechrau gydag ymgynghoriad cyhoeddus eang. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol, felly, neu pa drafodaethau y byddwch yn eu cael, ynglŷn â ffyrdd y gellid hyrwyddo amcanion fy Mil arfaethedig drwy ddeddfwriaeth?
Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg, mater i chi yw cynnig deddfwriaethol gan Aelod, a mater i'r Senedd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw cael trafodaethau ar y cyd â'r proffesiwn cyfreithiol am y ffordd y gallwn ddarparu'r cyngor a'r cymorth sy'n rhoi cefnogaeth i'n cymunedau, yr holl rai mwyaf agored i niwed a'r rhai mewn angen. A hoffwn dynnu eich sylw hefyd at y ffaith mai cynigion y Llywodraeth Geidwadol sydd, i bob pwrpas, wedi eithrio cymorth cyfreithiol o'r holl faterion sy'n ymwneud â lles a meysydd cymdeithasol a arferai fodoli flynyddoedd lawer yn ôl a fyddai bellach, mae'n debyg, yn sylwedd y gefnogaeth i rai o'r amcanion sydd gennych mewn gwirionedd. Ond rwy'n fwy na pharod i gael trafodaethau pellach ar y mater hwnnw.